Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Dyled » Rheoli Dyled



Rheoli Dyled

  • Os ydwyt yn cael dy hun mewn dyled, mae’n bwysig dy fod yn gwneud rhywbeth yn ei chylch ar unwaith. Ni fydd yn diflannu ar ei phen ei hun. Ond peidia â chynhyrfu - gyda’r help iawn, fe allet ti reoli dy ddyledion
  • Cam cyntaf pwysig i reoli dy ddyledion yw creu darlun o dy sefyllfa ariannol trwy lunio ’cyllideb’
  • Rhestra bob un o dy ddyledion a'u rhannu'n ddyledion â blaenoriaeth ac yn ddyledion heb flaenoriaeth (gweler y dudalen Dyled i gael mwy o fanylion)
  • Gwna'n siŵr dy fod di’n talu’r holl ddyledion â blaenoriaeth yn gyntaf, fel ad-daliadau morgais, y rhent neu filiau, cyn i ti fynd i’r afael â dyledion heb flaenoriaeth, fel biliau cerdyn credyd neu orddrafftiau
  • Cyfrifa dy incwm a dy wariant - a bydda'n realistig
  • Cysyllta â’r bobl y mae arnat ti arian iddyn nhw (credydwyr) ac eglura dy fod yn cael problemau ariannol. Gwna'n siŵr dy fod di’n rhoi gwybod yn ysgrifenedig iddyn nhw am hyn, ac anfonwch gopi o dy gyllideb ar yr un pryd. Efallai y byddan nhw’n gallu lleihau dy daliadau dros gyfnod o amser
  • Paid â benthyca arian i dalu dy ddyledion yn ôl. Ceisia gynyddu dy incwm yn lle trwy gymryd mwy o waith i’w wneud neu hawlio budd-daliadau os ydwyt ar incwm isel, er enghraifft
  • Efallai y byddi di hefyd am ystyried gofyn i ffrindiau agos neu aelodau o’r teulu am help, neu edrych ar nwyddau y gallet ti eu gwerthu o bosib i dalu’r ddyled
  • I reoli dy ddyledion yn well, fe allet ti geisio trafod telerau â dy gredydwyr. Gall hyn fod yn anodd, a chymryd amser, felly mae’n bosib y byddi di am ofyn am help oddi wrth y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
  • Bydd credydwyr am wybod popeth am dy gyllid di a chyllid dy bartner, ac efallai na fyddan nhw mor hyblyg ag yr hoffet ti iddyn nhw fod wrth gytuno i leihau taliadau, yn enwedig os yw hon yn ddyled â blaenoriaeth, fel morgais
  • Pan fyddi di’n trafod telerau, bydda'n realistig. Cyniga dalu dim ond y swm y gallet ti ei fforddio, a bydda'n eglur ynglŷn â’r hyn yr ydwyt am iddyn nhw gytuno ag ef
  • Nid yw’n anarferol i gredydwyr roi pwysau arnat ti a pheidio â chytuno â dy gynigion, ond paid â digalonni. Ceisia gytuno ar gyfaddawd y gallwch chi’ch dau ei dderbyn, ond peidia byth â chytuno i dalu mwy nag y gallet ti ei fforddio, neu fe fydd dy broblem â dyled yn parhau
  • Bydda'n barod i brofi na allet ti fforddio mwy na lefel benodol gyda thystiolaeth fel slipiau cyflog, slipiau budd-daliadau a derbynebau gwariant, fel biliau tanwydd
  • Os ydwyt yn poeni ynglŷn â chysylltu â chredydwyr neu reoli dy ddyled ar dy ben dy hun, siarada â nhw yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol - gallan nhw weithio ar dy ran a’th helpu i reoli dy ddyledion. Gallan nhw hefyd helpu os ydwyt yn teimlo bod credydwr yn dy aflonyddu

Cwmnïau Rheoli Dyled (CRhD)

  • Bydd cwmnïau rheoli dyled yn helpu pobl i dalu dyledion heb flaenoriaeth yn ôl, fel biliau cerdyn credyd, am ffi
  • Byddan nhw naill ai’n cyfuno pob dyled mewn un ddyled y byddi’n di'n ei thalu yn ôl i’r CRhD, neu byddan nhw’n trafod telerau ar dy ran â’r credydwyr
  • Er bod CRhD yn helpu rhai pobl â’u dyledion, nid yw llawer o gredydwyr yn hoffi gweithio gyda nhw
  • Fe fydd yn rhaid i ti dalu ffi fawr am eu gwasanaethau, oddeutu £200 fel arfer, ac fe allai hyn dy wthio ymhellach i ddyled. Bydd rhai hefyd yn codi ffioedd gweinyddu bob mis ar ben hyn
  • Gwna'n siŵr dy fod di’n gwybod beth yw holl gostau gweithio gyda CRhD cyn cytuno ar unrhyw beth, ac ymgynghora â dy gredydwyr a’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn gyntaf

Cael help

  • Gall dyled achosi llawer iawn o boendod, ond paid â chynhyrfu. Mae yna ddigonedd o opsiynau ar agor i ti, a phobl sydd ar gael a all helpu
  • Ond os ydwyt am ddod yn rhydd o ddyled, mae’n rhaid i ti wneud rhywbeth yn ei gylch ar unwaith
  • Siarada â’r arbenigwyr yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu ar y Llinell Ddyled Genedlaethol sydd yno i dy helpu di yn gyfrinachol ac am ddim
  • Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

    Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

    Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

    Cwmnïau Rheoli Dyled (CRhD)

    • Bydd cwmnïau rheoli dyled yn helpu pobl i dalu dyledion heb flaenoriaeth yn ôl, fel biliau cerdyn credyd, am ffi
    • Byddan nhw naill ai’n cyfuno pob dyled mewn un ddyled y byddi’n di'n ei thalu yn ôl i’r CRhD, neu byddan nhw’n trafod telerau ar dy ran â’r credydwyr
    • Er bod CRhD yn helpu rhai pobl â’u dyledion, nid yw llawer o gredydwyr yn hoffi gweithio gyda nhw
    • Fe fydd yn rhaid i ti dalu ffi fawr am eu gwasanaethau, oddeutu £200 fel arfer, ac fe allai hyn dy wthio ymhellach i ddyled. Bydd rhai hefyd yn codi ffioedd gweinyddu bob mis ar ben hyn
    • Gwna'n siŵr dy fod di’n gwybod beth yw holl gostau gweithio gyda CRhD cyn cytuno ar unrhyw beth, ac ymgynghora â dy gredydwyr a’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn gyntaf

    Cael help

    • Gall dyled achosi llawer iawn o boendod, ond paid â chynhyrfu. Mae yna ddigonedd o opsiynau ar agor i ti, a phobl sydd ar gael a all helpu
    • Ond os ydwyt am ddod yn rhydd o ddyled, mae’n rhaid i ti wneud rhywbeth yn ei gylch ar unwaith
    • Siarada â’r arbenigwyr yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu ar y Llinell Ddyled Genedlaethol sydd yno i dy helpu di yn gyfrinachol ac am ddim

    Rhywbeth i ddweud?

    Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

    Mewngofnodi neu Cofrestru.

    Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50