Gwybodaeth » Arian » Dyled » Methdaliad
Yn yr Adran Hon
Methdaliad
Mae methdaliad yn un ffordd o ddatrys problem ddifrifol â dyled. Gorchymyn llys ydyw y gallet ti wneud cais amdano fel nad oes yn rhaid i ti ddelio â’r bobl y mae arnat ti arian iddyn nhw (dy gredydwyr). Bydd y llys yn penodi Derbynnydd Swyddogol i gymryd rheolaeth ar dy arian a dy asedau, ac i ddelio â’r credydwyr.
Mae dewis dod yn fethdalwr yn benderfyniad mawr, ac ni ddylet ddilyn y llwybr yma heb lawer o ystyriaeth. Efallai nad dyma fyddai’r opsiwn gorau i ti felly mynna gyngor yn gyntaf. Fe all rhywun y mae arnat ti arian iddo hefyd dy wneud yn fethdalwr.
Dyma fanteision dod yn fethdalwr:
- Nid oes yn rhaid i ti ddelio â dy gredydwyr yn bersonol
- Gallet ti gadw rhai nwyddau cartref a swm rhesymol i fyw arno
- Unwaith y bydd y gorchymyn methdaliad wedi dod i ben (mewn un flwyddyn fel arfer) gallet ti ddechrau o’r newydd
- Fel arfer gellir dileu’r ddyled sydd arnat ti
Dyma anfanteision dod yn fethdalwr:
- Mae’n costio £705 i ddod yn fethdalwr yng Nghymru. Mae'n rhaid i ti dalu ffi o £180 i'r llys a £525 i'r Derbynnydd Swyddogol. Os ydwyt ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau efallai y byddet yn cael dy heithrio o ffi'r llys, sy'n dy alluogi i fynd yn fethdalwr am £525
- Ni allet ti wneud cais am gredyd tra ydwyt yn fethdalwr
- Efallai y bydd yn rhaid gwerthu dy gartref a nwyddau moethus, gan gynnwys dy gar
- Efallai y byddi di’n colli dy swydd gan fod rhai proffesiynau’n gwrthod gadael i bobl sydd wedi dod yn fethdalwyr barhau i weithio
- Os oes gennyt dy fusnes dy hun, mae’n bosib y bydd yn rhaid ei werthu
- Ni fydd dy achos yn breifat a gall hyd yn oed ymddangos yn dy bapur newydd lleol
- Nid yw methdaliad yn dileu pob dyled. Efallai y byddi di’n dal i fod yn gyfrifol am fenthyciadau myfyrwyr neu ddirwyon y llys, er enghraifft
- Fe fydd yn effeithio ar dy sgôr credyd a gwiriadau credyd yn y dyfodol (gweler tudalen wybodaeth Gwirio Credyd)
Dod yn fethdalwr
- Os ydwyt wedi mynnu cyngor arbenigol ac wedi penderfynu mai methdaliad yw dy opsiwn gorau, mae angen i ti wneud cais yn dy lys lleol
- Cofia ddod â dy ffi i dalu am y methdaliad. Ni fyddi di’n cael hwn yn ôl
- Mynna ddeiseb methdaliad ffurflen 6.27 a ffurflen datganiad o faterion o dy lys lleol neu o wefan Gov.uk a gwna cais, gan roi manylion dy holl gredydwyr
- Yn dy wrandawiad, os cei di dy ddatgan yn fethdalwr, fe fydd dy gyfrifon banc yn cael eu rhewi a bydd rhywun arall yn cymryd rheolaeth ar dy arian
- Yna bydd dy asedau’n cael eu gwerthu a bydd dy arian yn cael ei ddefnyddio i dalu dy gredydwyr
- Ar ôl blwyddyn, daw’r methdaliad i ben fel arfer, a bydd unrhyw ddyledion sydd heb eu talu yn cael eu dileu
Cyn penderfynu’r naill ffordd neu’r llall ynglŷn â methdaliad, siarada â’r cynghorwyr arbenigol yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim i gael gwybod beth yw dy holl opsiynau.