Gwybodaeth » Arian » Dyled » Benthyciadau a Hurbrynu
Yn yr Adran Hon
Benthyciadau a Hurbrynu
Benthyciadau
Benthyca arian yw benthyciad. Gallet ti gael benthyciadau personol anwarantedig oddi wrth fanc, cymdeithas adeiladu, siop ar y stryd fawr neu gwmni benthyca, a gallet ti ei dalu yn ôl dros amser, gan dalu ffi o’r enw log. Ni allet ti gael benthyciad oni bai dy fod di'n 18 oed neu’n hŷn.
Nid yw benthyciad personol anwarantedig yn debyg i forgais. Benthyciad gwarantedig yw’r enw ar forgais oherwydd ei fod yn defnyddio dy gartref fel ernes os na allet ti dalu’r ad-daliadau. Nid oes perygl y gallet ti golli dy gartref gyda benthyciad personol anwarantedig.
Gallet ti fenthyca unrhyw swm rhwng £1,000 a £25,000 fel arfer, gan ddibynnu ar bwy fydd yn rhoi’r arian ar fenthyg i ti, a gallet ti ei dalu yn ôl dros gyfnod o rwng chwe mis a deng mlynedd, gan ddibynnu ar dy gytundeb.
Os ydwyt am fenthyca swm llai, neu os oes angen i ti ei fenthyca dros gyfnod byr yn unig, efallai y byddai’n rhatach edrych ar gael gorddrafft neu gerdyn credyd (Gweler tudalennau Gorddrafft a Chardiau Credyd, Debyd a Siopau.
Os ydwyt yn chwilio am fenthyciad, gwna'n siŵr dy fod yn ymchwilio i’r fargen orau i ti, a chymhara'r llog y mae disgwyl i ti ei dalu yn ôl (yr APR - y Gyfradd Canran Flynyddol yw’r enw ar hyn fel arfer). Isaf ydyw, gorau oll! Mae hefyd yn bwysig dy fod di’n gweld a oes unrhyw ffioedd eraill, fel ffioedd talu’n hwyr neu ffioedd am fynd dros y terfyn credyd cyn torri dy enw ar unrhyw beth. I gyfrifo gwir gost y benthyciad, mae angen lluosi’r ad-daliadau misol â nifer y misoedd y byddi di’n ei dalu yn ôl.
Paid byth â defnyddio benthyciwr answyddogol fel usuriwr. Byddan nhw’n codi gormod arnat ti, a gallan nhw droi yn gas os byddi di’n ei chael yn anodd talu’r arian yn ôl. Defnyddia benthyciwr adnabyddus sy’n cael ei reoleiddio, fel banc neu gymdeithas adeiladu.
Gwna'n siŵr dy fod di wedi ymchwilio i bob opsiwn sydd ar gael i ti, a dy fod yn deall yn llawn yr hyn yr ydwyt yn cytuno iddo cyn y byddi di’n codi benthyciad. Os na allet ti dalu’r ad-daliadau yn rheolaidd, mae’n bosib y byddi di’n cael dy roi dan waharddiad, sy’n golygu y gallai fod yn anodd i ti cael cerdyn credyd neu forgais.
Benthyciadau diwrnod cyflog
Benthyciadau cost uchel dymor byr (ar adegau dros 4000% APR) yw benthyciadau diwrnod cyflog, a gynlluniwyd i helpu pobl ymdopi hyd at y diwrnod cyflog. Fel arfer mae gennyt tan dy ddiwrnod cyflog nesaf er mwyn ad-dalu dy fenthyciad a'r llog, er bod rhai darparwyr benthyciadau diwrnod cyflog yn caniatáu i ti ddewis y cyfnod ad-dalu a'r dyddiad.
Ar y dyddiad ad-dalu, mae'r benthyciwr yn cymryd y swm yr wyt wedi benthyg yn ogystal â'r llog a godir yn uniongyrchol o'th gyfrif banc. Bydd angen i ti sicrhau bod gennyt ddigon o arian yn dy gyfrif i dalu biliau hanfodol megis morgais neu rent, gwres a bwyd, fel arall, gallet gael dy hun yn mynd i mewn i'r gorddrafft ac oherwydd hynny gorfod talu taliadau banc.
Dylet dim ond cymryd benthyciad diwrnod cyflog os ydwyt yn hollol siŵr y gallu di ei dalu'n ôl yn brydlon a pheidia â chael dy demtio i rolio'r benthyciad drosodd. Os ydwyt eisoes mewn trafferthion ariannol maent yn annhebygol o dy helpu di yn y tymor hir. Os oes angen mwy na mis i ad-dalu yna dere o hyd i ddewis amgen rhatach ac os oes gennyt statws credyd gwael paid â chymryd yn ganiataol na allet fenthyg yn rhywle arall.
Hurbrynu (HP)
- Dan gytundeb hurbrynu (HP), rwyt yn dechnegol yn llogi nwyddau hyd nes y byddi di wedi talu’r rhandaliad olaf, yna fe fyddi di’n berchen arnyn nhw. Defnyddir y system yma’n gyffredin â cheir
- Yn achos HP, gallet ti ddirwyn y cytundeb i ben a dychwelyd y nwyddau unrhyw adeg. Efallai na fyddi di’n gallu gwneud hyn os oes arnat ti randaliadau sy’n hwyr neu os ydwyt wedi talu llai na hanner y cyfanswm; yn yr achos yma, mae’n bosib y bydd yn rhaid i ti dalu’r gwahaniaeth
- Os byddi di’n methu â thalu’r taliadau, gall y benthyciwr adfeddiannu’r nwyddau
- Mae trefniadau HP yn ffordd dda o gael gafael ar nwyddau heb dalu’r swm llawn amdanyn nhw, ond ymchwilia i bob opsiwn sy’n agored i ti cyn cytuno ar unrhyw beth
- Cyn torri dy enw ar gytundeb HP, gwna'n siŵr dy fod yn deall dy gyfrifoldebau a dy fod di’n gallu fforddio’r taliadau
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
- Cyngor Benthyciadau Diwrnod Cyflog
- Gwrthodwyd credyd neu fenthyciad - Yr hyn y gallu di wneud
- Benthycwyr arian didrwydded
- Benthyciadau Cyfoed i Gyfoed
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).