'Beth sy'n Bwysig i Chi?
Yn dilyn yr ymateb aruthrol a gawsom i'n ymgynghoriad ddiweddar ar y gyllideb, ‘Penderfyniadau Anodd’, rydym ni eisiau parhau i sgwrsio â’r cyhoedd er mwyn deall beth sy'n bwysig i chi, a sicrhau bod y gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig yn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau.
Mae’r Cyngor yn gweithio i sicrhau fod pobl leol yn derbyn gwasanaethau o safon uchel sy’n darparu gwerth am arian o fewn cyllideb sy’n lleihau. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, rydym yn eich gwahodd i ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi.
Bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd i Gynghorwyr mewn gweithdy ym mis Mawrth pan fyddan nhw’n ystyried targedau gwahanol feysydd gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn. Bydd adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i'r holl Gynghorwyr a Phenaethiaid Adrannau, fel y gallan nhw ddefnyddio’ch barn i ddatblygu gwaith eu gwasanaethau ac i lywio penderfyniadau ynghylch ble i ganolbwyntio adnoddau.
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/dwedwch , neu drwy lenwi’r arolwg papur sydd ar gael yn Llyfrgell Wrecsam, y Ganolfan Gyswllt (Stryt yr Arglwydd) ac yn nerbynfa Neuadd y Dref. Fel arall, gallwch anfon eich sylwadau atom mewn e-bost i telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk, neu mewn llythyr at Dweud Eich Dweud, 3ydd Llawr, Anecs Neuadd y Dref, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1AY.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad yw 20 Chwefror 2015