Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Ynni » Ynni na ellir ei adnewyddu

  • Ar hyn o bryd rydym ni’n dibynnu llawer ar danwyddau ffosil am ynni. Maen nhw’n cynnwys y canlynol:
    • Mae olew yn cael ei ddefnyddio i wneud petrol a diesel ar gyfer ceir ac fel tanwydd i wresogi ein cartrefi
    • Mae nwy yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o dai ar gyfer coginio a gwres. Mae hefyd yn cael ei losgi mewn diwydiant i gynhyrchu trydan
    • Mae glo yn cael ei losgi mewn gorsafoedd pŵer i gynhyrchu trydan. Mae glo yn rhyddhau mwy o nwyon tŷ gwydr na’r tanwyddau eraill
  • Mae tanwyddau ffosil yn fath o ynni na ellir ei adnewyddu. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n i gyd yn cael eu defnyddio, a bydd dim ar ôl rywbryd yn y dyfodol. Mae hyn yn broblem oherwydd ein bod ni’n dibynnu ar geir a ffatrïoedd, ac mae’r rhain i gyd yn defnyddio tanwyddau ffosil
  • Mae’r nwyon gwastraff y mae tanwyddau ffosil yn eu cynhyrchu yn ddrwg i’r amgylchedd. Maen nhw’n cyfrannu at yr effaith tŷ gwydr a chynhesu byd-eang. Maen nhw hefyd yn ddrwg i iechyd pobl ac fe allen nhw wneud problemau anadlu’n waeth
  • Gwledydd cyfoethocaf y byd sy’n defnyddio’r swm mwyaf o danwyddau anadnewyddadwy. Wrth i wledydd eraill ddatblygu, maen nhw’n defnyddio mwy o ynni. Ac wrth i danwyddau ffosil i gyd gael eu defnyddio - yn enwedig olew - bydd angen mathau newydd o ynni i fodloni’r gofynion hyn
  • Math arall o ynni anadnewyddadwy yw pŵer niwclear. Mae elfennau niwclear, fel wraniwm a phlwtoniwm, yn cael eu tynnu o’r ddaear a does dim cyflenwad di-ben-draw ohonyn nhw. Mae tanwydd niwclear yn mynd trwy adwaith sy’n cynhyrchu gwres. A dyw hyn ddim yn rhyddhau llygryddion fel y mae tanwyddau ffosil
  • Mae rhai pobl yn meddwl bod tanwydd niwclear yn ffordd amgen dda o greu ynni oherwydd nad yw’n llygru’r awyr cymaint â thanwyddau ffosil. Ond mae yna rai peryglon
  • Pe bai damwain yn digwydd mewn gorsaf bŵer niwclear, byddai llawer o ddeunydd ymbelydrol niweidiol yn cael ei ryddhau i’r awyr
  • Digwyddodd hyn yn Chernobyl yn Rwsia yn 1986, pan ffrwydrodd yr adweithydd niwclear. Mae’r bobl sy’n byw yn yr ardal hon yn dal i ddioddef o lawer o afiechydon fel cancr, ac mae llawer o blant yn cael eu geni gyda phroblemau iechyd. Aeth llwch ymbelydrol o’r ffrwydrad dros lawer o orllewin Ewrop ac mae’n rhaid i ŵyn o rai ffermydd yng Nghymru gael eu profi am lefelau ymbelydredd o hyd
  • Mae gwastraff tanwyddau niwclear yn beryglus tu hwnt. Ar hyn o bryd does dim ffordd o gael gwared â’r gwastraff hwn. Yn aml iawn, caiff ei selio mewn concrid a bydd rhaid iddo aros fel hyn am gannoedd o flynyddoedd hyd nes ei fod yn ddiogel
  • Oherwydd na allwn ni amnewid tanwyddau anadnewyddadwy, mae’n rhaid i ni ddarganfod ffyrdd eraill o greu’r ynni sydd ei angen arnom ni

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50