Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Byw Tramor » Cyfathrebu
Yn yr Adran Hon
Cyfathrebu
Os ydwyt yn ystyried byw dramor, mae’n bwysig dy fod yn cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yr ydwyt yn eu gadael ar ôl er mwyn iddyn nhw wybod dy fod yn ddiogel.
Mae yna lawer o ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â dy deulu a’th ffrindiau, gan gynnwys trwy’r post, trwy e-bost neu negeseuo neu dros y ffôn.
Defnyddio ffôn dramor
- Gall fod yn ddrud ffonio o ffôn symudol dramor, a gallai fod yn syniad da dechrau cytundeb gyda chwmni ffôn newydd dramor
- Neu, efallai dy fod eisiau cadw dy ffôn symudol presennol a chysylltu â dy weithredwr er mwyn sicrhau dy fod yn gallu ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill. Gall y costau amrywio gan ddibynnu ar dy weithredwr ac ar ba wlad yr ydwyt ti ynddi. Gwna'n siŵr dy fod yn gofyn ynglŷn â’r costau yn gyntaf
- Er y gall neges testun syml dweud wrth bobl dy fod yn ddiogel, mae'n well i siarad â rai annwyl o bryd i'w gilydd i roi gwybod iddynt sut yr ydwyt yn ei wneud
- Ni fydd signal ffôn symudol ar gael mewn rhai gwledydd. Mae’n syniad da gofyn ynglŷn â hyn cyn i ti adael
- Os nad ydwyt ti eisiau defnyddio ffôn symudol dramor, gallet ti ddefnyddio ffôn talu a allai fod yn rhatach
- Os ydwyt yn defnyddio llinell tir gallet ti brynu cerdyn galw sy’n ffordd ratach o wneud galwadau
E-bost
- Mae anfon negeseuon e-bost yn ffordd gyflym a hawdd o gadw mewn cysylltiad â phobl
- Cyn belled â bod gennyt ti fynediad i’r rhyngrwyd, mae defnyddio e-bost yn ffordd wych o gysylltu â dy deulu a’th ffrindiau. Gallet ti hefyd anfon lluniau digidol wedi’u hatodi at dy negeseuon e-bost
- Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol WAP erbyn hyn, sy’n dy alluogi i ddefnyddio dy ffôn i anfon negeseuon e-bost. Gwna'n siŵr dy fod yn gwirio’r costau cyn i ti anfon negeseuon
Negeseuo Sydyn
- Mae negeseuo sydyn yn dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd o ’sgwrsio’ dros y rhyngrwyd, ac mae’n gyflymach nag e-bost
- Mae’n caniatáu i ti weld pwy ydwyt yn eu hadnabod sydd wedi mewngofnodi ar y rhyngrwyd, ac anfon negeseuon sydyn atyn nhw
- Bydd defnyddwyr system negeseuo sydyn yn creu ’rhestri bydis’ o’u ffrindiau y gallan nhw anfon negeseuon atyn nhw. Mae’r ’rhestr bydis’ yn dangos pwy sydd ar-lein
Galwadau Llais dros y Rhyngrwyd
- Mae siarad dros y rhyngrwyd yn debyg i ddefnyddio ffôn - gallet ti wneud galwadau i bobl dros y byd i gyd, ond ar gyfradd lawer yn rhatach na galwad ffôn neu alwad ffôn symudol
- Fe fydd rhai cwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yma’n codi ffi fisol a bydd rhai’n codi ffi fesul munud ac mae rhai'n rhad ac am ddim
- I sefydlu’r cyfleuster yma ar dy gyfrifiadur fe fydd angen i ti lawrlwytho rhaglen a defnyddio clustffonau
Am fwy o wybodaeth, gweler y rhan Tecstio a Rhwydweithio Cymdeithasol yn yr adran Pobl yn Dy Fywyd.