Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Arian Wrth Ddysgu » Addysg uwch



Addysg Uwch

Gall mynd ymlaen i addysg uwch, fel y brifysgol, fod yn ddrud. Bydd llawer o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain am y tro cyntaf, yn talu am rent, biliau a bwyd, ac mae cost y cwrs a'r offer i dalu am hefyd.

Sut bynnag mae cymorth ar gael i dy helpu i dalu dy ffordd drwy addysg uwch yng Nghymru. Mae rhywfaint o hyn yn wahanol ar gyfer myfyrwyr o Gymru i gymharu â myfyrwyr o Loegr.

Benthyciadau Myfyrwyr

  • Mae dau fath o fenthyciad i fyfyrwyr ar gael. Un i dalu cost ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs ac un i dalu am dy gostau byw (cynnal a chadw) mae gwybodaeth fwy manwl ynglŷn â'r rhain isod
  • Nid benthyciadau masnachol yw benthyciadau myfyrwyr, fel y rhai o fanc. Maent yn cael eu darparu gan y llywodraeth gyda chyfradd llog yn gysylltiedig â chwyddiant

Benthyciadau myfyrwyr ar gyfer ffioedd

  • O 2006, nid oes rhaid i fyfyriwr talu ceiniog tuag at eu ffioedd cyn neu yn ystod eu hastudiaethau
  • Yn lle hynny, gallet ti gael benthyciad myfyriwr i dalu hyd at gyfanswm y swm mae dy gwrs yn costio, os wyt ti'n dymuno
  • Gan ddaw benthyciad yw hwn, bydd rhaid i ti ei dalu yn ôl nes ymlaen. Rwyt ti ond yn dechrau ei dalu yn ôl pan fyddi di'n ennill dros £21,000 y flwyddyn

£9,000 Ffioedd a Grantiau Ffioedd Dysgu

  • Mae gan brifysgolion y DU yn awr yr hyblygrwydd i godi hyd at £9,000 ar gyfer ffioedd dysgu, cyn belled ag y maent yn gwneud mwy i annog myfyrwyr tlawd i wneud cais
  • Yn ôl Addysg Uwch Times bydd mwy na 90 y cant o brifysgolion yn Lloegr yn codi tal o £9,000 ar gyfer o leiaf rhai cyrsiau yn 2014-15
  • Os ydwyt yn fyfyriwr o Gymru, gallet hefyd wneud cais am Grant Ffioedd Dysgu o Lywodraeth Cymru i dalu am £5,315 cyntaf dy ffioedd dysgu. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i ti gael benthyciad ar gyfer y £5,315 o'th ffioedd, felly mae gennyt lawer llai i dalu yn ôl yn ddiweddarach
  • Gallet wneud cais gwaeth beth yw incwm dy deulu, cyn belled a bod ffioedd dy gwrs yn fwy na £3,685
  • Bydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'th fan astudio, ac i fod yn glir, gan ei fod yn Grant, nid oes rhaid i ti ei dalu'n ôl
  • Os ydwyt fel arfer yn byw yn rhywle arall yn y DU, ond yn gobeithio astudio yng Nghymru, dylet geisio cyngor gan dy gyrff ariannu lleol ynglŷn â'r benthyciadau ffioedd sydd ar gael i ti

