Gwybodaeth » Amgylchedd » Ynni » Arbed Ynni
- Mae cynhesu byd-eang yn fater o bwys yng Nghymru a’r DU. Os nad ydym ni’n lleihau faint o garbon rydym ni’n ei ryddhau, byddwn ni mewn perygl o ddinistrio’r haen oson, a fyddwn ni ddim yn gallu ei adfer
- Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i arbed ynni a lleihau gollyngiadau niweidiol
- Gall pethau syml helpu i arbed ynni a lleihau eich biliau trydan, fel:
- Diffodd y goleuadau wrth adael ystafellĂ‚Â
- Prynu bylbiau sy’n arbed ynni o’ch archfarchnad leol
- Diffodd y teledu yn gyfan gwbl yn hytrach nag ei adael ar ’standby’e
- Diffodd eich cyfrifiadur a’ch monitor ar ôl i chi orffen eu defnyddio
- Diffodd eich stereo pan nad ydych chi’n ei ddefnyddio
- Peidio â throi’r gwres i fyny oni bai bod rhaid. Gwisgwch siwmper yn lle
- Peidio â defnyddio’r peiriant golchi dillad oni bai bod digon o ddillad gennych chi i lenwi’r peiriant
- Peidio â berwi tegell lawn bob tro rydych chi’n gwneud paned o de, dim ond digon o ddŵr rydych chi ei eisiau