Iechyd Rhywiol
Meddwl bod gen ti STI?
Mae rhai heintiau’n gallu mynd i rywun arall trwy ryw gweiniol, rhefrol neu eneuol diamddiffyn, trwy gysylltiad gwenerol. Yr enw ar heintiau sy’n ymledu fel hyn yw heintiau rhywiol.
Mae rhyw mwy diogel yn golygu defnyddio condom yn gywir bob tro’r wyt yn cael rhyw. Os na fyddi’n defnyddio condom rwyt mewn mwy o berygl o gael haint rhywiol. Mae condomau ar gyfer dynion a merched.
Nid oes angen bod â llaweroedd o bartneriaid rhywiol i gael haint.
Mae modd trin y rhan fwyaf o heintiau rhywiol ac fel arfer mae’n well dechrau’r driniaeth mor fuan ag y bo modd.
Os byddi’n dioddef unrhyw rai o’r canlynol dylet ofyn am gyngor:
- llif anghyffredin o’r wain
- llif o’r pidyn
- poen neu losgi wrth wneud dŵr
- cosi, brech, lympiau neu swigod o gwmpas yr organau cenhedlu neu’r anws
- poen a/neu waedu yn ystod rhyw
- gwaedu rhwng misglwyfau (gan gynnwys merched sy’n defnyddio hormonau atal cenhedlu)
- gwaedu ar ôl rhyw
- poen yn y ceilliau
- poen yn yr abdomen isaf
- yn aml does dim symptomau gyda Chlamydia
Os wyt wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom rwyt mewn perygl. Gelli gael archwiliad yn y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol. Mae’r gwasanaeth yn gydgyfrinachol.
Clinigau Iechyd Rhywiol
Y clinigau iechyd rhywiol yn Wrecsam yw’r Siop Info ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae’r Siop Info’n rhoi cyngor iechyd rhywiol i bobl ifanc 25 oed ac iau trwy alw heibio. Mae’n cynnig gwahanol atal cenhedlu fel condom, pilsen, pigiad ac impiad; nid yw’r Siop Info’n gwneud profion heintiau rhywiol ond mae’n gallu rhoi gwybodaeth. Mae hefyd yn cynnig profi beichiogrwydd – dim ond gofyn i aelod o’r staff.
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn darparu amrywiaeth o wasanaethau o rwbiadau serfigol, i brofi beichiogrwydd a’r gwahanol ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael. Mae’r ysbyty hefyd yn profi’n llawn am heintiau rhywiol sy’n gallu golygu gorfod rhoi sampl o ddŵr, cael prawf gwaed neu gymryd swab. Nid yw’n wasanaeth galw heibio gan fod rhai clinigau ar ddiwrnodau arbennig a rhaid gwneud trefniant.
Mae modd gwneud trefniadau ar gyfer tynnu / gosod impiad.
Info Shop - Gwasanaeth Iechyd Rhywiol
Wrexham Maelor - Gwasanaeth Iechyd Rhywiol