Gwybodaeth » Arian » Arian Wrth Ddysgu » Yn yr ysgol
Yn yr Adran Hon
Yn Yr Ysgol
Arian Sydd Ar Gael I Rieni
- Os yw dy deulu ar incwm isel, gallan nhw weithiau gael help â chostau dy addysg oddi wrth y llywodraeth
- Os yw dy deulu ar Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, fe fyddi di’n cael pryd canol dydd yn rhad ac am ddim tra'r ydwyt yn yr ysgol neu’r coleg, cyn belled â dy fod di dan 19 oed. Gofynna i dy diwtor dosbarth, Pennaeth dy Flwyddyn neu Wasanaethau Myfyrwyr am gyngor
- Os ydwyt rhwng 16 a 18 oed ac yn dal i fod yn yr ysgol neu’r coleg ond yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm dy hun (yn dy hawl dy hun) byddi di hefyd yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim; gofynna i dy diwtor dosbarth, Pennaeth dy Flwyddyn neu Wasanaethau Myfyrwyr am gyngor
- Gall ceisiadau am brydau ysgol am ddim cael ei wneud gan y rhiant neu'r disgybl, neu gan rywun ar ei ran e.e. perthynas, ffrind neu rywun sy'n gweithio gyda/ar gyfer dy deulu i helpu ti i gael gafael ar yr holl fudd-daliadau y mae gennyt hawl iddynt e.e. cynrychiolydd gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth (gweler isod)
- Bydd rhai awdurdodau lleol hefyd yn helpu â chost dillad ar gyfer disgyblion os yw’r teulu ar incwm isel
Am ragor o wybodaeth ar brydau ysgol am ddim a grantiau dillad yn dy ardal di, ffonia dy Awdurdod Addysg Leol, ymweld â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu darllena'r cwestiynau ac atebion helaeth a rhoddir at ei gilydd gan Lywodraeth Cymru.