Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Byw Tramor » Arian Tramor
Yn yr Adran Hon
Arian Dramor
Cynllunia ymlaen llaw a chyfrifa faint o arian fydd gennyt ti dramor trwy gyfrifo dy incwm a dy wariant.
Os ydwyt yn bwriadu byw dramor yn barhaol neu am amser hir, bydd angen i ti benderfynu p’un ai ydwyt am gadw dy gyfrif banc yn y DU neu agor cyfrif newydd. Bydd dy fanc yn y DU yn dy helpu a’th gynghori trwy fynd drwy dy opsiynau ar gyfer rheoli dy arian dramor.
Yn gyffredinol, mae gennyt ti dri dewis ar gyfer rheoli dy arian dramor:
- Cadw dy arian yn dy gyfrif banc yn y DU
- Agor cyfrif lleol yn dy wlad newydd
- Rhoi dy arian mewn cyfrif banc alltraeth
Cadw dy arian yn dy gyfrif banc yn y DU
- Mae’n syniad da cadw dy gyfrif banc yn y DU ar gyfer ymweliadau gwyliau a rhag ofn y bydd yna argyfwng
- Mae gan lawer o fanciau yn y DU wasanaeth bancio rhyngwladol penodol, felly gofynna i dy fanc cyfredol yn y DU am fwy o wybodaeth
Agor cyfrif lleol yn dy wlad newydd
- Bydd hyn yn rhoi rhywle i ti gadw dy enillion a bydd yn ffordd o ddefnyddio arian lleol i dalu am bethau o ddydd i ddydd
- Efallai y bydd yn cymryd yn hirach i agor cyfrif banc dramor, ac yn bendant bydd angen i ti ddangos prawf o bwy ydwyt ti ac o’th statws preswyl
Rhoi dy arian mewn cyfrif banc alltraeth
- Mae llawer o bobl sy’n byw dramor yn defnyddio cyfrif banc alltraeth i reoli eu harian
- Gallet ti ddefnyddio cyfrif banc alltraeth i reoli dy gyllid o ddydd i ddydd o unrhyw le yn y byd ac yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sy'n teithio i wledydd gwahanol yn rheolaidd