Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Chwilio am Forgais



Chwilio am Forgais

Unwaith i ti wneud cynnig ar eiddo, bydd rhaid i ti gael morgais cyn gynted â phosib fel nad yw rhywun arall yn cael yr eiddo hwnnw.

  • Mae morgais yn fath o fenthyciad a ddefnyddir i dalu am gartref
  • Mae morgais yn wahanol i fenthyciadau eraill oherwydd ei fod am fwy o arian, fe fenthycir am gyfnod amser hwy fel arfer (cyfnod y morgais - 25 blynedd fel rheol) a chaiff ei warantu yn erbyn dy eiddo. Golyga hyn y gall benthyciwr morgais gymryd dy gartref yn ôl neu'i adfeddiannu os nad ydwyt yn gwneud y taliadau morgais misol, a'i werthu er mwyn adennill yr arian sydd arnat iddynt
  • Mae banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, broceriaid morgais a benthycwyr uniongyrchol i gyd yn gwmnïau sy'n cynnig morgeisi

Mathau o forgais

Mae dau brif fath o forgais - morgais ad-dalu a morgais log yn unig.

  • Golyga morgais ad-dalu fod y swm yr ydwyt yn talu i'r benthyciwr bob mis yn ad-dalu rhan o'r swm y gwnaethost fenthyg (y ddyled 'gyfalaf'), yn ogystal â rhan o'r llog a godir ar y benthyciad. Felly yr wyt yn talu, fesul tipyn, popeth sydd arnat i'r benthyciwr, a byddi di wedi ad-dalu swm y morgais i gyd erbyn diwedd cyfnod y morgais. Mae'n debyg y bydd morgais ad-dalu'n addas i ti os ydwyt am gael y trefniad morgais symlaf gyda'r risg leiaf
  • Gyda morgais llog yn unig, rwyt yn ad-dalu'r llog ar y benthyciad yn unig bob mis. Nid ydwyt yn talu'r ddyled gyfalaf wrth i ti fynd ymlaen, felly mae swm y morgais yn aros yr un peth hyd ddiwedd cyfnod y morgais. Mae hyn yn golygu bod gennyt gyfrifoldeb i ad-dalu'r ddyled gyfalaf ar ddiwedd y cyfnod. Mae nifer o opsiynau ar gyfer gwneud hwn, un yw cynilo rhyw faint o arian fel buddsoddiad bob mis, megis Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) neu gynhysgaeth, y gallet ti ei ddefnyddio ar ddiwedd cyfnod y morgais i ad-dalu'r morgais. Mae perygl, fodd bynnag, na fydd y buddsoddiad yn tyfu digon i ad-dalu'r benthyciad i gyd, felly rwyt yn llai sicr nag y byddi di gyda morgais ad-dalu
  • Mae gan forgais gwaddol ddwy ran - benthyciad oddi wrth fenthyciwr a pholisi gwaddol gyda chwmni yswiriant, sy'n fath o gynllun cynilion bywyd. Y llog yn unig fyddi di'n ei ad-dalu i'r benthyciwr morgais bob mis felly nid ydwyt yn ad-dalu'r benthyciad. Serch hynny, ad-delir swm o'r polisi gwaddol i'r cwmni yswiriant bob mis ac ar ddiwedd y morgais bydd y polisi hwn yn rhoi'r swm sydd ei angen arnat i ad-dalu'r morgais. Gyda'r math hwn o forgais, mae yna berygl na fydd swm y polisi gwaddol yn ddigon i ad-dalu'r holl forgais ac fe ddylet geisio cyngor ariannol yn yr achos hwn
  • Mae morgais pensiwn ar gyfer pobl hunangyflogedig fel arfer. Bob mis rwyt yn gwneud taliad llog-yn-unig ar y benthyciad a chyfraniad at gynllun pensiwn. Pan fyddi di'n ymddeol, bydd swm mawr gennyt ti i ad-dalu'r benthyciad, a phensiwn hefyd
  • Gyda morgais ISA rwyt yn talu'r llog ar y benthyciad yn unig ac yn cyfrannu at ISA (Cyfrif Cynilo Unigol) (Gweler Mathau o Gyfrif). Dylai swm yr ISA ad-dalu'r benthyciad
  • Morgais Islamaidd. Mae hwn yn forgais lle nad yw unrhyw un o'r ad-daliadau misol yn cynnwys llog. Yn hytrach na hwn, mae'r benthyciwr yn codi tâl arnat am fenthyg y cyfalaf i brynu dy dŷ ac fe all adennill yr arian mewn sawl ffordd wahanol, trwy wneud i ti dalu rhent, er enghraifft
  • Mae nifer fawr o fathau gwahanol o forgeisi ar gael o fewn y categorïau hyn hefyd, felly ymchwilia dy opsiynau i gyd i ddod o hyd i'r un mwyaf perthnasol i ti. Er enghraifft, mae rhai banciau'n cynnig morgeisi arbennig i bobl sy'n prynu eu cartref cyntaf
  • Yn aml mae darparwyr morgeisi yn cynnig bargeinion arbennig i annog pobl i gael morgais gyda nhw. Fel arfer mae'r rhain yn cynnwys cyfraddau isel rhagarweiniol byrdymor ar dy forgais. Gallant gynnig cyfradd gostyngol, cyfradd sefydlog, neu gyfradd sy wedi'i chapio am nifer penodol o fisoedd neu flynyddoedd, a elwir yn gyfnod 'rhwymo'
  • Bydd darparwyr morgeisi am i ti aros gyda nhw am gofnod mor hir â phosib ac, oherwydd hyn, gall nifer o forgeisi gynnwys 'ffi adbryniant'. Golyga hyn y bydd rhaid i ti dalu ffi pe fyddet am ad-dalu'r morgais yn gynnar, neu ei symud i ddarparwr morgeisi arall

