Gwybodaeth » Arian » Dyled » Morgeisiau
Yn yr Adran Hon
Morgeisiau
Os ydwyt ti am brynu tŷ, fe allet ti fenthyca arian ar ffurf benthyciad o’r enw morgais. Mae’n cael ei bennu dros gyfnod o amser a byddi di’n talu llog arno hyd nes y byddi di wedi’i dalu’n ôl yn llawn. Os na fyddi di’n talu’r ad-daliadau yn rheolaidd, fe allet ti golli dy dŷ.
Mae’n debygol mai prynu tŷ fydd y buddsoddiad mwyaf y byddi di’n ei wneud yn dy oes, felly gwna'n siŵr mai dyma yw’r penderfyniad iawn.
Benthyca
- I roi rhyw syniad i ti o’r symiau dan sylw, fe fydd y rhan fwyaf o fenthycwyr morgais yn rhoi teirgwaith dy gyflog ar fenthyg i ti, neu ddwywaith a hanner dy gyflog di a chyflog dy bartner gyda’i gilydd os ydwyt yn prynu tŷ gyda rhywun arall
- Fodd bynnag, mae nifer fawr o forgeisi ar gael a bydd rhai ohonyn nhw'n cynnig mwy na hyn i ti
- Cyn y byddi di’n benthyca unrhyw beth, gwna'n siŵr dy fod yn gwybod faint y gallet ti fforddio ei dalu yn ôl bob mis trwy lunio rhestr o dy incwm a dy wariant. Bydda'n realistig a pheidia ag anghofio cynnwys treuliau bob dydd fel biliau, bwyd, dillad a gwres yn y gyllideb
Blaendaliadau
- Cyn y gallet ti gael morgais, fe fydd llawer o fenthycwyr yn gofyn i ti dalu blaendal a allai fod cymaint â 10 y cant o werth y tŷ
- Os nad yw’r arian yma gennyt ti i’w dalu, fe allet ti ystyried cael morgais 100 y cant, sy’n golygu na fydd angen i ti dalu blaendal, ond bydd dy ad-daliadau misol yn cynyddu yn lle
Mathau o forgeisi
Mae yna wahanol fathau o forgeisi (https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/categories/types-of-mortgage) ac fe ddylet ti ddewis yr un sydd orau i ti.
- Morgeisiau cyfalaf a llog - Mae morgais cyfalaf a llog yn caniatáu i ti dalu’r arian sydd arnat ti yn ôl i brynu’r tŷ yn raddol dros gyfnod y benthyciad. Byddi di’n ei dalu yn ôl mewn rhandaliadau misol, a bydd yna log arno. Bydd y swm y byddi di’n ei dalu yn ôl yn cynyddu dros amser a bydd y llog yn gostwng
- Morgeisiau llog-yn-unig - Mae morgeisiau llog-yn-unig yn caniatáu i ti dalu’r llog misol yn unig ar y benthyciad ond nid y benthyciad ei hun. Fel arfer dim ond am gyfnod penodol o amser fydd hyn, neu fe fydd yn rhan o gynllun ad-dalu arall, fel morgais gwaddol
- Morgais Gwaddol - Mae gan forgais gwaddol ddwy ran - benthyciad oddi wrth fenthyciwr a pholisi gwaddol gyda chwmni yswiriant, ac mae hwn yn rhyw fath o gynllun cynilion bywyd. Fyddi di ond yn talu’r llog ar y benthyciad bob mis i’r benthyciwr, felly fyddi di byth yn talu’r benthyciad ei hun yn ôl. Fodd bynnag, bydd y polisi gwaddol yn cael ei dalu yn fisol i’r cwmni yswiriant, ac ar ddiwedd y morgais, fe fydd y polisi yma’n rhoi cyfandaliad i ti y byddi di’n gallu ei ddefnyddio i dalu popeth sydd arnat ti i’r benthyciwr. Mae yna berygl bod amser efo’r math yma o forgais na fydd y cyfandaliad yn ddigon i dalu’r morgais cyfan yn ôl, ac fe ddylet ti geisio cyngor ariannol annibynnol os bydd hyn yn digwydd
- Morgais Pensiwn - Mae morgais pensiwn fel arfer ar gyfer pobl hunangyflogedig. Mae’r ad-daliadau misol yn cynnwys taliadau llog-yn-unig ar y benthyciad a chyfraniad i gynllun pensiwn. Pan fyddi di’n ymddeol, fe fydd yna gyfandaliad i dalu’r benthyciad cyfan yn ôl ac i gael pensiwn
- Morgais ISA - Mae morgais ISA yn golygu y byddi di’n talu llog yn unig ar y benthyciad i’r benthyciwr a chyfraniad i ISA (Cyfrif Cynilo Unigol).Yna fe ddylai’r swm yn yr ISA dalu’r benthyciad cyfan yn ôl
- Morgais Islamaidd - Morgais yw hwn lle nad oes dim o’r taliadau misol yn cynnwys llog. Yn lle hynny, bydd y benthyciwr yn codi am roi cyfalaf ar fenthyg iti i brynu dy eiddo trwy ddefnyddio un o nifer o wahanol ffyrdd, er enghraifft, trwy godi rhent arnat ti
Mae yna nifer fawr o fathau eraill o forgeisiau ar gael o fewn y categorïau hyn hefyd, felly ymchwilia i dy holl opsiynau i ddod o hyd i’r un sydd orau i ti. Er enghraifft, bydd rhai banciau yn cynnig morgeisiau arbennig ar gyfer prynwyr tro cyntaf.
