Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu » Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog



Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog

Y gwahaniaeth rhwng Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog

  • Mae Debyd Uniongyrchol yn rhoi caniatâd i gwmni gymryd arian o'th gyfrif banc ar ddyddiad y cytunwyd arno
  • Mae Archebion sefydlog yn rhoi cyfarwyddyd i'r banc talu'r union swm i gyfrif arall yn rheolaidd

Debyd Uniongyrchol (Direct Debit)

Mae debyd uniongyrchol yn gyfarwydd i dy fanc neu gymdeithas adeiladu i dynnu swm o arian o dy gyfrif yn awtomatig i dalu sefydliad yn rheolaidd. Bydd hyn yn cael ei drefnu gennyt ti ac yn cymryd swm o arian wedi'i drefnu o flaen llaw ar ddyddiad penodol, fel arfer unwaith y mis.

Mae'n ffordd gyffredin i dalu biliau, rhoddion elusennol, yswiriant neu ad-daliadau benthyciad.

Mae yna sawl budd i gael debyd uniongyrchol:

  • Mae'n sicrhau nad wyt ti'n methu dyddiad taliad ac yn achosi treuliau ychwanegol
  • Mae'n gadael i ti ledaenu'r gost
  • Mae'n ddiogel ac yn ddibynadwy ac yn cynnig gwarant arian yn ôl os yw unrhyw beth yn mynd o'i le

Cyn i ti drefnu debyd uniongyrchol, mae angen gwybod yn union faint byddi di'n talu a pa mor aml. Weithiau byddi di'n talu llai yn gyffredinol drwy dalu debyd uniongyrchol ac weithiau gallet ti dalu mwy. Gwna'r fathemateg a dewis yn ddoeth.

Gall debyd uniongyrchol gael ei drefnu drwy alw'r banc neu'r cymdeithas adeiladu. Weithiau bydd y sefydliad rwyt ti'n ei dalu yn trefnu hyn ar dy ran gyda chaniatâd, ond rhaid gwirio beth sydd wedi cael ei drefnu gyda dy fanc cyn i ti wneud unrhyw daliadau.

Bydd angen i ti hefyd gael gwybod am bolisi canslo'r sefydliad yr ydwyt yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, rhag ofn y byddi di'n dymuno canslo'r Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg.

Gall debyd uniongyrchol gael ei drefnu drwy alw'r banc neu dy gymdeithas adeiladu. Weithiau, bydd y sefydliad yr ydwyt yn talu yn trefnu hyn ar dy ran gyda dy ganiatâd, ond hola dy fanc bob amser i weld yr hyn sydd wedi cael ei drefnu cyn i ti wneud unrhyw daliadau.

Gall Debyd Uniongyrchol cael ei ganslo trwy ffonio dy fanc neu gymdeithas adeiladu. Rho wybod i'r sefydliad yr ydwyt yn ei dalu am y canslad hwn. Os ydwyt yn poeni am ddebydau uniongyrchol, siarada â dy fanc neu gymdeithas adeiladu neu ymgynghorydd yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu edrycha ar y wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Archeb Sefydlog (Standing Order)

Mae archeb sefydlog yn debyg i ddebyd uniongyrchol. Mae'n drefniad i drosglwyddo arian o gyfrif banc un person i un arall yn rheolaidd, ond gall gymryd hyd at dri i bedwar diwrnod i'r arian gyrraedd y cyfrif newydd, yn wahanol i ddebyd uniongyrchol sydd yn digwydd yn syth.

Mae angen yr amser yma i sicrhau bod y cyllid gofynnwyd amdano ar gael yn y cyfrif cyn iddo gael ei symud i gyfrif y taledig. Er ei fod yn broses mwy araf nag debyd uniongyrchol, bydd arian yn cael ei drosglwyddo yn fwy sydyn nag siec.

Os wyt ti'n defnyddio archeb sefydlog i dalu am filiau neu ad-daliadau, rhaid caniatáu o leiaf tri i bedwar diwrnod cyn y dyddiad talu i greu'r archeb sefydlog. Bydd yn osgoi tâl yn cael ei godi am dalu'n hwyr os nad fydd y cyllid wedi clirio mewn digon o amser.

Gallu di drefnu archeb sefydlog gyda dy fanc neu gymdeithas adeiladu. Fel gyda debyd uniongyrchol, sicrha dy fod di'n deall faint a pa mor aml bydd arian yn mynd allan o dy gyfrif.

Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50