Big P
Y ‘Big P’ yw’r model ‘Big Participation’ yn Wrecsam. Mae’r ‘Big P’ yn gweithio gyda phobl ifanc sydd rhwng11 a 25 oed. Gall y ‘Big P’ gynnwys unrhyw grwpiau, prosiectau neu fforymau pobl ifanc yn Wrecsam.
Prif grwpiau'r ‘Big P’ yw Fforymau Clwstwr Ardal, Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, Grwpiau / Sector Gwirfoddol, Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Fforwm Cyngor Ysgol, y ‘Big YAC’ a’r Grŵp Addysg a Hyfforddiant ôl-16.
Fforymau Clwstwr Ardal
Mae gan y Gwasanaeth Ieuenctid 4 canolfan rhagoriaeth sef; Canolfan Pobl Ifanc Y Fic, Canolfan Rhagoriaeth Coedpoeth, Canolfan Adnoddau Llai, a Chanolfan Ragoriaeth Rhiwabon. Mae’r Canolfannau Rhagoriaeth hefyd yn cynnwys yr ardaloedd cyfagos.
Mae gan bob Canolfan Ragoriaeth Fforwm Clwstwr Ardal. Mae’r fforymau hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael llais a gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.
Cymunedau yn Gyntaf
Mae 4 ardal Cymunedau yn Gyntaf yn Wrecsam sef; Plas Madoc, Parc Caia, Coedpoeth a Brynteg. Ceir cyfleoedd i chi gael llwyfan i’ch llais yn yr ardaloedd lleol hyn.
Grwpiau Gwirfoddol
Mae’r Sector Gwirfoddol yn rhan bwysig o’r ‘Big P’. Mae grwpiau gwirfoddol yn cynnwys grwpiau cyfranogi pobl ifanc yn Wrecsam megis y Sgowtiaid a Gofalwyr Ifanc.
Grwpiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae nifer o Grwpiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Wrecsam. Gall Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fod yn unrhyw grŵp sy’n ymwneud â diddordeb, ffocws neu fater penodol. Ymhlith yr enghreifftiau o’r Grwpiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Wrecsam mae Inspire, In Care Council, Addysg i Deithwyr a Chyfiawnder Ieuenctid.
Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd
Mae’n ofyniad statudol bod gan bob ysgol uwchradd gyngor ysgol. Daw Fforwm y Cynghorau Ysgolion Uwchradd â nifer o aelodau etholedig pob Cyngor Ysgol Uwchradd yn Wrecsam at ei gilydd. Daw'r Fforwm Cynghorau Ysgol at ei gilydd i weithio ar faterion sy’n effeithio ar bob ysgol yn Wrecsam.
Y ‘Big YAC’
Mae’r ‘Big YAC’ yn brosiect o fewn y ‘Big P.’ Cafodd y ‘Big YAC’ ei sefydlu er mwyn monitro'r Gwasanaeth Gwaith Ieuenctid mewn Addysg (Gweithwyr Ieuenctid a leolir mewn ysgolion). Mae’r ‘Big YAC’ yn cynnwys Pobl Ifanc o bob ysgol uwchradd sydd â gweithwyr ieuenctid yn yr ysgol.
Grŵp Addysg a Hyfforddiant Ôl-16
Mae’r Grŵp Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn ychwanegiad newydd i fodel y ‘Big P’ ac ar hyn o bryd yn y camau sefydlu a chynllunio.
Bydd y grŵp hwn yn cynnwys Pobl Ifanc sydd rhwng 16 a 25 oed sydd ynghlwm wrth unrhyw fath o hyfforddiant, mewn addysg, yn ddi-waith ar hyn o bryd neu’n gyflogedig. Bydd y grŵp hwn yn ystyried materion cyfleoedd ôl-16 yn Wrecsam.
Diddordeb mewn dod ynghlwm wrth hyn?
Os hoffech ragor o wybodaeth am y ‘Big P’ neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod ynghlwm wrth hyn cysylltwch â:
Y Tîm Cyfranogi @
Canolfan Pobl Ifanc Y Fic
11-13 Stryt yr Allt
Wrecsam
LL11 1SN
01978 317 961 / 318 810
youngvoices@wrexham.gov.uk