Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Cynlluniau LET
Yn yr Adran Hon
Cynlluniau LET
Mae Cynlluniau LET (Masnachu Cyfnewid Lleol) yn rhwydweithiau sydd yn caniatáu i bobl leol greu eu 'ffordd o dalu' leol eu hunain heb fod angen arian.
- Gall unrhyw un ymuno â Chynllun LET p’un a ydyn nhw mewn gwaith neu’n ddi-waith
- Mae Cynlluniau LET yn defnyddio system o gredydau cymunedol, fel nad oes yn rhaid cyfnewid yn uniongyrchol
- Bydd pobl yn ennill credydau LET trwy ddarparu gwasanaeth, ac yna gallan nhw wario’r credydau ar beth bynnag y mae eraill ar y cynllun yn ei gynnig: er enghraifft gofal plant, cludiant, bwyd, trwsio pethau yn y cartref neu logi offer a chyfarpar
- Mae’r 'ffordd o dalu' newydd yma’n caniatáu i bobl gyfnewid oriau gwaith yn lle arian. Er enghraifft, awr o dorri gwallt yn gyfnewid am awr o osod brics
- Nod y cynllun yw gwneud yn fawr o sgiliau ac adnoddau lleol