Gwybodaeth » Arian » Dyled » Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVAs)
Yn yr Adran Hon
Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVA)
Mae Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVA) yn ddewis amgen i fethdaliad os ydwyt yn brwydro â dyled. Maen nhw’n gytundebau cyfreithiol rhwymol rhyngot ti a’r sawl y mae arnat ti arian iddo (dy gredydwr).
Maen nhw’n caniatáu i ti gytuno ar gyfaddawd ynglŷn ag ad-daliadau, gan osgoi methdaliad. Dylai’r cyfaddawd yma gynnig ad-daliad mwy ar y ddyled i’r credydwr nag y gallai ei ddisgwyl pe byddet ti’n dod yn fethdalwr.
Dyma fanteision IVA:
- Gallet ti gadw dy gartref, os ydwyt ti’n berchen ar gartref, os yw wedi’i eithrio yn y cytundeb
- Mae’r trefniant yn fwy hyblyg na methdaliad ac mae wedi’i lunio yn benodol ar dy gyfer di
- Gall y credydwr ddisgwyl ad-daliad mwy
- Mae costau sefydlu IVA yn llai na chostau methdaliad
Dyma anfanteision IVA:
- Mae’r IVA fel arfer yn para am gyfnod hirach na methdaliad a gall bara hyd at bum mlynedd
- Fe allet ti golli dy gartref o hyd os nad yw wedi’i eithrio’n benodol yn y cytundeb
- Os na fyddi di’n talu’r ad-daliadau, mae’n bosib y byddi di’n cael dy orfodi i ddod yn fethdalwr
I sefydlu IVA, mae’n rhaid i ti lunio cynnig i’w gyflwyno i dy gredydwr. Os bydd yn cytuno â’r telerau, mae’n rhaid i ti benodi ymarferydd methdaliad trwyddedig i adolygu’r cynnig a’i gyflwyno i’r llys.
Os ydwyt mewn dyled neu’n ystyried IVA, siarada â dy Ganolfan Cyngor ar Bopeth lleol neu’r Gwasanaeth Methdaliad cyn penderfynu. Hefyd ymgynghora ar rhestr hon am wybodaeth am ble i fynd i gael cyngor ar ddyled yn rhad ac am ddim.
Gall y Ganolfan Cyngor ar Bopeth hefyd gynnig cymorth â llunio drafft IVA a siarad â dy gredydwr.