Benthyciadau myfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth

  • Gallet hefyd wneud cais am fenthyciad i dalu am dy gostau byw cyffredinol, fel rhent, biliau a bwyd, dillad, mynd allan, cludiant ac offer cwrs, fel llyfrau neu deithiau maes
  • Os nad ydwyt yn darparu manylion incwm, byddi di ond yn gymwys am fenthyciad cynhaliaeth sylfaenol heb brawf modd o hyd at £5,466
  • Os ydwyt yn darparu manylion am dy incwm, ac mae'n is na lefel benodol, gallu di gael benthyciad cynhaliaeth prawf modd uwch. Mae hyd at £7,288 ar gael - mae'r bwrdd llawn fan hyn
  • Nodyn: Mae'r ffigwr 'incwm' maent yn eu defnyddio yn gyfanswm trethadwy incwm y cartref, sy'n golygu bod cyfanswm incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrif yn ogystal ag incwm y rhiant (rhieni) a/ neu'r partner y maent yn byw gyda
  • Mae'r benthyciad yn cael ei dalu'n uniongyrchol. Eto, byddi di'n talu'r benthyciad hwn yn ôl pan fyddi di'n gorffen prifysgol ac yn dechrau ennill dros £21,000 y flwyddyn

Gwneud cais ac Ad-dalu

  • I wneud cais am fenthyciad myfyriwr o unrhyw fath, cer i Cyllid Myfyrwyr Cymru cyn neu ar ôl derbyn lle mewn prifysgol neu goleg. Mae'r dyddiad cau fel arfer ym mis Mai ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau mis Medi/Hydref
  • Byddet yn ei ad-dalu ar naw y cant ar y gwahaniaeth rhwng £21,000 a'r swm yr ydwyt yn ei ennill, nid naw y cant o dy enillion. Er enghraifft, os ydwyt yn ennill £25,000, byddi di'n ad-dalu £360 y flwyddyn, sef £30 y mis
  • Bydd yr arian sy'n ddyledus yn cael eu cymryd yn awtomatig o dy siec gyflog bob mis ar gyfradd gysylltiedig â dy incwm. Os bydd dy incwm yn newid, bydd dy ad-daliadau yn newid yn awtomatig i adlewyrchu hyn
  • Os ydwyt am dalu dy fenthyciad yn gyflymach, gallet wneud taliadau ychwanegol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ar grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr a faint sydd gennyt hawl iddo, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Help Gyda Chostau Cynnal A Chadw

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

  • Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (elwir gynt yn Grant Dysgu'r Cynulliad) yn darparu arian ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sy'n dioddef caledi ariannol wrth astudio
  • Ei nod yw helpu gyda chost llyfrau, teithio ac offer. Does dim rhaid i ti ei dalu'n ôl
  • Uchafswm y cymorth sydd ar gael yw £5,161 y flwyddyn. Mae faint a gei di yn dibynnu ar incwm dy gartref
  • Bydd hyd at £2,575 o Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn cael ei dalu yn lle elfen o'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth. Y rheswm am hyn ydy y bydd rhan o anghenion cynnal a chadw'r rhai sy'n derbyn grantiau yn cael eu bodloni gan y grant nad yw'n ad-daladwy
  • I fod yn gymwys, rhaid i gyfanswm dy incwm cartref blynyddol trethadwy cyfunol fod yn £50,020 neu lai'r flwyddyn
  • Os yw incwm y cartref yn £18,370 neu lai, bydd y myfyriwr yn gymwys i gael y grant llawn o £5,161. Os yw cyfanswm incwm y cartref rhwng £18,371 a £50,020, bydd y myfyriwr dim ond yn gymwys i gael grant rhannol
  • Gall fod yn eithaf anodd i ddod o hyd i wybodaeth am y grant hwn ac ni ddylai cael ei gymysgu gyda Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach
  • I wneud cais cysyllta â Chyllid Myfyrwyr Cymru

