Gwybodaeth » Arian » Arian Wrth Ddysgu » Astudio Rhan-amser
Yn yr Adran Hon
Astudio rhan-amser
Os ydwyt yn astudio rhan-amser, mae’n bosib bod gennyt ti hawl i gymorth ariannol ychwanegol i dy helpu i ddechrau dy astudiaethau neu i barhau â nhw.
Cronfa Ariannol Wrth Gefn
- Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gael i fyfyrwyr rhan-amser neu amser llawn mewn addysg uwch neu bellach sy’n dioddef o galedi ariannol ac a fyddai, heb help, yn gorfod gadael eu cwrs o bosib. Nid yw’r gronfa yma ar gael i fyfyrwyr yn yr ysgol
- Rhaid i fyfyrwyr archwilio a gwneud cais am yr holl ffynonellau cyllid amgen yn gyntaf, gan gynnwys cyllid cyhoeddus
- Rhoddir y gronfa i dy sefydliad addysgol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ti wneud cais yn uniongyrchol at dy sefydliad addysgol
- Os yw dy gais am arian o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn llwyddiannus, efallai y bydd yn cael ei dalu i ti ar ffurf benthyciad, ar ffurf grant nad oes yn rhaid i ti ei dalu yn ôl neu ar ffurf gwasanaeth neu offer, fel gofal plant neu gyfrifiadur
- Nid ydyw'r gronfa yno i gynorthwyo dy ddewisiadau ffordd o fyw, er enghraifft, i helpu i ti brynu car, gemau consol neu aelodaeth canolfan hamdden!
- Efallai y bydd amodau eraill hefyd yn cael eu hystyried, fel y gwelir fan hyn ac ar wefan dy sefydliad. Er enghraifft, dyma'r Cwestiynau Cyffredinol ar gyfer Prifysgol De Cymru
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (elwir gynt yn Grant Dysgu'r Cynulliad) yn darparu arian ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sy'n dioddef caledi ariannol wrth astudio
- Ei nod yw helpu gyda chost llyfrau, teithio ac offer. Does dim rhaid i ti ei dalu'n ôl
- Uchafswm y cymorth sydd ar gael yw £5,161 y flwyddyn. Mae faint a gei di yn dibynnu ar incwm dy gartref
- Bydd hyd at £2,575 o Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn cael ei dalu yn lle elfen o'r Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth. Y rheswm am hyn ydy y bydd rhan o anghenion cynnal a chadw'r rhai sy'n derbyn grantiau yn cael eu bodloni gan y grant nad yw'n ad-daladwy
- I fod yn gymwys, rhaid i gyfanswm dy incwm cartref blynyddol trethadwy cyfunol fod yn £50,020 neu lai'r flwyddyn
- Os yw incwm y cartref yn £18,370 neu lai, bydd y myfyriwr yn gymwys i gael y grant llawn o £5,161. Os yw cyfanswm incwm y cartref rhwng £18,371 a £50,020, bydd y myfyriwr dim ond yn gymwys i gael grant rhannol
- Gall fod yn eithaf anodd i ddod o hyd i wybodaeth am y grant hwn ac ni ddylai cael ei gymysgu gyda Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach
- I wneud cais cysyllta â Chyllid Myfyrwyr Cymru
Myfyrwyr Newydd o 2014/15
Benthyciad ffioedd dysgu
- O 2014/2015, bydd pob myfyriwr rhan-amser newydd yn gallu gwneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu heb brawf modd i helpu i dalu am y ffioedd dysgu a godir gan eu sefydliad addysg uwch
- Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais am hyd at £2,625 waeth ble maent yn astudio a gall myfyrwyr o Loegr wneud cais am hyd at £6,750, yn dibynnu ar ddwyster y cwrs
- I fod yn gymwys, mae'n rhaid i dwysedd dy gwrs fod o leiaf 25% ar gyfartaledd (mae hyn yn golygu bod y cwrs rhan-amser yn cael ei gwasgaru dros bedair gwaith mor hir a'i cyfwerth llawn-amser)
- Gan ftaw benthyciad yw hwn, rhaid iddo gael ei dalu'n ol. Rwyt ond yn gwneud ad-daliadau ar ôl i ti raddio a dechrau ennill dros £21,000 / blwyddyn
- I wneud cais, cysyllta â'th prifysgol neu goleg, neu lawrlwytha'r ffurflen gais oddi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru o ddiwedd mis Gorffennaf 2014
- Os ydwyt yn parhau ar gwrs yn 2014/15, efallai y byddi di dal i fod yn gymwys ar gyfer y Grant Ffioedd Rhan-Amser, gweler 'Myfyrwyr Parhaus' isod
Help Gyda Chostau Cwrs Perthnasol: Grant Cwrs
- Mae Myfyrwyr rhan-amser sy'n byw yng Nghymru yn gymwys am grant o hyd at £1,155 ar gyfer llyfrau, teithio a chostau arall sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Nid oes rhaid ei dalu'n ôl
- I fod yn gymwys, mae'n rhaid dy fod yn astudio ar gwrs dwysedd cyfartalog o leiaf 50%
- Mae'r grant hwn hefyd yn dibynnu ar incwm y cartref; fodd bynnag, nid yw incwm dy rieni o bwys o gwbl, hyd yn oed os ydwyt yn dal i fyw gyda nhw!
