Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Gwerthwyr Tai



Gwerthwyr Tai

Gall gwerthwyr tai roi cymorth i ti ddod o hyd i'r eiddo mwyaf addas. Os dywedi di wrthynt yr hyn yr ydwyt eisiau, dylen nhw chwilio ar dy ran di a dod o hyd i eiddo a fydd yn gweddu i dy anghenion.

  • Paid ag aros gydag un gwerthwr tai yn unig, cer at bob gwerthwr yn yr ardal yr wyt yn gobeithio prynu ynddi ac edrycha ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Cofia nid oes rhaid i ti aros gydag un gwerthwr os ydwyt wedi edrych ar un tŷ gyda nhw
  • Unwaith i ti ddewis rhai tai gwahanol yr wyt yn meddwl y gallant fod yn weddus i ti, gofynna i'r gwerthwr tai am y manylion llawn, bydd hyn yn rhoi gwybodaeth bellach i ti ynglŷn â'r eiddo
  • Os ydwyt dal â diddordeb ar ôl edrych ar fanylion yr eiddo gwna apwyntiad i edrych arno. Fel arfer fe elwir hwn yn ' ymweliad'
  • Fel arfer bydd gwerthwr tai yn dod gyda thi i edrych ar eiddo, ond weithiau bydd y perchennog yn dewis ei ddangos i ti. Gwna'n siŵr dy fod yn edrych ar yr eiddo'n ofalus
  • Cyn edrych ar eiddo, gwna restr o'r holl gwestiynau yr ydwyt am ofyn i'r perchennog neu'r asiant tai a pheidia ag ofni dweud dy ddweud. Er enghraifft, os yw'r gegin yn edrych yn hen, gofynna pryd gafodd ei rhoi mewn er mwyn i ti gael syniad o faint o waith sydd angen ei wneud
  • Ar ôl edrych ar yr eiddo, cymera amser i edrych ar yr ardal a gwna nodyn o dy sylwadau. Er enghraifft, faint o draffig sydd ar y ffordd, a oes llawer o bobl yn yr ardal, pa mor daclus yw tai'r cymdogion a beth yw safon yr ysgolion lleol. Gall y rhain effeithio ar bris y tŷ pan fyddi di'n ei werthu
  • Os ydwyt dal â diddordeb yn yr eiddo, trefna ail ymweliad. Ceisia wneud hyn ar adeg wahanol o'r diwrnod fel y gallet ti weld y tŷ o safbwynt gwahanol. Cer â dy rieni neu dy ffrindiau er mwyn cael eu barn, efallai byddant yn gweld rhywbeth na wnaethost ti ei sylwi arno'r tro cyntaf
  • Os penderfynir di dy fod am brynu'r eiddo rhaid i ti wneud cynnig amdano trwy'r gwerthwr tai sy'n ei werthu. Byddant yn codi tâl arnat am wneud hyn. Hola beth yw'r ffi cyn parhau ymhellach
  • Paid ag ofni cynnig swm sy'n is na'r pris sydd wedi'i osod, os yw'r gwerthwyr gwir am werthu'r eiddo, efallai y byddant yn ystyried derbyn y swm hwnnw. Dylai'r gwerthwr tai roi gwybod i ti pe derbynnir dy gynnig

Pan dderbynnir dy gynnig dylet ofyn i dy gyfreithiwr i ddechrau'r broses trosglwyddo eiddo, sef proses cyfreithiol yr eiddo sy'n cael ei gyfnewid. Codir ffi ychwanegol gan dy gyfreithiwr am hyn fel arfer.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50