Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Byw Tramor » Ymfudo
Yn yr Adran Hon
Ymfudo
Mae ymfudo, neu fynd i fyw dramor yn barhaol, yn gam mawr y mae angen ei gynllunio’n ofalus.
- Mae pobl yn dewis ymfudo am bob math o resymau gan gynnwys rhesymau ariannol, iechyd a theulu, neu oherwydd eu bod nhw am symud i ffwrdd o amgylchiadau yn eu gwlad frodorol
- Mae gan bob gwlad ei pholisïau ei hun ar ymfudo, felly mae'n werth gwneud dy ymchwil am wybodaeth sy’n benodol i’r wlad honno
- Mae yna wefan annibynnol defnyddiol a fydd yn rhoi'r wybodaeth i ti bydd angen i ti ystyried
Ymfudo dan orfod
- Gall ymfudo dan orfod digwydd i rai pobl sydd naill ai’n ffoaduriaid neu sydd wedi cael eu gwthio allan o’u gwlad oherwydd trychinebau naturiol neu amgylcheddol, neu newyn
- Pobl sydd wedi gadael eu gwlad oherwydd eu bod nhw’n ofni cael eu herlid ar sail eu hil, eu crefydd, eu cenedl a’u barn wleidyddol yw ffoaduriaid
- Mae rhai gwledydd yn derbyn ffoaduriaid ac maen nhw’n cael eu gwarchod dan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR)
- Mae ffoaduriaid yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol ac mae ganddyn nhw hawl i warchodaeth dan yr UNHCR
- Pobl sydd wedi symud dros ffin ryngwladol, ond nad ydyn nhw eto wedi ennill statws ffoadur yw ceiswyr lloches. Nid yw ceiswyr lloches yn cael eu gwarchod dan UNHCR
- Am ragor o wybodaeth gweler yr adran Mewnfudo a Lloches