Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Arian Tra'n Gweithio » Yswiriant Gwladol



Yswiriant Gwladol

Unwaith y byddi di’n 16 oed neu’n hŷn ac yn dechrau ennill dros swm penodol, byddi di’n dechrau talu cyfraniadau (taliadau) yswiriant gwladol (YG).

Mae YG yn bwysig oherwydd pan fyddet wedi talu digon o gyfraniadau, byddi di'n gymwys i gael rhai budd-daliadau'r wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r budd-daliadau canlynol i gyd yn dibynnu ar faint o YG yr ydwyt wedi cyfrannu:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
  • Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol
  • Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans rhieni gweddw
  • Lwfans profedigaeth
  • Taliad profedigaeth

I fod yn benodol byddi di'n talu Yswiriant Gwladol os ydwyt yn 16 oed neu'n hŷn, yn weithiwr cyflogedig sy'n ennill mwy na £153 yr wythnos neu yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw dros £5,885 y flwyddyn. Mae yna rai eithriadau, fel y byddi di'n gweld.

Bydd dy gyflogwr yn cymryd YG a'r dreth o'th gyflog cyn i ti cael dy dalu. Bydd dy slip cyflog yn dangos dy gyfraniadau.

Beth ydw i'n talu?

Bydd lefel yr yswiriant gwladol (YG) y byddi di’n ei thalu yn dibynnu ar faint yr ydwyt ti’n ei ennill, a p’un a ydwyt ti’n gyflogedig ynteu’n hunangyflogedig.

Os ydwyt yn gyflogedig, byddet yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Mae'r cyfraddau i'r rhan fwyaf o bobl yn 12% o'th enillion wythnosol rhwng £153 a £805, ac yna 2% o unrhyw enillion wythnosol dros £805.

Os ydwyt yn hunangyflogedig ac yn gwneud mwy na £5,886 o elw, byddet yn talu cyfraniadau Dosbarth 2. Ar hyn o bryd, rwyt yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfradd safonol o £2.75 yr wythnos.

Os ydwyt yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o £7956 neu fwy, byddet yn talu cyfraniadau Dosbarth 4. Ar hyn o bryd, rwyt yn talu 9% ar elw blynyddol rhwng £7,956 a £41,865 a 2% ar unrhyw elw dros hynny.

I gael gwybod beth yw’r cyfraddau YG diweddaraf, gweler wefan Cyllid a Thollau EM fan hyn.

DY rhif/cofnod Yswiriant Gwladol

Pan fyddi di'n cyrraedd 16 oed, byddi di'n derbyn rhif YG, sef dy rif cyfrif personol dy hun sy'n cofnodi dy holl gyfraniadau.

Dylet ti ond roi dy rif YG i dy gyflogwr, y Canolfan Byd Gwaith, dy gyngor lleol neu Gyllid a Thollau EM (Cyllid y Wlad).

Mae dy gofnod yn cael ei wneud mewn 'blynyddoedd cymhwyso'. Gallai unrhyw fylchau yn dy gofnod YG golygu nad oes gennyt ddigon o flynyddoedd cymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill.

Faint o flynyddoedd cymhwyso sydd ei angen arnat i gael Pensiwn y Wladwriaeth lawn? Os byddet yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl y 6ed Ebrill 2016, fel arfer mae'n 35 ar gyfer dynion neu fenywod.

Faint o flynyddoedd cymwys y mae angen i ti gael Budd-daliadau profedigaeth? Ar hyn o bryd mae'n 39 o flynyddoedd cymhwyso i fenyw a hyd at 44 ar gyfer dyn.

Gallu di ofyn am dy gofnod cyfraniadau YG fan hyn neu cysyllta â'r Llinell Gymorth YG ar 0300 200 3500 (ffôn) neu 0300 200 3519 (ffôn symudol).

Bylchau yn dy gofnod Yswiriant Gwladol

Gallai fod bylchau yn dy gofnod oherwydd dy fod yn sâl, yn ddi-waith neu'n gofalu am rywun ac yn hawlio budd-daliadau.

Mewn achosion fel hyn, efallai y byddi di'n medru cael Credydau Yswiriant Gwladol, a allai gyfrif tuag at 'blwyddyn gymwys' ac felly gallai llenwi bylchau yn dy gofnod.

Weithiau, byddi di'n cael y Credydau hyn yn awtomatig, ond ar droeon eraill bydd yn rhaid i ti wneud cais. I weld pryd mae'n bosibl y byddai'n rhaid i ti wneud cais, clicia yma.

Mae yna 2 fath o Gredydau mae'n bosibl y gallu di gael:

  • Dosbarth 1 - mae'r rhain yn cyfrif tuag at dy Bensiwn y Wladwriaeth, budd-daliadau profedigaeth a rhai budd-daliadau eraill ee Lwfans Ceisio Gwaith
  • Dosbarth 3 - mae'r rhain yn cyfrif tuag at dy Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau profedigaeth yn unig
  • Efallai medru di gael Credydau Dosbarth 1 os ydwyt yn chwilio am waith (p'un a'i a ydwyt ar Lwfans Ceisio Gwaith neu beidio); yn sâl, yn anabl neu ar dâl salwch; ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu dâl mabwysiadu; ar Lwfans Gofalwr; neu'n derbyn Credyd Treth Gwaith gyda phremiwm anabledd.

    Ceir rhai sefyllfaoedd penodol eraill, a allai dy wneud yn gymwys ar gyfer Credydau Dosbarth 1 hefyd, a gellir eu gweld fan hyn.

    Efallai medru di cael Credydau Dosbarth 3 os ydwyt yn rhiant neu'n ofalwr maeth; gofalwr ar Gymhorthdal ​​Incwm; aelod o'r teulu sy'n gofalu am blentyn o dan 12; rhywun sy'n derbyn Credyd Treth Gwaith heb bremiwm anabledd; neu rywun sy'n derbyn y Credyd Cynhwysol newydd.

    Ychwanegu at dy gofnod YG: cyfraniadau gwirfoddol

    Fodd bynnag, mae rhai achosion pan efallai na fyddi di'n cael unrhyw Gredydau o gwbl, er enghraifft, os ydwyt yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ond ar incwm isel (ar hyn o bryd yn is na £111 yr wythnos).

    Os mae hyn yn wir i ti, efallai byddi di am ychwanegu at dy YG, fel dy ffôn, gyda chyfraniadau gwirfoddol (taliadau).

    Mae rhai pobl yn teimlo nad oes angen iddynt dalu neu na fyddent yn elwa o gyfraniadau gwirfoddol oherwydd bod ganddynt ddigon o flynyddoedd ar ôl o'u blaen yn eu bywydau gwaith i wneud i fyny’r nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth lawn.

    Fodd bynnag, efallai y bydd eraill yn talu cyfraniadau gwirfoddol am eu bod yn dymuno i fod yn gymwys am fudd-daliadau profedigaeth, sy'n cymryd 39 mlynedd i fenywod neu 44 o flynyddoedd ar gyfer dynion.

    Mae rhai hefyd yn talu cyfraniadau gwirfoddol i gynyddu'r budd-daliadau profedigaeth bydd eu priod neu bartner sifil yn derbyn os byddant yn marw.

    Dyddiad cau: Fel arfer, rhaid i ti wneud lan am y bylchau yn dy gofnod YG o fewn chwe blynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth yr ydwyt yn ychwanegu ato.

    Cofia: Os ydwyt yn ystyried talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, paid ag anghofio gwirio unrhyw Gredydau rhad ac am ddim y gallu di hawlio, neu efallai dy fod di eisoes wedi eu derbyn yn awtomatig.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50