Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Byw Tramor » Iechyd a Diogelwch
Yn yr Adran Hon
Iechyd a Diogelwch
Gobeithio y cei di daith ddidrafferth pan fyddi di’n symud tramor, ond mae’n bwysig dy fod yn barod ar gyfer pob digwyddiad posib. Gwna cymaint o ymchwil ag y gallet ti cyn i ti fwriadu mynd.
Mae rhai gwledydd yn llefydd peryglus i deithio iddyn nhw ac mae’n bwysig dy fod di’n sicrhau bod y wlad yr ydwyt eisiau mynd iddi yn ddiogel i deithio ynddi. Gall gwirio hyn â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad.
Iechyd
- Dylet ti fynd at dy feddyg o leiaf dau fis cyn teithio er mwyn sicrhau dy fod di wedi dy frechu yn erbyn afiechydon. Efallai y bydd yn rhaid i ti dalu am rai brechiadau
- Os ydwyt yn mynd i wlad lle allet ti gael malaria bydd yn rhaid i ti ddechrau’r tabledi o leiaf wythnos cyn i ti fynd
- Efallai nad ydwyt yn hoffi’r syniad o gael pigiadau, ond maen nhw’n llawer gwell na rhai o’r afiechydon y gallet ti eu dal os na chei di dy frechu
- Dylet ti hefyd sicrhau bod gennyt ti yswiriant pan yr ydwyt yn mynd i ffwrdd. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Yswiriant
- Nid yw’r ffurflen E111 yn gwarantu gofal iechyd rhatach i ti yn Ewrop bellach. Mae angen i ti nawr gael y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (CYIE). Gallet ti wneud cais am y cerdyn yma yn dy swyddfa bost lleol neu ar-lein
- Mae’n syniad da mynd â blwch cymorth cyntaf bychan gyda thi gyda phethau sylfaenol fel poen laddwyr, plasteri a rhwymynnau, pethau ymlid pryfed a thabledi puro dŵr
- Mae yna ragofalon syml y gallet ti eu cymryd pan ydwyt yn teithio, fel yfed dŵr potel yn unig, a sicrhau bod dy fwyd wedi’i goginio’n iawn cyn i ti ei fwyta
- Gwna'n siŵr dy fod yn yfed digon o ddŵr, a dy fod yn mynd â digonedd o eli haul er mwyn amddiffyn dy hun rhag llosg haul
- Os ydwyt yn bwriadu cael rhyw tra'r ydwyt ar dy wyliau, cer â chondomau gyda thi a gwna'n siŵr bod Nod Barcud y Safon Brydeinig arnyn nhw. Bydd hyn yn dy amddiffyn di rhag y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
Diogelwch
- Cyn i ti fynd i unrhyw wlad, dylet ti ddod i wybod ychydig am gyfreithiau ac arferion y wlad honno
- Mae’n rhaid gwisgo mewn ffordd benodol mewn rhai gwledydd, yn arbennig yn achos merched. Yn aml iawn, os ydwyt yn dilyn esiampl pobl leol ni fyddi di’n digio unrhyw un, a byddi di hefyd yn teimlo’n llawer mwy diogel
- Gallet ti yfed alcohol pan ydwyt yn 18 oed ym Mhrydain, ond yn UDA mae’n rhaid i ti fod yn 21 oed, ac mewn rhai gwledydd nid ydwyt yn cael yfed alcohol o gwbl
- Mae yna gosbau difrifol os ydwyt yn cael dy dal gyda chyffuriau dramor. Mewn rhai gwledydd, marwolaeth yw’r gosb am fasnacha mewn cyffuriau
- Dylet ti bob amser sicrhau dy fod di’n pacio dy fagiau dy hun pan yr ydwyt yn mynd i ffwrdd, a byth cytuno i gymryd unrhyw eitem mae rhywun arall wedi’i rhoi i ti, dim ots pa mor dda yr wyt ti'n eu hadnabod
- Mae llawer o bobl yn teithio ar eu pennau eu hunain heb broblemau, ond os ydwyt yn mynd ar dy ben dy hun mae’n hanfodol dy fod yn cadw mewn cysylltiad cyson â ffrind neu aelod o’th deulu er mwyn iddyn nhw wybod dy fod di'n ddiogel
- Mae yna rai pethau y gallet ti eu gwneud i sicrhau dy fod di’n ddiogel. Cynllunia dy deithiau awyren i sicrhau dy fod di'n cyrraedd yn ystod golau dydd, ac archeba lety ar gyfer dy noson gyntaf fel nad yr ydwyt yn crwydro ar dy ben dy hun yn y nos
- Gofynna i bobl yn y gwesty a oes unrhyw fannau y dylet ti eu hosgoi, a gadawa rywle ar unwaith os ydwyt yn teimlo’n anghyfforddus
- Os ydwyt yn teithio ar gyllideb ac yn ansicr o ba mor ddiogel bydd dy fagiau, mae’n syniad da mynd â chlo a chadwyn gyda thi. Gallet ti ei ddefnyddio hefyd os ydwyt yn poeni nad yw drws y gwesty yn cloi yn iawn
- Mae’n syniad da anfon e-bost at dy hun gyda manylion pwysig fel dy rif pasport, manylion dy bolisi yswiriant, rhifau Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth Prydain a rhifau i’w ffonio rhag ofn y bydd dy gardiau arian di’n mynd ar goll neu’n cael eu dwyn. Fel yna, bydd y wybodaeth yn dal i fod gennyt ti hyd yn oed os ydwyt yn colli popeth arall