Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Cymdeithasau Tai
Yn yr Adran Hon
Cymdeithasau Tai
Gyda phrisiau eiddo weithiau yn codi yn ddramatig, mae nifer o bobl ifanc yn ei chael yn anodd prynu cartref cyntaf.
- Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw. Fe allent roi cymorth i ti ar ddod o hyd i lety fforddiadwy
- Mae nifer o gymdeithasau tai bellach yn cynnig cynlluniau tai fforddiadwy i roi cymorth i bobl sy'n prynu eu cartref cyntaf
- Syniad y cynlluniau hyn yw bod dy gymdeithas tai lleol yn berchen ar ran o dy dŷ. Er enghraifft, os mai dim ond 70% o'r cartref y gallet ti fforddio, mae'r gymdeithas tai'n cytuno i brynu'r 30% arall gyda thi. Wedyn, pan fyddi di'n gwerthu dy gartref, bydd y gymdeithas tai yn cymryd 30% o'r swm y cei di drwy ei werthu
- Mae cynlluniau tai fforddiadwy'n ffordd dda o gael cymorth i brynu mewn ardaloedd na fyddi di'n gallu fforddio prynu ynddynt fel arall
I ddarganfod pa fathau o gynlluniau tai fforddiadwy sydd ar gael yn dy ardal leol, rhaid i ti gysylltu â'r cymdeithasau'n uniongyrchol.