- Os yw incwm dy gartref yn is na £26,095, gallet dderbyn y grant llawn £1,155. Os yw rhwng £26,095 a £ 28,180, gallet dderbyn £50 neu fwy. Nid ydy unrhyw unigolyn sydd ag incwm cartref uwch na £28,181 yn gymwys
- I wneud cais, cysyllta â'th brifysgol neu goleg, neu lawrlwytha'r ffurflen gais oddi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru pan fydd yr amser yn dod i wneud cais - o ddiwedd mis Gorffennaf 2014
- Nodyn: os oes gennyt radd Anrhydedd y DU yn barod, ni allet ymgeisio am y cymorth hwn fel arfer
Cymorth Ariannol Arall
- Efallai y byddet yn medru cael cymorth ariannol ychwanegol i dy helpu trwy dy astudiaethau os ydwyt yn anabl neu os oes gennyt bobl sy'n ddibynnol arnat ti. Enghreifftiau o gymorth yw
- Grant Oedolion Dibynnol (ADG)
- Grant Gofal Plant (CCG)
- Lwfans Dysgu i Rieni (PLA)
- Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA)
- Gweler gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o fanylion
Myfyrwyr sy'n Parhau yn 2014/15
Grant Ffioedd Dysgu
- Mae'n bosib y gall myfyrwyr a gychwynnodd ar gwrs rhan-amser cyn 1af Medi 2014 (neu yn parhau cwrs dysgu o bell maent wedi cychwyn cyn 1af Medi 2012) yn gallu gwneud cais am Grant Ffioedd o hyd at £1,025
- Mae Grant Ffioedd yno i helpu i dalu am y ffioedd dysgu a godir gan dy sefydliad addysg uwch ac nid oes rhaid ei dalu'n ôl
- I fod yn gymwys, mae'n rhaid dy fod yn astudio ar gwrs dwysedd cyfartalog o leiaf 50%, yn union fel Grantiau Cwrs
- Mae'r grant hwn hefyd yn dibynnu ar incwm y cartref
- I wneud cais, cysyllta â dy awdurdod lleol a gofynna am ffurflen gais, neu lawrlwytha ffurflen gais o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru pan mae'n amser i wneud cais - o ddiwedd mis Gorffennaf 2014
- Noder: os oes gennyt radd Anrhydedd y DU yn barod, ni allet fel arfer ymgeisio am y cymorth hwn
Help Gyda Chostau Cwrs Perthnasol: Grant Cwrs
- Mae Myfyrwyr rhan-amser sy'n byw yng Nghymru yn gymwys am grant o hyd at £1,155 ar gyfer llyfrau, teithio a chostau arall sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Nid oes rhaid ei dalu'n ôl
- I fod yn gymwys, mae'n rhaid dy fod yn astudio ar gwrs dwysedd cyfartalog o leiaf 50%
- Mae'r grant hwn hefyd yn dibynnu ar incwm y cartref; fodd bynnag, nid yw incwm dy rieni o bwys o gwbl, hyd yn oed os ydwyt yn dal i fyw gyda nhw!
- Os yw incwm dy gartref yn is na £26,095, gallet dderbyn y grant llawn £1,155. Os yw rhwng £26,095 a £ 28,180, gallet dderbyn £50 neu fwy. Nid ydy unrhyw unigolyn sydd ag incwm cartref uwch na £28,181 yn gymwys.
