Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Llyfrau Sieciau



Llyfrau Siec

  • Dull o dalu y byddi di’n ei gael â rhai cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu benodol yw llyfr siec
  • Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o slipiau talu (sieciau) sy’n caniatáu iti dalu am nwyddau a gwasanaethau heb ddefnyddio arian parod
  • Fe fydd angen iti hefyd ddangos y cerdyn arian parod neu ddebyd sy’n cyd-fynd â’r llyfr siec pan fyddi di’n prynu rhywbeth/yn cyflawni trafod
  • Bydd y banc yn tynnu’r swm y byddi di'n ei nodi ar y siec allan o dy gyfrif
  • Mae’n rhaid bod gennyt ti digon o arian yn dy gyfrif i dalu am y swm ar y siec, neu fe fydd yn cael ei gwrthod neu'n 'bownsio'
  • Dim ond i bobl dros 18 oed y bydd y rhan fwyaf o gyfrifon yn cynnig llyfr siec, ond gofynna i'r banc neu gymdeithas adeiladu ynglŷn â’u polisi nhw
  • Wrth ysgrifennu siec, gwna'n siŵr dy fod di’n defnyddio ysgrifbin, nid pensil, i lenwi pob rhan ofynnol. Diben hyn yw atal pobl rhag newid yr hyn rwyt ti wedi’i ysgrifennu. Hefyd tynna llinell drwy unrhyw fannau gwag ar y siec fel na all pobl adio rhifau neu enwau ychwanegol, ac ychwanega manylion (megis rhif cyfrif neu rif cyfeirnod) i'r llinell talai ar ôl i ti ysgrifennu enw'r cwmni os yw'r siec yn cael ei ysgrifennu i sefydliad, banc neu gymdeithas adeiladu. Mae hyn yn sicrhau bod yr arian yn ymddangos yn y lle iawn
  • Os byddi di’n gwneud camgymeriad, rhwyga'r siec ac ysgrifenna un newydd
  • Paid ag anghofio llenwi bonyn y siec hefyd. Fe fydd hyn yn dy helpu di os bydd y banc yn gwneud unrhyw gamgymeriadau, a bydd hefyd yn gofnod o faint rwyt ti’n ei wario
  • Yn yr un modd ag unrhyw ddull talu, mae’n bwysig iawn gofalu am dy lyfr siec; paid byth â gadael i unrhyw un fenthyca dy lyfr siec na cherdyn

Talu arian: gallu di dalu unrhyw un gyda siec, cyn belled ag y maent yn dewis ei dderbyn. Mae rhai busnesau wedi penderfynu peidio â derbyn sieciau oherwydd mae ychydig o risg yn gysylltiedig os yw'r siec yn bownsio. Cafodd y Cynllun Gwarant Cerdyn Siec - a arferai gynnig amddiffyniad i fanwerthwyr - ei dynnu'n ôl ym mis Mehefin 2011.

Derbyn arian: os bydd rhywun am dy dalu gyda siec, meddylia'n ofalus cyn i ti ei dderbyn. Dylet dim ond derbyn sieciau oddi wrth bobl yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, oherwydd os yw'n troi allan bod y siec yn ffug, neu os nad oes gan y person digon o arian i'w dalu, gallai fod yn anodd cael gafael ar yr arian.

Pan ydwyt yn ysgrifennu siec, ni fydd yr arian yn gadael dy gyfrif nes bod y person sy'n ei dderbyn yn ei dalu i mewn i'w cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu - a allai fod hyd at chwe mis yn ddiweddarach. Sicrha fod gennyt ddigon o arian yn dy gyfrif i dalu gwerth y siec nes bod y person wedi ei dalu i mewn ac mae'r arian wedi cael ei didynnu.

Mae'r arian fel arfer yn gadael dy gyfrif tri diwrnod gwaith ar ôl i'r person talu dy siec i mewn. Os ydwyt yn talu siec i mewn i dy gyfrif, gallu di defnyddio'r arian pedwar diwrnod gwaith yn ddiweddarach - ond ni allu di fod yn siŵr bod y siec wedi clirio (fod yr arian dy arian di) tan chwe diwrnod gwaith ar ôl i ti ei dalu i mewn. Os ydwyt yn defnyddio'r arian yn y cyfamser, efallai y bydd rhaid i ti ei dalu'n ôl.

Am fwy o wybodaeth ar sieciau a drafftiau banc, gweler yr erthygl hon gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50