Beth yw Wrecsam Ifanc?
Dolen gyflym yw'r dudalen hon ar y wefan, sydd yn eich galluogi i gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth leol.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar un o'r llabedau isod.
Rhedir yr adran hon mewn partneriaeth â 'Ein Cynllun Ni ar gyfer Wrecsam 2013 – 2024' Nod y Cynllun yw gwneud Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardal wych i fyw ynddi, yn lle diogel, yn rhywle lle mae pobl yn iach ac egnïol ac yn gallu byw'n annibynnol. Gallwch lawrlwytho copi o'r cynllun llawn drwy ddilyn y ddolen hon i 'Ein Cynllun Ni ar gyfer Wrecsam'.
Caiff yr wybodaeth ar y wefan hon ei diweddaru'n gyson, ond os oes ydych chi'n meddwl bod rhywbeth ar goll, a allai ei gwneud yn well, dilynwch y ddolen 'ASK WREX' a llenwi'r ffurflen er mwyn i ni ystyried eich cais.
Mae'r wefan hon yn cysylltiadau at wasanaethau trydydd parti. Defnyddir y cysylltiadau hyn i ddarparu gwybodaeth bellach ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir o ganlyniad i ddefnyddio'r wybodaeth o'r gwasanaethau hyn. Os byddwch yn dibynnu ar wybodaeth fel hyn, bydd ar eich menter eich hun a'ch cyfrifoldeb chi yw asesu safon y gwasanaethau a ddarperir.
-
Iach ac Egniol
Yn yr adran hon o'r wefan, byddwch yn gallu dod o hyd i ddolenni a fydd yn helpu i wella eich iechyd, eich helpu i deimlo'n dda amdanoch eich hun, cysylltu â gwasanaethau hamdden lleol a lleoedd y gallwch gael cefnogaeth pan fydd ei angen arnoch.
-
Yn gynwysedig a diogel
Yn yr adran hon byddwch yn gallu dod o hyd i ddolenni sy'n cysylltu â gwasanaethau lleol a fydd yn eich helpu i ddweud eich dweud, eich cefnogi pan deimlwch yn unig a'ch helpu i deimlo eich bod wedi eich cynnwys.
-
Addysg a Gwaith
Yn yr adran hon byddwch yn gallu dod o hyd i ddolenni i wasanaethau lleol a fydd yn gallu eich cynorthwyo drwy addysg, i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith a darparu gwybodaeth i unigolion a theuluoedd i ennill cymwysterau a gwaith neu'r ddau.