Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Cardiau Debyd, Credyd a Siopau
Yn yr Adran Hon
Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog
Cardiau Debyd
- Mae cardiau debyd, fel Solo, Electron, Maestro, Visa a MasterCard yn cael eu defnyddio i ddebydu dy gyfrif cyfredol pan fyddi di'n prynu rhywbeth. Debyd yw pan fydd arian yn cael ei gymryd allan o'th gyfrif banc
- Gyda cherdyn debyd, dim ond arian sydd ar gael gennych yn eich cyfrif gall cael ei ddebydu. Os nad oes gennyt ddigon o arian i dalu'r gost, efallai y bydd eich cerdyn yn cael ei wrthod a'r pryniant yn cael ei wrthod. Gyda rhai cardiau debyd efallai gallu di dalu am rywbeth hyd yn oed os nad oes gennyt yr arian yn dy gyfrif - ond byddi di'n mynd i ddyled a bydd yn rhaid i ti dalu taliadau
- Gellir defnyddio cardiau debyd er mwyn talu ar unwaith ar gyfer popeth o ddillad, llyfrau, prydau, petrol, biliau a phryniannau rhyngrwyd
- Gellir hefyd eu defnyddio i godi arian o'th gyfrif o beiriannau arian parod neu mewn cangen
- Gallet wneud cais am gerdyn debyd yn dy fanc neu gymdeithas adeiladu leol os ydwyt yn 16 oed neu'n hŷn
- Mae cardiau debyd bellach yn gweithredu ar Chip a PIN. Yn hytrach na llofnodi am dy bryniannau wrth i ti ddefnyddio cerdyn debyd, mae'n rhaid i ti roi rhif PIN pedwar digid i mewn nawr a roddwyd i ti gan y banc
- Mae hyn er mwyn rhoi mwy o ddiogelwch i ti. Paid byth â dweud eich rhif PIN wrth unrhyw un. Bydd dy fanc neu gymdeithas adeiladu byth yn gofyn i ti am hyn
- Mae rhai cardiau hefyd yn defnyddio cardiau talu digyswllt. Fel arfer nid oes angen llofnod neu BIN mynediad ar gyfer pryniadau digyswllt llai na £20, i gyd sydd angen i ti wneud yw rhoi dy gerdyn digyswllt dros y darllenydd cerdyn i wneud y taliad
Cardiau Credyd
- Mae Cardiau credyd yn dy alluogi i wneud pryniadau a thaliadau 'ar gredyd'. Credyd yw dyled y bydd rhaid i ti ad-dalu
- Mae Cardiau credyd yn cael eu defnyddio yn bennaf i ledaenu cost y pryniadau gan y gallai'r arian sy'n ddyledus gennyt cael eu talu yn ôl mewn symiau llai bob mis
- Codir tâl arnat am ddefnyddio cerdyn credyd ar ffurf taliadau llog misol, a gall hyn olygu dy fod yn talu mwy am dy bryniant
- Mae cardiau credyd yn rhoi amddiffyniad da yn erbyn twyll
- Cardiau credyd yn cynnig diogelwch ychwanegol os oes gennyt broblemau gyda'r nwyddau neu wasanaethau yr ydwyt wedi prynu sy'n costio rhwng £100 a £30,000
- Os nad ydwyt yn talu'r swm llawn yn ôl bydd fel arfer llog mawr ar yr arian yr ydwyt wedi benthyg
- Mae'n ddatrysiad i fenthyca tymor byr. Os ydwyt am fenthyg arian ar sail tymor hir, efallai y dylet ystyried benthyciad. Mi fydd yn llawer rhatach. Nid yw siopa gyda cherdyn credyd yn rhad
- Os byddet yn penderfynu cael cerdyn credyd, un o'r pethau mwyaf pwysig i edrych arno ydy gyfradd llog y cerdyn, a elwir hefyd y Gyfradd Ganrannol Flynyddol (APR). Dyma faint fydd yn rhaid i ti dalu bob mis am fenthyca ar dy gerdyn. Yr isaf yw'r gyfradd llog ar y cerdyn, y lleiaf y byddet yn gorfod talu bob mis
- Mae gan rhai cwmnïau cardiau credyd cyfraddau rhagarweiniol arbennig o sero'r cant, sy'n golygu na fydd rhaid i ti dalu am ei ddefnyddio. Ond os ydwyt yn gwneud cais am gerdyn â chyfradd isel, darllena'r print mân bob amser a gwiria faint mae'r llog yn tyfu i fydd y cynnig arbennig yn rhedeg allan. Cofia, unwaith y bydd cyfnod y cynnig rhagarweiniol wedi dod i ben, bydd yn rhaid talu llog ar y gyfradd arferol
- Peidia â chael dy demtio i ddefnyddio cardiau credyd mewn peiriannau arian parod i dynnu arian. Byddi di'n cael dy daro gyda thaliadau drud - hyd at 4% neu'n fwy gyda rhai cwmnïau
