Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Mathau o Gyfrifon



Mathau o Gyfrifon

Mae Banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn cynnig nifer o wahanol fathau o gyfrifon i ti eu defnyddio, gan ddibynnu ar beth rwyt ti’n bwriadu ei wneud â dy arian.

Mae cyfrifon yno i helpu ti i reoli dy arian ac i ennill arian ychwanegol ohono ar ffurf ’llog’ y bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn ei roi iti. Siarada â dy fanc neu gymdeithas adeiladu leol am y cyfrifon maen nhw’n eu cynnig iti - a phaid â bod ofn chwilio am yr un sydd fwyaf addas i ti.

Cyfrif Banc Sylfaenol

  • Mae’r cyfrifon yma’n gadael iti dalu arian i mewn, trefnu archebion rheolaidd a debydau uniongyrchol, a chodi arian gan ddefnyddio cerdyn arian parod neu beiriant arian parod. Gweler Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog
  • Fedri di ddim mynd i orddrafft ar gyfrif sylfaenol, sy’n golygu na fedri di godi mwy o arian na’r hyn sydd gen ti yn y cyfrif. Gweler Gorddrafft
  • Mae hon yn ffordd dda o ddechrau rheoli dy arian a gallet ti gael cymaint o gyfrifon sylfaenol ag wyt ti eisiau, cyn belled â’u bod nhw mewn banciau gwahanol. Maen nhw fel arfer ar gael i’r rhan fwyaf o bobl, hyd yn oed os oes ganddyn nhw broblemau â chredyd

Cyfrifon Cyfredol

  • Cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar gyfer busnes o ddydd i ddydd neu drafodion ydy cyfrif cyfredol. Mae'n debyg i gyfrif sylfaenol
  • Gallet ti gael mwy nag un cyfrif cyfredol â gwahanol fanciau neu gymdeithasau adeiladu
  • Mae cyfrif cyfredol yn caniatáu iti godi arian â llyfr sieciau neu gerdyn arian parod, a thalu archebion rheolaidd a debydau uniongyrchol. Gweler Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog, Cardiau Debyd, Credyd a Siopau, a Llyfrau Siec
  • Gallet ti godi arian heb rybudd gyda sieciau neu o beiriant arian parod
  • Efallai y byddi di hefyd yn cael cerdyn debyd, sy’n caniatáu iti dalu am eitemau mewn siopau a bwytai er enghraifft. Gweler Cardiau Debyd, Credyd a Siopau
  • Bydd rhai cyfrifon cyfredol hefyd yn rhoi gorddrafft iti. Math o gredyd yw hwn sy’n caniatáu iti godi arian ychwanegol o’r cyfrif, pan nad oes gen ti arian ar ôl ynddo. Byddan nhw fel arfer yn codi ffi arnat ti am hyn

Cyfrifon Cyfredol Myfyrwyr

  • Bydd rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig cyfrifon cyfredol myfyrwyr arbennig i bobl dros 18 oed sy’n astudio mewn sefydliad addysg uwch
  • Cynlluniwyd y cyfrifon yma i helpu ti i reoli dy gyllid yn ystod dy astudiaethau, ac maen nhw’n cynnig rhai buddion penodol iti sy’n well na buddion deiliaid cyfrifon cyfredol eraill
  • Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon myfyrwyr yn cynnig bancio rhad ac am ddim a chyfleusterau gorddrafft di-log hyd at swm penodol. Mae gan lawer ohonyn nhw wasanaethau ymgynghori i fyfyrwyr hefyd, i helpu ti i reoli dy gyfrifon
  • Mae llawer o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig cymhelliant i agor cyfrif myfyrwyr, gan gynnwys taliadau arian parod yn rad ac am ddim, cardiau rheilffordd, disgownts mewn siopau neu ar lyfrau, tocynnau neu CDs. Bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar le rwyt ti’n gwneud cais. Ymchwilia'r opsiwn gorau i ti. Er enghraifft, os wyt ti’n byw i ffwrdd oddi wrth dy rieni, efallai y byddai cerdyn rheilffordd yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, os wyt ti’n byw yn agos atyn nhw, efallai y byddai’n well gen ti gael taliad arian parod neu anrheg rad ac am ddim
  • Mae angen iti ymchwilio i’r cyfleusterau gorddrafft di-log y mae banciau a chymdeithasau adeiladu eraill yn eu cynnig, i sicrhau dy fod di’n cael y fargen orau i ti
  • Fe fydd angen prawf o dy statws myfyriwr oddi wrth y brifysgol i wneud cais
  • Cofia, ni fydd y gorddrafft yn ddi-log am byth, ac fe fydd yn rhaid iti ei dalu yn ôl pan fyddi di wedi gorffen astudio, felly ceisia gadw rheolaeth arno

Cyfrifon Graddedigion

  • Bydd y rhan fwyaf o gyfrifon cyfredol myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo i gyfrifon graddedigion unwaith y byddi di wedi cwblhau dy gwrs prifysgol
  • Nod y cyfrifon yma yw helpu graddedigion â’u harian a’u dyledion am hyd at dair blynedd ar ôl graddio
  • Byddan nhw’n aml yn parhau i gynnig gorddrafftiau di-log graddoledig am dair blynedd, gan leihau’r lefel ddi-log bob blwyddyn i helpu ti i glirio’r ddyled yn araf deg
  • Bydd rhai hefyd yn cynnig buddion ychwanegol fel talebau arian-i-ffwrdd neu fenthyciadau neu forgeisiau ar gyfradd is. Gofynna i dy fanc neu gymdeithas adeiladu ynglŷn â’u cynigion, neu cer i’r adran Ddyled i gael mwy o fanylion

Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post

  • Dim ond ar gyfer casglu budd-daliadau, credydau treth a phensiynau’r wladwriaeth y galli di ddefnyddio’r cyfrifon yma. Gweler yr adran Budd-daliadau i gael manylion y budd-daliadau yma
  • Ni all talu unrhyw arian arall i mewn, a dim ond yng nghangen Swyddfa’r Post y gall ei godi
  • Mae’r cyfrif yma ar gael i bron iawn bawb. Gofynna yn y Swyddfa Bost lleol am fanylion

Cyfrifon Cynilo

  • Cynlluniwyd cyfrifon cynilo i helpu cynilo arian ac ennill llog arno
  • Mae yna sawl math o gyfrifon cynilo, gan ddibynnu ar faint o arian rwyt ti am ei gynilo, am ba gyfnod rwyt ti am ei gynilo, a p’un a wyt ti am dalu treth ai peidio

Cyfrif Cynilo Dim Rhybudd

  • Mae’r cyfrif yma’n caniatáu iti gynilo arian, ennill llog a chodi'r arian pryd bynnag y mae ei angen arnat ti
  • Bydd llawer o bobl yn defnyddio cyfrifon cynilo dim rhybudd fel cronfa argyfwng i dalu unrhyw gostau annisgwyl ar unwaith
  • Fe fydd gen ti gerdyn arian parod gyda’r cyfrif, felly gallet ti godi’r arian 24 awr y dydd o unrhyw beiriant arian parod
  • Ond cofia, efallai y bydd cyfyngiad ar y swm y gallet ti ei godi mewn un diwrnod o beiriant arian parod, felly cynllunia ar gyfer hyn yn dy gyllid. Bydd dy gangen yn caniatáu iti godi pob ceiniog yn dy gronfa ar yr un pryd os oes angen
  • Bydd y cyfrifon cynilo dim rhybudd yn cynnig cyfradd llog is na chyfrifon cynilo eraill
  • Ymchwilia'r cyfrif sy’n cynnig y gyfradd uchaf sydd ar gael, ond gwna'n siŵr bod ’dim rhybudd’ yn golygu hynny go iawn. Mae angen ychydig o ddiwrnodau ar rai banciau’r Rhyngrwyd i gael y cronfeydd atat ti, ac ni fydd hyn o unrhyw les mewn argyfwng

Cyfrifon Cynilo â Rhybudd

  • Mae’r cyfrifon yma’n tueddu i gynnig cyfradd llog gwell gan fod yr arian wedi’i rwymo ac ni all ei godi ar unwaith
  • Fel arfer, fe fydd yn rhaid iti roi rhybudd i’r banc a dweud pryd y byddi di’n codi’r arian. Fe fydd cyfnod y rhybudd mae’n rhaid iti ei roi yn amrywio

ISAs (Cyfrifon Cynilo Unigol) Arian Parod

  • Mae’r cyfrifon cynilo yma’n caniatáu iti gynilo ac ennill yn ddi-dreth
  • Mae’r rhan fwyaf o ISAs arian parod yn cynnig bargen well na’r rhan fwyaf o gyfrifon cynilo â rhybudd
  • Mae angen rhybudd o 90 diwrnod i godi’r arian o rai ISAs arian parod. Os wyt ti’n meddwl y bydd angen iti godi’r arian ar frys, byddai’n well iti ddewis ISA Arian Parod Dim Rhybudd sy’n caniatáu iti godi’r arian cyn gynted ag y mae ei angen arnat ti
  • Efallai y bydd rhywfaint o gyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallet ti godi arian bob blwyddyn
  • Mae ISAs Arian Parod yn fwy addas ar gyfer cynilo yn rheolaidd bob mis
  • Gofynna i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu ynglŷn â’r hyn sydd ar gynnig iti
  • O'r 1af o Orffennaf 2014, bydd ISAs Arian Parod ac ISAs stociau a chyfranddaliadau yn cael eu cyfuno i mewn i NISA sengl newydd, gyda therfyn llawer uwch o £15,000 y flwyddyn

Sut ydw i’n agor cyfrif?

Os wyt ti am agor cyfrif, gwna dy ymchwil yn gyntaf. Ymchwilia i’r hyn y mae’r banciau a’r cymdeithasau adeiladu yn ei gynnig, a dewisa'r un sy’n iawn i ti. Cymhara'r cyfraddau llog a’r cymhellion.

Yna gallet ti ffonio’r banc neu’r gymdeithas adeiladu rwyt ti wedi’i ddewis neu gallet ti alw heibio i’w cangen leol. Bydd rhai banciau a chymdeithasau adeiladu hefyd yn gadael iti wneud cais ar-lein.

Fe fydd angen iti fynd â rhyw fath o brawf o bwy wyt ti er mwyn agor y cyfrif. Diben hyn yw profi mai ti ydy'r person rwyt ti'n honni bod. Fel arfer, byddan nhw’n gofyn i weld dy basport a phrawf cyfeiriad, ond gofynna i’r gangen ynglŷn â hyn cyn cyrraedd fel dy fod di’n gallu sicrhau bod y dogfennau cywir gen ti wrth law.

Os wyt ti am gael help i ddewis y cyfrif iawn, siarada â nhw yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a fydd yn gallu cynghori ti ar dy holl opsiynau. Bydda'n ofalus nad yw rhai banciau a chymdeithasau yn gwerthu cyfrif sydd ddim yn addas i ti.

Cofia, mae dy gyfrif yn gyfrinachol a dim ond y ti ddylai ei ddefnyddio (oni bai dy fod wedi agor cyfrif ar y cyd). Paid byth â rhoi dy rif PIN na cherdyn i unrhyw un dan unrhyw amgylchiadau - hyd yn oed os wyt ti’n meddwl y gallet ti ymddiried ynddyn nhw.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50