Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Dod o Hyd i Lety Rhent » Rhentu



Rhentu

Pan fyddi di’n chwilio am rywle i rentu, mae'n syniad da ysgrifennu rhestr wirio o'r pethau rwyt ti'n chwilio amdanynt:

  • Ydy'r tŷ neu'r fflat mewn cyflwr da? Gwna nodyn o unrhyw waith trwsio fydd angen ei wneud a gofyn i'r landlord a yw'r gwaith yma am gael ei wneud cyn i ti symud mewn
  • A yw'r eiddo'n ddigon cynnes a beth fydd pris ei wresogi?
  • A yw'r eiddo'n ddiogel? A oes rhywun wedi torri i mewn erioed?
  • Oes larwm mwg yn yr adeilad?
  • Pa fath o le yw'r ardal leol?
  • Oes hawl gen ti ailaddurno? Dod â dodrefn dy hun neu roi lluniau ar y waliau?
  • A yw'r llety wedi'i ddodrefnu? A fydd rhaid i ti brynu dodrefn ychwanegol?
  • Oes unrhyw gostau eraill?
  • Pa filiau sy'n cael ei gynnwys gyda phris y rhent, os unrhyw beth?
  • Os wyt ti'n fyfyriwr, mae'n werth chweil gofyn a fedri di gael rhent hanner pris dros yr haf os na fyddi di'n byw yno

Cytundebau tenantiaeth a thrwyddedau

  • Os wyt ti dan 18, nid oes hawl gyfreithiol gen ti i rentu eiddo (cael tenantiaeth) ar ben dy hun. Fodd bynnag, gall lofnodi cytundeb gyda'r landlord i gael trwydded a fydd yn golygu bod gen ti hawl gan y landlord i aros yn yr eiddo - ond nid yw'n hawl gyfreithiol
  • Fel arfer bydd landlordiaid, asiantau gosod, cymdeithasau tai ac adrannau tai awdurdodau lleol yn gofyn am warantwr cyn rhoi trwydded i berson dan 18 oed. Gwarantwr yw person a fydd yn talu dy rent os na fedri di ei dalu. Os wyt ti'n fyfyriwr, dy riant neu warcheidwad fydd y gwarantwr. Os wyt ti'n gadael gofal ac yn symud i lety ar rent, gall y gwasanaethau cymdeithasol fod yn warantwr
  • Os wyt ti'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn, bydd rhaid i ti lofnodi cytundeb tenantiaeth i rentu eiddo. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol rhyngot ti a'r landlord ac ni all y naill berson neu'r llall dorri'r contract
  • Rhaid i ti gael y cytundeb ysgrifenedig hwn oddi wrth dy landlord. Os na chaiff ei greu o fewn 28 ar ôl i ti ofyn amdano, mae'n drosedd ac efallai y bydd rhaid i'r landlord dalu dirwy. Cysyllta â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth os oes anawsterau gennyt
  • Dylai'r cytundeb tenantiaeth gynnwys y canlynol:
    • enw'r landlord
    • dy enw di
    • cyfeiriad yr eiddo
    • hyd y denantiaeth (os yw'n denantiaeth gyfnod penodol)
    • dyddiad cychwyn y denantiaeth
    • y math o denantiaeth
    • cyfnod rhybudd
    • pris y rhent
    • pryd gaiff pris y rhent ei gynyddu (os nad yw'n denantiaeth gyfnod penodol)
    • yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn y denantiaeth- caiff hwn ei gydio wrth restr gynnwys sy'n nodi dodrefn yr eiddo
    • swm y blaendal / bond a nodyn i ddweud a yw hwn yn ad-daladwy
    • a yw'r rhent yn cynnwys biliau tanwydd a threth dŵr
    • dy rôl fel tenant - e.e. cadw'r eiddo mewn cyflwr da, talu'r biliau tanwydd, y drwydded deledu, dim anifeiliaid anwes ac ati
    • rôl y landlord - e.e. cadw'r eiddo'n ddiogel ac mewn cyflwr da
  • Dylai'r cytundeb tenantiaeth nodi unrhyw waith trwsio y mae'r landlord wedi cytuno ei gyflawni hefyd. Mae'n syniad da cwrdd â'r landlord cyn llofnodi unrhyw beth. Os oes tamp yn yr eiddo neu waith trwsio angen ei wneud, gofynna i'r landlord beth maen nhw am ei wneud
  • Cyn i ti lofnodi contract, sicrha fod yr eiddo mewn cyflwr da, y byddai'n rhad ei wresogi a'r oleuo, bod pris y rhent yn rhesymol a ti'n gallu'i fforddio
  • Hola'r landlord ynglŷn â'r cyflenwadau pŵer ac a oes rhaid i ti gofnodi dy nwy, trydan neu ddŵr gyda chyflenwr. Efallai y bydd rhaid i ti ddarllen y mesuryddion a rhoi gwybod i'r cyflenwyr. Gweler yr adran Biliau
  • Dylai gwirio hefyd i weld os oes gen ti'r yswiriant cywir ar gyfer yr eiddo. Am wybodaeth bellach edrycha ar yr adran Yswiriant Adeilad a Chynnwys
  • Rhaid i ddyfeisiau nwy'r eiddo gael tystysgrifau cymeradwy a rhaid iddynt gael eu gwirio'n aml gan beiriannydd CORGI. Gofynna i'r landlord i gael gweld y tystysgrifau a sicrha fod yr holl ddyfeisiau nwy yn gweithio'n iawn. Os oes rhywbeth yn bod gyda'r dyfeisiau nwy, gall arwain at golli carbon monocsid, a all achosi marwolaeth
  • Rhaid i'r landlord ddarparu tystysgrif gwiriadau diogelwch o fewn 28 diwrnod o'r gwiriad nwy a rhaid cynhyrchu hwn cyn i ti symud i mewn i'r eiddo
  • Gall diffygion yn yr eiddo olygu fod y landlord yn un gwael, felly gwiria fod popeth yn iawn yn yr eiddo cyn llofnodi contract. Os wyt ti'n adnabod unrhyw gyn-denantiaid, gofynna iddynt ynglŷn â'u profiad
  • Os oes unrhyw bryderon gen ti ynglŷn â'r cytundeb tenantiaeth, cysyllta â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Ganolfan Cyngor ar Dai lleol