Grant Cymorth Arbennig

  • Fel Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, mae'r Grant Cymorth Arbennig yn darparu arian ychwanegol i fyfyrwyr sy'n dioddef caledi ariannol wrth astudio a'u nod yw helpu gyda chostau llyfrau, teithio, gofal plant ac offer. Nid oes rhaid iddo gael ei dalu'n ôl
  • Fodd bynnag, yn wahanol i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, ni fydd hyn yn effeithio ar swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallai fod gennyt hawl iddo. Hefyd, ni fydd yn effeithio ar faint o fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredydau Treth y mae gennyt hawl iddynt
  • Nodyn: mae gennyt yr hawl i naill ai Grant Dysgu'r Llywodraeth Cymru neu Grant Cymorth Arbennig. Os ydwyt yn ansicr pa un, cysyllta â Chyllid Myfyrwyr Cymru
  • Y rhai sy'n fwyaf tebygol o fod yn gymwys ydy rhieni unigol, myfyrwyr eraill sy'n rhieni a myfyrwyr ag anableddau
  • Os yw cyfanswm dy incwm cartref blynyddol trethadwy yn £18,370 neu lai, bydd y myfyriwr yn gymwys i gael y grant llawn o £5,161. Os yw cyfanswm incwm y cartref rhwng £18,371 a £50,020, bydd y myfyriwr yn gymwys i gael grant rannol yn unig

Cymorth Ar Gyfer Rhai A Ganddynt Ddibybyddion

Grant Gofal Plant

  • Yn dibynnu ar gyfanswm dy incwm, gallu di gael Grant Gofal Plant tuag at dy gostau gofal plant, cyn belled â bod dy blant mewn gofal plant cofrestredig a chymeradwy
  • Uchafswm y grant yw £161.50 yr wythnos am un plentyn neu £274.55 yr wythnos ar gyfer mwy nag un plentyn a/neu hyd at 85% o'th gostau gofal plant
  • Nid ydwyt yn gymwys i gael y grant hwn os ydwyt ti neu dy bartner yn derbyn elfen gofal plant y Credydau Treth Gwaith, Credyd Cynhwysol neu grantiau gofal plant a ariennir gan y GIG
  • I wneud cais, noda ar dy gais am gyllid myfyrwyr yr hoffet Ffurflen Gais am Grant Gofal Plant (CCG1) a byddant yn anfon un atat
  • Mae'n rhaid i ti ddarparu gwahanol fanylion ar y ffurflen a thystiolaeth wahanol trwy gydol y flwyddyn. Gellir cael mwy o wybodaeth fan hyn

Lwfans Dysgu i Rieni

  • Gan ddibynnu ar gyfanswm dy incwm, gallet dderbyn Lwfans Dysgu Rhieni i helpu i dalu rhai o'r costau ychwanegol a godwyd gan fyfyrwyr sydd â phlant
  • Gallwch wneud cais gwaeth beth yw oedran dy blentyn (plant), ar yr amod eu bod yn dibynnu arnat ti yn ariannol
  • Yr uchafswm yw £1,557 am y flwyddyn gyfan
  • Bydd angen i ti ddarparu tystiolaeth o'th blentyn dibynnol a phrawf eu bod yn ddibynnol arnat ti. Mae'r manylion a'r ystyriaethau pwysig fan hyn

Grant Oedolion Dibynnol

  • Os oes gennyt oedolyn sy'n dibynnu arnat ti'n ariannol, efallai y gallet wneud cais am Grant i Oedolion Dibynnol
  • Mae'r swm y gallet ei gael yn dibynnu ar incwm dy gartref. Uchafswm y grant sydd ar gael yw £2,732 y flwyddyn
  • Gall unrhyw fyfyriwr israddedig neu fyfyriwr ar gwrs Hyfforddi Athrawon Cychwynnol ôl-raddedig wneud cais
  • Gall 'oedolyn dibynnol' fod yn ŵr, gwraig neu bartner sifil, ond ni all fod yn bartner sy'n byw gyda thi os wyt ti o dan 25, ac ni all fod yn blentyn sydd wedi tyfu i fyny neu oedolyn arall sy'n derbyn cyllid myfyrwyr
  • Noder: Mae Grant Oedolion Dibynnol yn cyfrif fel incwm wrth gyfrifo pa fudd-daliadau neu Gredyd Cynhwysol y gallu di gael

