Gwybodaeth » Amgylchedd » Ynni » Ynni Adnewyddadwy
- Mae ynni adnewyddadwy yn ffordd o greu pŵer o ffynonellau ynni na fydd byth yn rhedeg allan. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gwynt - gall melinau gwynt gael eu defnyddio i ddal ynni o’r gwynt
- Dŵr - mae nifer o ffyrdd o gael trydan o’r dŵr. Un ffordd yw hydrotrydan, lle mae pŵer yn cael ei harneisio o ddŵr sy’n symud yn gyflym. Gellir defnyddio pŵer tonnau’r môr a symudiad y llanw i gynhyrchu pŵer
- Yr Haul - gall golau’r haul gael ei droi’n ynni gan gelloedd solar, sydd i’w cael ar gyfrifianellau yn aml. Mae paneli solar yn cael eu defnyddio i wresogi dŵr a lleihau costau tanwydd o gymharu â dulliau gwresogi arferol
- Ar wahân i gostau cynnal a chadw’r offer, does dim costau eraill, sy’n wahanol i ddulliau arferol lle mae tanwyddau drud fel olew yn cael eu defnyddio
- Anfantais ynni adnewyddadwy yw na allwch ddibynnu arno cymaint â dulliau traddodiadol. Os nad oes digon o wynt, neu dim digon o haul, does dim ynni yn cael ei greu. Ond mae datblygiadau technolegol yn golygu bod y broblem hon yn cael ei datrys
- Mae’n bwysig iawn i ni ymchwilio i ffurfiau ynni adnewyddadwy oherwydd na fydd y tanwyddau ffosil rydym ni’n dibynnu arnyn nhw yn para am byth