Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Prynu Cartref Newydd » Dod o Hyd i Eiddo



Dod o hyd i Eiddo

Cyn i ti ddechrau chwilio am gartref newydd, dylet ystyried sawl peth. Er enghraifft:

  • Tua faint allet ti ei fforddio?
  • Mae hwn tua thair waith dy gyflog blynyddol neu os mai dau ohonoch chi sy'n cael morgais, tua dwywaith a hanner eich cyflogau chi. Bydd rhai benthycwyr yn cynnig mwy, ond bydda'n wyliadwrus o gyfraddau llog uchel a thermau penodedig na fedri di eu hail-drafod
  • Gall fod yn demtasiwn i brynu rhywle sy'n costio hyd at yr uchafswm o'r hyn y gallet ti gael morgais ar gyfer, ond yn ystyried sut y bydd hyn yn effeithio arnat ti yn y tymor hir. Gall morgeisi uwch golygu taliadau misol uwch gan adael llai o arian i ti pe bai rhywbeth yn mynd o'i le neu fod newid yn dy amgylchiadau

Ble hoffet ti fyw?

  • Er enghraifft, a ydwyt am fod yn agos at dy deulu, dy waith neu dy ffrindiau? Gall y rhain fod yn ffactorau wrth ddewis lleoliad dy gartref newydd. Rhaid i ti fod yn realistig ynglŷn â hyn. Er enghraifft, os ydwyt yn prynu dy gartref newydd, efallai na fydd hi'n bosib prynu yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd, fel yng nghanol y ddinas neu mewn maestrefi poblogaidd, gan fod prisoedd yn tueddu i fod yn uwch yn y llefydd hyn

Pa fath o gartref hoffet ti ei gael?

  • Wyt ti am gael fflat neu dŷ a fydda ti'n hoffi cael gardd neu garej? Mae'r rhain yn benderfyniadau y mae'n rhaid eu hystyried cyn dechrau chwilio am gartref newydd
  • Mae sawl ffordd i edrych am eiddo i'w brynu, gan gynnwys adran eiddo dy bapur newydd a gwerthwyr tai lleol, a thrwy gysylltu ag adeiladwyr tai newydd i ddarganfod y datblygiadau yn dy ardal
  • Os wyt ti am symud i ardal newydd, mae'n werth chweil gwneud gwaith ymchwil cyn dechrau chwilio am eiddo. Ceisia mynd am dro yn yr ardal i gael syniadau o'r amwynderau lleol fel siopau ac ysgolion. Mae'n syniad da hefyd edrych mewn ffenestri gwerthwyr tai i sicrhau'r gallet ti brynu yn yr ardal

Y broses gyfreithiol

  • Gall fod yn syniad da dod o hyd i gyfreithiwr cyn dechrau chwilio am eiddo. Yna, ni fydd yn rhaid i ti frysio i gael un pan ddei di o hyd i dŷ yr wyt am ei brynu. Gofynna i dy ffrindiau a dy deulu a ydynt wedi clywed am gyfreithwyr da. Mae'n bwysig dy fod yn gallu ymddiried yn y person yma
  • Mae cyfreithwyr yn trin y broses trosglwyddo eiddo. Mae hwn yn waith cyfreithiol a gweinyddol sy'n ymwneud â throsglwyddo perchnogaeth tir wrth brynu eiddo. Bydd gwaith dy gyfreithiwr yn cychwyn pan gaiff dy gynnig am yr eiddo ei dderbyn a byddant yn codi tâl am y gwaith, felly hola am y gost cyn parhau gydag unrhyw beth

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50