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

  • Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gael i fyfyrwyr rhan-amser neu amser llawn mewn addysg uwch neu bellach sy’n dioddef o galedi ariannol ac a fyddai, heb help, yn gorfod gadael eu cwrs o bosib
  • Rhaid i fyfyrwyr archwilio a gwneud cais am yr holl ffynonellau cyllid amgen yn gyntaf, gan gynnwys cyllid cyhoeddus
  • Rhoddir y gronfa i dy sefydliad addysgol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ti wneud cais yn uniongyrchol at dy sefydliad addysgol
  • Os yw dy gais am arian o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn llwyddiannus, efallai y bydd yn cael ei dalu i ti ar ffurf benthyciad, ar ffurf grant nad oes yn rhaid i ti ei dalu yn ôl neu ar ffurf gwasanaeth neu offer, fel gofal plant neu gyfrifiadur
  • Nid ydyw'r gronfa yno i gynorthwyo dy ddewisiadau ffordd o fyw, er enghraifft, i helpu i ti brynu car, gemau consol neu aelodaeth canolfan hamdden!
  • Efallai y bydd amodau eraill hefyd yn cael eu hystyried, fel y gwelir fan hyn ac ar wefan dy sefydliad. Er enghraifft, dyma'r Cwestiynau Cyffredinol ar gyfer Prifysgol De Cymru

Bwrsariaethau a Benthyciadau Caledi

  • Os ydwyt mewn caledi ariannol, gall cymorth pellach fod ar gael i ti yn uniongyrchol gan dy brifysgol neu goleg. Fel arfer, ni fydd disgwyl i dalu unrhyw beth yn ôl ond, mewn rhai achosion, byddet yn cael benthyciad a fydd yn rhaid i ti ei dalu'n ôl
    • Yn dod o deulu incwm isel
    • Gennyt blant
    • Gennyt anabledd
    • Wedi gadael gofal
    • Yn ddigartref
  • Gallet gael dy dalu mewn rhandaliadau neu un cyfandaliad
  • Mae'r arian hwn yn annhebygol o effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth
  • Mae mwy o fanylion ar sut i wneud cais fan hyn

Cael Cymorth a Rhagor o Fanylion

  • Os ydwyt yn poeni am ariannu dy gwrs addysg uwch, costau byw, neu eisiau mwy o wybodaeth am yr hyn y mae gennyt hawl iddo, Gweler y dolenni ar y dudalen hon neu siarada â rhywun yn dy brifysgol neu goleg a all helpu, megis gwasanaethau myfyriwr neu'r Undeb myfyrwyr Cenedlaethol
  • I gael manylion llawn am yr hyn sydd ar gael yn dy faes astudio, cysyllta â'r Awdurdod Addysg Leol yn y rhanbarth hwnnw neu weler y Swyddfa dros Fynediad Teg ar www.offa.org.uk, gan chwilio am le'r ydwyt yn byw fel arfer

Cynllunio

Cynllunio yw'r allwedd i ariannu dy addysg uwch. Cyn i ti ddechrau yn y brifysgol neu goleg, ceisia ddarganfod cymaint ag y gallet ti am y costau y byddi di'n wynebu, er enghraifft:

  • Costau'r cwrs (ffioedd dysgu)
  • Rhent
  • Biliau dŵr, nwy, trydan a ffôn
  • Biliau ffôn symudol
  • Dillad
  • Llyfrau ac offer cwrs arall fel deunydd ysgrifennu
  • Bwyd
  • Cludiant
  • Cymdeithasu

Gweler ein tudalennau Cyllidebu hefyd.

Siarada â dy rieni am yr hyn y maent yn disgwyl i ti dalu amdano a gweithia allan gyllideb i ti fyw trwy, yn ôl pa gymorth ariannol y gallet ti gael.

Er y gall addysg uwch ymddangos yn ddrud, mae'n fuddsoddiad yn dy ddyfodol ac mae cymorth ariannol ar gael bob amser os ydwyt ei angen.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50