Gwybodaeth » Tai » Dod o Hyd i Lety Rhent » Rhannu Cartref
Yn yr Adran Hon
Rhannu Cartref
Os wyt ti'n rhentu, gallai fod yn rhatach i rannu cartref gyda phobl eraill. Gall y rhain fod yn bobl ddieithr, aelodau teulu, ffrindiau neu hyd yn oed y landlord os wyt ti'n lletya.
Gall gymryd amser i ddod i arfer â rhannu cartref gyda phobl eraill. Mae gan bawb eu harferion eu hun a'u ffordd o wneud pethau, ac mae'n bosib y bydd rhaid i bawb yn y tŷ gyfaddawdu er mwyn creu awyrgylch heddychlon i fyw ynddi.
Gall fod o gymorth trafod yr hyn y disgwylir i bawb eu gwneud o'r cychwyn cyntaf a gosod rheolau sylfaenol y mae pob un yn cytuno arnynt. Er enghraifft, dylai ystyried:
Gwaith tŷ
- Pwy sy'n gyfrifol am lanhau'r llefydd cyffredin fel y gegin a'r ystafell ymolchi?
- A fydd yna rota glanhau i sicrhau bod pawb yn gwneud rhan o'r gwaith?
- Ydy pawb yn gyfrifol am olchi eu llestri eu hun?
Biliau
- Sut rhennir y biliau?
- Pwy fydd yn gyfrifol am dalu'r arian?
- Enw pwy fydd ar y biliau?
Eitemau'r tŷ
- Sut telir am eitemau tŷ cyffredinol fel nwyddau glanhau, sachau sbwriel a phapur tŷ bach?
- Pwy sy'n gyfrifol am brynu'r rhain? A oes rota ar gyfer hyn?
- Dylid cael cronfa y mae pawb yn rhoi arian ynddi er mwyn talu am eitemau fel rhain?
Bwyd
- A fydd pawb yn prynu eu bwyd eu hun neu'n rhannu'r gost?
- A gaiff eitemau bwyd fel llaeth, bara, te neu goffi eu prynu o arian cronfa'r tŷ neu'n unigol?
Gwestai
- Gall cariadon aros dros nos?
- Gall ffrindiau neu deulu aros dros nos/ar y penwythnos?
- Ble fydd gwestai'n aros?
Dod ymlaen â'ch gilydd
- Nid yw unrhyw ddau berson yr un peth a bydd gan bawb farn wahanol ar sut i wneud pethau. Gwranda ar syniadau pawb a chreu trefn y mae pawb yn hapus gyda hi
- Gall byw gyda rhywun fod yn brofiad gwych, ond gall fod yn angerddol ac mae dadlau rhwng cyd-letywyr yn gyffredin nawr ac yn y man. Paid â phoeni os wyt ti wedi dadlau. Ceisia siarad yn ddigyffro gyda'r cydletywr a thrafod beth achosodd y ddadl a sut y gellir datrys y broblem
- Y peth pwysicaf ynglŷn â rhannu tŷ yw parchu'r bobl rwyt ti'n byw gyda nhw. Mae hawl gan bob person i fyw yn y ffordd maen nhw ei heisiau a chael preifatrwydd yn eu cartref eu hun. Dylai ymddwyn tuag at gyd-letywyr yn y ffordd rwyt ti'n disgwyl iddynt ymddwyn tuag atat ti
- Pan fyddi di'n rhannu cartref gyda phobl eraill, y peth pwysicaf yw cyfathrebu. Os oes rhywbeth sy'n dy boeni di, dyweda wrth dy gyd-letywyr. Nid oes rhaid i hyn arwain at ddadl os wyt ti'n siarad â nhw mewn ffordd onest a digyffro. Ceisia ddeall eu barn nhw hefyd
- Os wyt ti'n cael problemau yn rhannu dy gartref ac yn methu siarad â'r cyd-letywyr na dy deulu, gall ffonio Meic am gyngor a help cyfrinachol am ddim neu ymweld â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth am gyngor ar hawliau cyfreithiol