Yn gynwysedig a diogel
Rydym am i Fwrdeistref Sirol Wrecsam fod yn lle diogel. Nid yw o bwys os ydych yn ymweld yma, yn byw, gweithio, astudio, neu gymdeithasu yma, rydym am i chi gerdded i lawr y stryd yn meddwl "Rwy'n teimlo'n dda yma. Rwy'n teimlo fy mod yn perthyn." Rydym am iddo fod yn le sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth dyn lle mae pawb yn cyd-dynnu ac yn teimlo eu bod wedi eu cynnwys. Byw. Gadael i bawb wneud fel y gwêl. Mae ein hamrywiaeth yn uno'r pethau sy'n gwneud Wrecsam yn lle gwych. Rhywle lle gallwch chi ddweud eich dweud, ac yn bwysicach byth, cael eich clywed. Rhywle lle byddwch chi'n ffurfio'r gwasanaethau. Rhywle lle byddwch yn teimlo y gallwch wneud gwahaniaeth.
Yn yr adran hon byddwch yn gallu dod o hyd i ddolenni sy'n cysylltu â gwasanaethau lleol a fydd yn eich helpu i ddweud eich dweud, eich cefnogi pan deimlwch yn unig a'ch helpu i deimlo eich bod wedi eich cynnwys.