- Mae cardiau credyd ar gael trwy fanciau, cymdeithasau adeiladu, adwerthwyr, archfarchnadoedd a hyd yn oed prifysgolion
- I gael cerdyn credyd mae'n rhaid i ti fod dros 18 oed ac wedi pasio'r gwiriad credyd a rheolwyd gan y cwmni cerdyn credyd. Gyda rhai cardiau mae'n 21
- Cofia ddarllen y print mân cyn llofnodi ar y llinell doredig
Cardiau Siop
- Mae llawer o siopau bellach yn cynnig cerdyn siop, sef cerdyn credyd a ellir ond eu defnyddio yn eu siopau hwy
- Maent yn tueddu i gael taliadau cyfradd llog uwch na chardiau credyd eraill felly edrycha ar y print mân a'r APR cyn cofrestru
- Bydd rhai cardiau siopau yn cynnig cymhellion i ymuno, gan gynnwys arian oddi ar dy bryniant cyntaf ar y cerdyn neu gynigion unigryw
- Fel arfer, byddet yn gofyn i ti yn y siop os hoffet wneud cais. Os nad ydwyt am gerdyn siop, dweda na. Peidia â theimlo dan bwysau
- Bydda'n ofalus i beidio â drysu cardiau siop gyda chardiau credyd sy'n gysylltiedig â siopau. Mae Tesco, Sainsbury, John Lewis, Marks & Spencer ac Asda i gyd yn cynnig cerdyn credyd brand siop y gellir eu defnyddio yn unrhyw le ac nid dim ond yn y siop a enwir
- Ac nid yw cardiau siop yr un fath â chardiau gwobrwyo neu gardiau teyrngarwch. Mae cardiau Gwobrwyo - fel Nectar neu Tesco Clubcard - yn dy alluogi i gasglu pwyntiau ar dy siopa a allet ddefnyddio nes ymlaen i gael gostyngiad ar dy bil neu gyfnewid am nwyddau a gwasanaethau
- Dylet bob amser gwirio pa fath o gerdyn yr wyt yn gwneud cais amdano a darllen y telerau ac amodau i gyd yn gyntaf
- Mae'n bwysig cofio bod rhaid i bopeth yr wyt yn prynu ar gerdyn credyd cael ei ad-dalu. Ceisia gadw rheolaeth ar dy wariant ar gardiau credyd gan y gall dyledion mawr codi'n hawdd, gyda thaliadau llog ar ei ben, gall fod yn anodd aros ar ben dy sefyllfa ariannol
- Gwiria dy balans yn rheolaidd a chadw i fyny gydag ad-daliadau
- Mae'n rhaid i ti fod o leiaf 18 oed i gael un. Fel gydag unrhyw gerdyn credyd eraill, bydd angen i ti hefyd gael gwiriad credyd
Cardiau Eraill
Cardiau Rhagdaledig
Mae cerdyn rhagdaledig yn gweithio ychydig fel cerdyn anrheg - byddi di'n ychwanegu ato gydag arian, a gallu di ond gwario hyd at y swm hwnnw.
Maent yn cael eu defnyddio'n aml gan deithwyr i gario arian gwyliau, a gan unrhyw un heb gyfrif banc arferol - yn gyffredinol plant, pobl yn eu harddegau a phobl â statws credyd gwael.
Mae cardiau rhagdaledig yn fwy diogel nag arian parod, gan y gallu di ganslo'r cerdyn os bydd yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn.
Ond nid ydynt yn cael eu derbyn ym mhob man, ac efallai y byddi di'n talu ffioedd ar gyfer eu defnyddio neu am ychwanegu arian atynt.
Cardiau Tal
- Mae cardiau tal yn gweithio'n debyg i gardiau credyd - gallu di prynu nawr a talu'r arian yn ôl ar dy ddyddiad ad-daliad misol - ond gyda cherdyn codi tâl mae'n angenrheidiol dy fod yn talu'r balans bob mis. Ni allu di redeg i fyny bil a'i dalu yn ôl nes ymlaen
- Fel arfer mae cardiau codi tal ar gyfer pobl ar incwm uchel neu ac ar gyfer defnydd busnes yn unig. Mae yna ychydig o gardiau tâl sylfaenol hefyd, ond nid oes ganddynt lawer o fantais dros gardiau credyd
- Yn aml yn nid oes terfyn gwario ganddynt ac maent yn dod â manteision ychwanegol
- Ond os nad ydwyt yn talu dy bil gall y ffioedd fod yn llawer uwch llog cerdyn credyd - a gall dy gerdyn cael ei ganslo
Os ydwyt yn poeni am gardiau credyd neu gardiau siop a dyled, siarada â'th Ganolfan Cyngor ar Bopeth lleol, neu dy fanc i gael mwy o gyngor. Paid â phoeni, mae ffyrdd i leihau dy ddyled a phobl y gallu di siarad gydag yn gyfrinachol.
Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).