- I wneud cais, cysyllta â'th brifysgol neu goleg, neu lawrlwytha'r ffurflen gais oddi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru pan fydd yr amser yn dod i wneud cais - o ddiwedd mis Gorffennaf 2014
- Nodyn: os oes gennyt radd Anrhydedd y DU yn barod, ni allet ymgeisio am y cymorth hwn fel arfer
Cymorth Ariannol Arall
- Efallai y byddet yn medru cael cymorth ariannol ychwanegol i dy helpu trwy dy astudiaethau os ydwyt yn anabl neu os oes gennyt bobl sy'n ddibynnol arnat ti. Enghreifftiau o gymorth yw
- Grant Oedolion Dibynnol (ADG)
- Grant Gofal Plant (CCG)
- Lwfans Dysgu i Rieni (PLA)
- Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA)
- Gweler gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o fanylion
Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa
- Mae'r benthyciadau hyn yn cefnogi pobl sydd eisiau dysgu i ddatblygu eu gyrfa neu newid gyrfa
- Gallet fenthyg unrhyw beth rhwng £300 a £ 10,000 i gefnogi dy ddysgu
- Mae'r benthyciad yn dod o fanciau'r stryd fawr ac mae ganddo gyfradd llog is. Bydd y llywodraeth hyd yn oed yn talu'r llog tra byddet yn dysgu a does dim angen i ti dalu'r benthyciad yn ôl nes dy fod wedi gorffen astudio
- Noder: dim ond Barclays a'r Co-op sy'n cynnig y benthyciadau hyn. Gall banciau eraill esgus eu cynnig trwy ddweud "dim ad-daliadau i'w gwneud tra dy fod yn astudio", ond mae hyn yn cuddio'r ffaith eu bod yn codi llog tra byddet yn astudio, a dydy Benthyciadau Datblygu Gyrfa ddim
- Gall y benthyciad cael ei ddefnyddio i dalu am hyd at 80 y cant o ffioedd dy gwrs neu 100 y cant ohonynt os ydwyt wedi bod allan o waith am fwy na thri mis
- Gall y benthyciad hefyd talu am gostau cwrs, fel llyfrau, offer a chostau teithio; a chostau byw, megis bwyd, tanwydd a dillad (ar yr amod nad ydynt eisoes yn cael eu cynnwys gan unrhyw grantiau eraill neu fudd-daliadau'r wladwriaeth)
- Gofynna i dy swyddfa budd-daliadau cyn cymryd benthyciad gan y gall effeithio ar y budd-daliadau y gallet ei hawlio
- I wneud cais, gofynna am ffurflen gais oddi wrth naill ai Barclays neu'r Co-op. Gwna gais o leiaf dri mis cyn i dy gwrs ddechrau oherwydd gallai'r ceisiadau gymryd amser hir i'w prosesu
- Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Gyrfa Cymru, oddi wrth y ddau fanc neu ar wefan dy brifysgol. Er enghraifft, mae tudalen Prifysgol Caerdydd, sydd yn ddefnyddiol iawn, fan hyn
Y Brifysgol Agored
- Os byddi di’n penderfynu astudio â’r Brifysgol Agored, mae yna hefyd gymorth ariannol ar gael
- Gallet ti gael help i dalu ffioedd y cwrs, a threuliau astudio fel llyfrau ac offer
- Gallet wneud cais ar gyfer y Benthyciad Ffioedd Dysgu gwneud yn ôl yr arfer, cyn belled â bod dy fodiwl Brifysgol Agored werth dros 30 o unedau a dy fod yn astudio ar gyfer cymhwyster israddedig sy'n uwch nag unrhyw un sydd gennyt eisoes
- Mae yna help hefyd ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu anawsterau dysgu, ac ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o anawsterau ariannol wrth astudio
- Mae'r holl wybodaeth ar eu gwefan. Dechreua fan hyn os ydwyt yn ystyried astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru
Ffynonellau nawdd eraill
Os na alli di ddod o hyd i unrhyw gyllid ond yn poeni ynglŷn â chost astudio, mae rhai colegau neu brifysgolion yn rhedeg cyrsiau yn rhad ac am ddim. Gweler Gyrfa Cymru ar www.gyrfacymru.com i gael gwybodaeth am yr holl gyrsiau sydd ar gael yng Nghymru, neu siarada â’th Ganolfan Gyrfa Cymru leol i gael gwybodaeth am rai sy’n agos atat ti. Gallet ti hefyd ffonio learndirect ar 0800 100 900.
Bydd rhai pobl hefyd yn mynd ar gyrsiau rhan-amser y bydd eu cyflogwr yn talu amdanyn nhw fel rhan o’u pecyn hyfforddi neu eu pecyn buddiannau. Siarada â dy gyflogwr am unrhyw gyfleoedd a allai fod yno i ti.