Bydd darparwyr morgeisiau yn aml yn cynnig bargeinion arbennig i annog pobl i godi morgais gyda nhw. Mae’r rhain fel arfer ar ffurf buddion rhagarweiniol tymor byr ar dy forgais. Ymhlith y buddion yma mae cyfradd ostyngol, cyfradd sefydlog, neu gyfradd wedi’i chapio am nifer benodol o fisoedd neu flynyddoedd, o’r enw ’cyfnod ymglymu’.
Bydd darparwyr morgais am i ti aros gyda nhw cyhyd â phosib ac felly fe allai lawer o forgeisiau gynnwys ’tâl am ad-dalu’n gynnar’. Mae hyn yn golygu os ydwyt ti am dalu dy forgais llawn yn ôl yn gynnar, neu os ydwyt ti'n symud i ddarparwr morgais arall, fe fydd yn rhaid i ti dalu ffi.
Talu’r llog
Yn ogystal ag ystyried sut yr ydwyt am dalu’r morgais yn ôl, mae angen i ti feddwl am y llog ar y benthyciad. Mae yna wahanol gyfraddau llog ar wahanol forgeisiau, gan gynnwys:
- Cyfraddau newidiol - Mae hyn yn golygu y byddi di’n talu’r gyfradd gyfredol. Bydd y gyfradd morgais yn newid bob tro y bydd cyfraddau llog yn newid neu, fel yn y rhan fwyaf o achosion, bydd effaith gyffredinol unrhyw newidiadau i’r gyfradd llog yn cael ei chyfrifo unwaith y flwyddyn a bydd y taliadau’n cael eu haddasu i adlewyrchu hyn. Pa fath bynnag o forgais y byddi di’n dechrau ag ef, mae’n debygol y bydd yn newid i gyfraddau newidiol ar ryw adeg
- Cyfraddau sefydlog - Bydd y gyfradd llog yn sefydlog am y cyfnod y cytunir arno, sef dwy i bum mlynedd yn aml. Mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer cyllidebu neu os ydwyt yn meddwl y bydd cyfraddau’n cynyddu. Ni fyddi di’n cael unrhyw fudd os bydd cyfraddau’n gostwng, a byddi di’n wynebu cosbau os byddi di’n ceisio ei adael. Efallai y bydd cyfraddau isel iawn yn dy demtio, ond gallan nhw gael eu defnyddio i dy drapio i dalu mwy nag y dylet ti. Gofynna am ba gyfnod y bydd yn rhaid i ti aros â’r benthyciwr cyn y gallet ti newid i un arall heb gosb
- Cyfraddau wedi’u capio - Mae’r rhain yn sefydlog, ond os bydd cyfraddau’n gostwng fe fyddi di’n talu’r gyfradd is. Gall bargeinion o’r fath fod yn dda ar gyfer cyllidebu
- Bargeinion arian yn ôl - Dyma pan fydd benthycwyr yn cynnig arian yn ôl os byddi di’n codi cynnyrch penodol
- Cyfraddau gostyngol - Dan y math yma o forgais, cynigir gostyngiad i’r sawl sy’n benthyca oddi ar gyfradd newidiol y benthyciwr. Bydd y gyfradd a delir yn codi a gostwng yn unol â newidiadau yn y gyfradd newidiol. Bydd y gostyngiad ar waith am gyfnod penodedig
Ble alla' i gael morgais?
Mae morgeisiau ar gael oddi wrth:
- Cymdeithasau adeiladu
- Banciau
- Cwmnïau yswiriant. Dim ond morgeisiau gwaddol y bydd y rhain yn eu darparu (gweler uchod)
- Gall cwmnïau adeiladu mawr drefnu morgeisiau ar y cartrefi maen nhw wedi’u hadeiladu o’r newydd
- Tai cyllid
- Cwmnïau morgeisiau arbenigol
Ceisia gyngor oddi wrth gynghorydd ariannol neu gynghorydd morgais annibynnol bob amser cyn torri dy enw ar unrhyw gytundeb morgais.