Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Gorddrafft
Yn yr Adran Hon
Gorddrafft
- Mae gorddrafft yn caniatáu iti godi mwy o arian nag sydd gen ti yn dy gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu am gost. Rwyt ti’n benthyca arian oddi wrth y banc
- Er eu bod nhw’n eithaf cyffredin, fe ddylet ti feddwl yn ofalus cyn cytuno ar orddrafft neu cyn mynd i orddrafft
- Mae yna ffioedd sylweddol i’w talu am fynd i orddrafft, yn enwedig os nad wyt ti wedi cytuno ar orddrafft â’r banc. Bydd y ffioedd yn amrywio gan ddibynnu ar y banc neu’r gymdeithas adeiladu
- Pan fyddi di’n cytuno ar orddrafft, fe fydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn gosod lefel benodol na allet ti fynd y tu hwnt iddi, ond bydd yn dal i godi ffi arnat ti am ei ddefnyddio. Gwna'n siŵr dy fod di’n cadw o fewn y cyfyngiad yma neu fe allai’r ffioedd fod yn uwch fyth
- Bydd rhai myfyrwyr addysg uwch yn cael gorddrafftiau di-log ac ni fydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn codi ffi arnyn nhw am fynd i orddrafft, ond trefniant arbennig â’r banc yw hyn
- Os wyt ti’n debygol o fynd i orddrafft yn rheolaidd, trefna orddrafft sydd wedi’i awdurdodi; bydd hyn yn caniatáu iti fynd i orddrafft hyd at swm y byddet ti wedi cytuno arno. Efallai y bydd yn rhaid iti dalu ffi neu log misol, neu’r ddau o bosib, ac efallai y byddi di hefyd yn gorfod talu ffi am bob trafod a wneir tra bo’r cyfrif mewn gorddrafft. Ond mae gorddrafft sydd wedi’i awdurdodi yn rhatach nag un sydd heb ei awdurdodi
- Mae’n annhebygol y byddi di’n cael cynnig gorddrafft os wyt ti dan 16 oed
- I drefnu gorddrafft, gwna apwyntiad yn dy gangen leol, neu ffonia dy fanc neu gymdeithas adeiladu. Bydda'n barod i siarad am sut rwyt ti'n bwriadu talu’r gorddrafft yn ôl
- Cofia mai dyled yw gorddrafft, ac mae’n rhaid iti ei dalu yn ôl
Os wyt ti’n ei chael yn anodd talu’r gorddrafft yn ôl, siarada â’r banc am ffyrdd o helpu, neu â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor ar reoli dyled. Mae yna ffyrdd o helpu i fynd i’r afael â gorddrafft.
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).