Llofnodi

  • Pan fyddi di'n llofnodi am eiddo ar rent bydd rhaid i ti dalu blaendal neu fond. Fel arfer bydd hwn yn bris rhent un mis ac fe ddefnyddir i dalu am unrhyw ddifrod neu drwsio sydd angen ei wneud pan fyddi di'n gadael neu os na fyddi di'n talu dy rent. Cadwa dderbynneb am y blaendal a ddylai gael ei ad-dalu pan fyddi di'n symud allan
  • Efallai bydd rhaid i ti dalu mis cyntaf y rhent ymlaen llaw hefyd
  • Gofynna am fanylion cysylltu dy landlord i ddefnyddio mewn argyfwng neu os oes rhywbeth ym mynd o'i le yn yr eiddo, ond gwiria'r amodau galw yn gyntaf. Bydd rhai landlordiaid yn codi ffi arnat ti am ddod draw y tu allan i oriau gwaith pan nad oes argyfwng

Dy Hawliau

Fel tenant, mae gen ti hawliau penodol yn ôl Deddf Landlord a Thenant 1985 a'r Ddeddf Tai 1988. Dywed y rhain fod rhaid i landlord:

  • Roi hawl i denantiaid fyw heb gael eu poeni neu eu trafferthu gan y landlord
  • Darparu eiddo gweddus i bobl fyw ynddo (h.y. glân a diogel)
  • Cynnal y llefydd cyffredin, strwythur yr adeilad a thu allan i'r adeilad
  • Sicrhau bod gwaith trwsio'n cael ei gyflawni'n iawn
  • Dylunio ac adeiladu'r eiddo i safon benodol

Disgwylir i ti:

  • Dalu dy rent mewn pryd
  • Talu'r dreth cyngor, treth dŵr a biliau eraill yr eiddo
  • Cadw'r eiddo'n lân a thaclus
  • Caniatáu i'r landlord ddod mewn i'r eiddo ac edrych arno, cyhyd â'i fod yn rhoi o leiaf 24 awr o rybudd i ti cyn dod

Prydlesau (Leases)

Mae tri math o brydlesau ar gyfer tenantiaid preifat:

  • Tenantiaeth byrddaliad sicr, sy'n golygu bod y landlord yn sicr o gael yr eiddo yn ôl ar ddiwedd cyfnod y brydles
  • Tenantiaeth sicr , lle caiff y denantiaeth ei sicrhau am gyfnod penodol ac fe derfynir trwy orchymyn llys neu os yw'r tenant yn gadael yr eiddo
  • Tenantiaeth reoledig (gwarchodedig) , sy'n cynnig y diogelwch mwyaf yn erbyn cynyddiad ym mhris rhent neu ddadfeddiant (eviction)

Dan y Ddeddf Tai 1985, mae tenantiaid cyngor neu gymdeithas tai yn cael 'Tenantiaeth Sicr'. Maen nhw wedi'u diogelu'n well rhag cynyddiad mewn rhent neu ddadfeddiant na thenantiaid preifat a gallant drosglwyddo'r denantiaeth i'w priod neu eu dibynyddion pe fyddent yn marw.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50