Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Undebau Credyd
Yn yr Adran Hon
Undebau Credyd
Mae undebau credyd yn groes rhwng cydweithfa a banc. Maent yn cael eu sefydlu gan bobl sydd â diddordeb cyffredin, megis lle maent yn byw neu'n gweithio, ac yn cynnig benthyciadau llog isel, cynilion ac weithiau cyfrifon banc. Maen nhw wedi bod o gwmpas ers y 1940au, ond yn y blynyddoedd diwethaf wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith gynilwyr a benthycwyr.
- Mae gan undebau credyd ’gysylltiad cyffredin’ sy’n pennu pwy sy’n cael ymuno. Er enghraifft, fe allai fod ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn cwmni penodol, pobl sy’n byw yn yr un ardal neu sy’n perthyn i’r un sefydliad, fel eglwys neu glwb
- Unwaith y byddi di’n aelod o undeb credyd, gallet ti ddechrau ar ei gynllun cynilo. Gall gynilo cymaint neu gyn lleied ag yr wyt ti eisiau, a hynny mor aml ag yr wyt ti eisiau. Fel arfer, gallet ti dalu hwn i mewn i siop leol neu fan casglu, neu yn uniongyrchol allan o dy gyflog
- Bydd undebau credyd fel arfer yn talu difidend ar gynilion unwaith y flwyddyn i bob un o’i aelodau
- Mae yswiriant cynilion bywyd fel arfer wedi’i gynnwys, yn rhad ac am ddim i’r aelod
- Gallan nhw hefyd gynnig Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant ar sail arian barod i’w holl aelodau
- Gallet ti hefyd fenthyca oddi wrth undeb credyd. Mae undebau credyd yn gweithredu er budd holl aelodau ac felly yn ceisio sicrhau nad ydynt yn gadael i'w haelodau cymryd benthyciadau na allant dalu yn ôl drwy asesu eu hincwm ac, mewn rhai achosion, faint y maent wedi gallu cynilo. Mae hefyd cap ar faint o log y gallant ei godi ar eu benthyciadau o 3 y cant y mis neu APR o 42.6 y cant y flwyddyn, sydd yn llawer rhatach na benthycwyr carreg y drws neu fenthycwyr diwrnod cyflog
- Mae yswiriant bywyd hefyd wedi’i gynnwys mewn benthyciad, yn rhad ac am ddim
- Pan fyddi di’n benthyca oddi wrth undeb credyd, gallet ti hefyd barhau i gynilo. Mae hyn yn golygu y bydd y cynilion wedi tyfu erbyn y byddi di wedi gorffen talu’r benthyciad yn ôl
- Siarada â’r undeb credyd lleol ynglŷn â’r hyn sydd ar gynnig iti
- Nid oes angen iti fod â chyfrif banc i fod yn aelod o undeb credyd. Yn wir, bydd nifer o undebau credyd yn cynnig cyfleuster talu biliau i alluogi unigolion nad oes ganddyn nhw gyfrifon banc i fanteisio ar y gallu i dalu am eu cyfleustodau yn gost effeithiol. Gall yr undeb credyd hefyd dderbyn budd-daliadau sy’n cael eu talu iti ar dy ran os wyt ti am iddo wneud hynny. Yna gallet ti godi’r arian o’r undeb credyd ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd
- Os oes gen ti ddiddordeb mewn ymuno ag undeb credyd, ceisia ddarganfod a yw’r cwmni rwyt ti’n gweithio iddo yn gweithredu un, neu gofynna i’r awdurdod lleol am restr o undebau credyd yn y gymuned yn dy ardal di. Bydd gan Gymdeithas Undebau Credyd Prydain restr hefyd neu allu di dilyn y ddolen yma i ddod o hyd i dy undeb credyd agosaf
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).