Gwybodaeth » Arian » Dyled » CAB
Yn yr Adran Hon
CAB
Elusen yw'r Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) sy’n darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim o bron i 3,400 o leoliadau, gan gynnwys swyddfeydd CAB lleol, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd.
Mae cyngor ar gael wyneb-yn-wyneb a thros y ffôn. Bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw hefyd yn cynnig i ymweld â thi yn dy gartref, a bydd rhai hefyd yn darparu cyngor drwy e-bost.
Mae'r CAB yn helpu pobl i ddatrys problemau gan gynnwys dyled, budd-daliadau, rhywle i fyw, materion cyfreithiol, gwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, problemau defnyddwyr a phroblemau eraill, ac mae ar gael i bawb beth bynnag fo’u hil, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu hoed, eu cenedligrwydd, eu hanabledd neu eu crefydd.
Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr CAB yn wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn arbennig ac sy’n helpu i ddatrys dros bum miliwn o broblemau i bobl fel ti bob blwyddyn.
Mae cynghorwyr CAB yn cynnig gwasanaethau sy’n cynnwys:
- Ysgrifennu llythyrau a gwneud galwadau ffôn i gwmnïau a darparwyr gwasanaethau ar ran pobl
- Helpu pobl i flaenoriaethu eu dyledion a thrafod telerau â chredydwyr
- Cynrychioli pobl yn y llys ac mewn tribiwnlysoedd, a chyfeirio pobl at weithwyr achos arbenigol CAB ac eraill
- Mae gan y CAB ganllaw cyngor ar-lein i helpu pobl i ddysgu mwy am eu hawliau, a darparu’r wybodaeth y mae ei hangen arnyn nhw i ddatrys eu problemau eu hunain
Ymwela â gwefan Adviceguide y CAB i gael manylion dy swyddfa CAB lleol a gwybodaeth mewn ieithoedd gwahanol i Saesneg, gan gynnwys Cymraeg.