Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Dyled » Gwirio Credyd



Gwirio Credyd

Credyd yw’r enw ar y sefyllfa pan fyddi di’n benthyca arian a chredydwr neu fenthyciwr yw’r sawl sy’n benthyg yr arian i ti.

Os ydwyt ti wedi gwneud cais i fenthyca arian, fe allai’r credydwr wirio dy gredyd. Mae'r adroddiad credyd hwn yn dangos dy hanes ariannol a bydd yn eu helpu i benderfynu p’un a fyddan nhw’n rhoi’r arian i ti ai beidio.

Byddan nhw’n gwirio dy gredyd os byddi di’n gwneud cais am:

  • Cerdyn credyd neu gerdyn siop
  • Cytundeb Hurbrynu
  • Cerdyn talu
  • Morgais
  • Catalog archebu trwy’r post
  • Benthyciad neu orddrafft o fanc neu gymdeithas adeiladu
  • Aelodaeth o undeb credyd
  • Mae asiantaethau cyfeirio credyd yn storio gwybodaeth am sefyllfa ariannol pawb a byddan nhw’n gwirio credyd ar ran benthycwyr

Byddan nhw’n cadw manylion sy’n cynnwys:

  • Y gofrestr etholiadol
  • Dy gytundebau credyd, gan gynnwys faint sydd ar ôl gennyt ti i’w dalu a hanes taliadau
  • Achosion o adfeddiannu dy gartref a methiant i dalu dy forgais
  • Dedfrydau arian yn y llys sirol
  • Gorchmynion methdaliad a threfniadau gwirfoddol
  • Achosion blaenorol o wirio credyd
  • Efallai y bydd yr asiantaeth hefyd yn rhoi sgôr credyd i ti, lle byddan nhw’n dyfarnu pwyntiau yn ôl dy statws priodasol, lle'r ydwyt yn byw, dy swydd a dy gyflog
  • Mae gennyt ti'r hawl i wirio dy ffeil credyd i weld a yw’n gywir. Cysyllta â dy asiantaeth cyfeirio credyd lleol

Os ydwyt yn poeni ynglŷn â dy ffeil credyd neu ynglŷn â gwneud cais am gredyd, cysyllta â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth; mae ganddyn nhw fanylion yr holl asiantaethau cyfeirio credyd.

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50