Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Arian Wrth Ddysgu » Addysg l 16



Addysg Ôl 16

Os ydwyt dros 16 oed ac mewn addysg, mae’n bosib y bydd gennyt ti hawl i gefnogaeth ariannol ychwanegol. Gallu di ddarllen am hyn isod. Nodir y bydd rhai Awdurdodau Addysg Leol yn cynnig cymorth ychwanegol i dros-16 oed mewn addysg, felly gwiria gyda nhw, hefyd.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Lwfans gwerth hyd at £30 yr wythnos yw LCA. (Mae’n cael ei dalu bob pythefnos) i fyfyrwyr rhwng 16 a 18 oed sy’n parhau mewn addysg bellach a ganddynt incwm yr aelwyd o dan lefel benodol.

Efallai y byddi di'n gymwys i gael LCA:

  • Os ydwyt rhwng 16 ac 18 oed
  • Os yw dy gwrs academaidd neu alwedigaethol yn golygu o leiaf 10 wythnos o hyd ac yn cynnwys o leiaf 12 awr o ddysgu yr wythnos dan gyfarwyddyd (h.y. darlithoedd neu astudiaeth dan oruchwyliaeth)
  • Os yw incwm dy gartref yn £20,817 neu'n is a ti yw'r unig berson ifanc yn y cartref neu o dan £23,077 neu'n is os oes pobl ifanc ychwanegol yn gymwys i gael budd-dal plant yn y cartref

Gall dy gwrs fod mewn chweched dosbarth ysgol, coleg chweched dosbarth neu goleg addysg bellach.

Ni fydd LCA yn effeithio ar dy fudd-daliadau di nac ar fudd-daliadau dy deulu.

I wneud cais, siarada â dy ysgol neu dy goleg neu dy gynghorydd gyrfaoedd.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

  • Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gael i fyfyrwyr rhan-amser neu amser llawn mewn addysg uwch neu bellach sy’n dioddef o galedi ariannol ac a fyddai, heb help, yn gorfod gadael eu cwrs o bosib. Nid yw’r gronfa yma ar gael i fyfyrwyr yn yr ysgol
  • Rhaid i fyfyrwyr archwilio a gwneud cais am yr holl ffynonellau cyllid amgen yn gyntaf, gan gynnwys cyllid cyhoeddus
  • Rhoddir y gronfa i dy sefydliad addysgol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ti wneud cais yn uniongyrchol at dy sefydliad addysgol
  • Os yw dy gais am arian o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn llwyddiannus, efallai y bydd yn cael ei dalu i ti ar ffurf benthyciad, ar ffurf grant nad oes yn rhaid i ti ei dalu yn ôl neu ar ffurf gwasanaeth neu offer, fel gofal plant neu gyfrifiadur
  • Nid ydyw'r gronfa yno i gynorthwyo dy ddewisiadau ffordd o fyw, er enghraifft, i helpu i ti brynu car, gemau consol neu aelodaeth canolfan hamdden!
  • Efallai y bydd amodau eraill hefyd yn cael eu hystyried, fel y gwelir fan hyn ac ar wefan dy sefydliad. Er enghraifft, dyma'r Cwestiynau Cyffredinol ar gyfer Prifysgol De Cymru

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach

  • Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach [elwir gynt yn Grant Dysgu'r Cynulliad (GDC) (AB)] yn darparu arian ychwanegol ar gyfer costau byw cyffredinol i fyfyrwyr sy'n astudio addysg uwch mewn coleg yng Nghymru ac yn dioddef o galedi ariannol. Ni fydd disgwyl i ti dalu’r grant yn ôl
  • Mae’n dy helpu i dalu am lyfrau, offer, costau teithio neu ofal plant tra'r ydwyt mewn addysg
  • Yr ydwyt yn gymwys os ydwyt yn astudio ar gwrs addysg amser llawn neu ran-amser, neu os ydwyt yn 19 mlwydd oed neu'n hyn ac yn dilyn cwrs sy’n arwain at gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ond nad yw’n rhan o addysg orfodol
  • Mae cyrsiau enghreifftiol yn cynnwys TGAU, Lefelau A neu AS, cyrsiau BTEC a NVQ a Chyrsiau Sgiliau Sylfaenol
  • Gall grantiau i fyfyrwyr rhan-amser amrywio o £300 i £750 ac o £450 i £1,500 yn achos myfyrwyr amser llawn, gan ddibynnu ar incwm blynyddol dy gartref
  • Dyddiadau allweddol: rhaid i ffurflenni cais gael eu derbyn o fewn naw mis o ddyddiad dechrau dy gwrs. Rhaid i'r holl wybodaeth a thystiolaeth cael eu derbyn o fewn 12 mis o ddyddiad dechrau dy gwrs
  • Mae yna amodau manwl i'r grant, felly gweler gwefan y Canolfan Cyngor ar Bopeth i gael manylion llawn
  • I wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cysyllta â'r Cwmni Cyllid Myfyrwyr Cymru

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50