Mae sawl cyfradd llog gwahanol ar gyfer morgeisi, sef:

  • Cyfradd amrywiol safonol: Mae'r benthyciwr yn gosod y gyfradd llog y byddi di'n ei thalu ac yn codi neu'n gostwng y gyfradd hon fel bo'n briodol i weddu i amodau'r farchnad. Agwedd negatif ar hyn yw y bydd dy ad-daliadau misol yn amrywio ac na fyddi di'n sicr o'r swm y byddi di'n ei dalu yn y dyfodol
  • Cyfradd ostyngol: Byddi di'n talu cyfradd amrywiol y benthyciwr minws gostyngiad cytunedig am gyfnod penodedig fel un neu ddwy flynedd. Gall hwn fod yn ddefnyddiol os oes gennyt gyllideb gyfyng oherwydd bod y taliadau cychwynnol yn is, ond bydd dy daliadau'n codi neu'n gostwng mor aml ag y mae'r benthyciwr yn newid ei gyfraddau
  • Cyfradd benodedig: Rwyt yn talu cyfradd llog sy'n warantedig am gyfnod penodedig, felly gallet ti fod yn sicr na fydd dy daliadau'n amrywio. Pe godai'r cyfraddau llog, byddai cyfradd benodedig yn dy ddiogelu rhag talu cyfradd uwch ar dy forgais. Ond pe fyddai'r gyfradd morgais yn gostwng, byddet yn parhau i dalu'r gyfradd benodedig
  • Cyfradd sydd wedi'i chapio: Mae'r gyfradd llog yn amrywiol ond fe sicrheir na fydd yn mynd yn uwch na lefel benodol neu 'cap' am gyfnod penodedig, ond fe all ostwng. Mae cyfradd sydd wedi'i chapio yn opsiwn da os ydwyt am fod yn sicr na fydd dy daliadau yn mynd yn uwch na lefel benodol, ond nid ydwyt am gael cyfradd sy'n gwbl benodedig rhag ofn bod y cyfraddau llog yn gostwng
  • Arian yn ôl: (Nid yw hwn yn opsiwn cyfradd llog, ond yn aml fe gyfunir gyda chytundebau cyfradd llog arbennig) cei di swm o arian yn ôl - cannoedd o bunnoedd yn aml - pan gei di forgais. Gall fod yn ddefnyddiol os oes angen arian arnat i brynu dodrefn, er enghraifft. Ond gall cael cyfradd llog is os cei di gytundeb heb gael arian yn ôl
  • Paid â phoeni os yw'r wybodaeth hon yn rhy gymhleth. Y ffordd orau o gael y morgais mwyaf perthnasol yw trwy drafod dy anghenion â rhywun
  • Gallet ti wneud apwyntiad gyda'r banc lleol i siarad â chynghorwr morgais neu mae sawl cymdeithas adeiladu'n cynnig gwasanaeth cynghori ar forgeisi. Mae rhai'n dewis siarad â chynghorwr ariannol annibynnol ond bydd rhaid talu ffi am wasanaeth o'r fath
  • Mae gwahanol gwmnïau'n cynnig morgeisi gwahanol felly mae'n werth chweil mynd at sawl banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cael y cytundeb gorau
  • Ceisia gyngor cynghorwyr ariannol annibynnol neu gynghorwr morgeisi cyn cytuno ar unrhyw forgais
  • Cofia - paid â theimlo bod pwysau arnat i gymryd morgais hyd nes y byddi di'n hapus ei fod yn gweddu dy anghenion

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50