Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Arian Tra'n Gweithio » Pensiynau



Pensiynau

Math o gynllun ymddeol yw pensiwn. Fe fydd yn rhoi arian i ti fyw arno pan fyddi di’n ymddeol o dy waith.

Efallai dy fod di’n teimlo ei fod ymhell i ffwrdd, ond mae’n well dechrau cynllunio ar gyfer dy ddyfodol cyn gynted â phosib. Gall gymryd llawer o amser i gynilo digon o arian i allu byw arno’n gyfforddus pan fyddi di’n hŷn.

Gall y swm yr ydwyt yn ei gynilo nawr ddylanwadu ar ba mor hir y bydd yn rhaid i ti weithio, ac ar ansawdd dy fywyd pan fyddi di’n hŷn, felly gwna'r penderfyniad i gael pensiwn yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach.

Paid â dibynnu ar Bensiwn y Wladwriaeth i gadw ti fynd hyd at dy ymddeoliad. Mae uchafswm sylfaenol Pensiwn y Wladwriaeth sef £113.10 yr wythnos (blwyddyn dreth 2014-15) yn llawer is na'r disgwyl i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gobeithio ymddeol.

Unwaith y byddi di wedi gwneud y penderfyniad i ddechrau cynilo ar gyfer dy ymddeoliad, mae angen i ti ddewis sut i wneud hynny. Mae gan bensiynau nifer o fanteision pwysig a fydd yn gwneud i dy gynilion tyfu'n gyflymach nag efallai y byddent fel arall.

Pensiwn yn y bôn yw cynllun cynilo tymor hir gyda rhyddhad treth - mae dy gyfraniadau rheolaidd yn cael eu buddsoddi fel eu bod yn tyfu drwy gydol dy yrfa ac yna'n rhoi incwm i ti ar ôl i ti ymddeol. Yn gyffredinol, gallet ti gael mynediad i'r arian yn dy gronfa bensiwn o 55 oed.

Mae yna wahanol fathau o bensiynau a allai fod ar gael i ti:

  • Pensiwn ymddeol sylfaenol y wladwriaeth. Pensiwn cyfradd sefydlog yw hwn, a delir i unrhyw un sydd wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol, neu sydd wedi cael digon o gyfraniadau neu gredydau, pan fyddan nhw’n cyrraedd oed ymddeol y wladwriaeth
  • Cynllun pensiwn gweithle - Os oes gennyt fynediad i gynllun pensiwn yn y gweithle, yna mae'n debygol o dy roi di ar y llwybr mwyaf cyfleus i bensiynau cynilo. Mae pensiynau gweithle yn arbennig o fanteisiol os bydd dy gyflogwr yn cyfrannu at y cynllun. Os yw hynny'n wir, yna fel arfer mae ymuno â'r cynllun gweithle yn ffordd wych i ddechrau dy gynilion pensiwn. Bydd unrhyw arian y byddi di'n ei roi yn y cynllun yn cael ei ychwanegu ato ddwywaith - yn gyntaf gan dy gyflogwr ac yn ail gan y dyn treth, drwy ryddhad treth. Hyd yn oed os nad yw dy gyflogwr yn cyfrannu at eu cynllun pensiwn gweithle ar hyn o bryd yn cyfrannu (bydd cyfraniadau cyflogwyr yn raddol yn cael ei wneud yn orfodol), gall fod manteision i ymuno yn hytrach na gwneud dy drefniadau pensiwn dy hun.
  • Pensiwn personol (neu bensiwn preifat) - Gallet ti godi pensiwn personol oddi wrth gwmni pensiynau p’un a ydwyt yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Eu bwriad yw rhoi ail bensiwn i ti yn ychwanegol at bensiwn y wladwriaeth neu bensiwn gweithle. Mae tri math o bensiwn personol:
    • 1.Pensiynau Personol Safonol, lle'r ydwyt yn gwneud taliadau misol rheolaidd i mewn i gynllun sydd fel arfer ganddynt ystod eang o strategaethau buddsoddi a ddewiswyd i weddu anghenion gwahanol ac agweddau at risg
    • 2. Pensiwn cyfranddeiliaid - sydd yn fath o bensiwn personol gydag isafswm cyfraniadau isel a hyblyg, taliadau capio a strategaeth fuddsoddi rhagosodedig os nad ydwyt am ormod o ddewis
    • 3. SIPP (Pensiynau Buddsoddi Personol) sy'n tueddu i fod yn addas ar gyfer cyfraniadau mwy o faint. Maent yn rhoi mesur helaeth o reolaeth dros y ffordd y caiff dy gronfa bensiwn ei buddsoddi, ond mae hyn yn dod â risgiau ychwanegol os nad ydwyt yn fuddsoddwr profiadol

Mae penderfynu sut yr ydwyt yn mynd i gynilo ar gyfer dy bensiwn yn un o’r penderfyniadau ariannol pwysicaf y byddi di’n ei wneud erioed, felly gwna'n siŵr dy fod yn cael cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad terfynol, ac ymchwilia'r opsiynau er mwyn cael y fargen orau.

Cofrestriad Awtomatig

O dan gyfraith a gyflwynwyd yn 2012, mae'n rhaid i bob cyflogwr gynnig cynllun pensiwn yn y gweithle a chofrestru gweithwyr cymwys ynddo yn awtomatig. Mae'r gofyniad hwn wedi bod yn berthnasol i gyflogwyr mwy ers mis Hydref 2012 ac erbyn 2018 bydd yn berthnasol i bob cyflogwr.

Hyd yn hyn, mae wedi bod i fyny i weithwyr os ydynt yn penderfynu a ydynt am ymuno â chynllun pensiwn eu cyflogwr ai peidio. Ond erbyn 2018, bydd pob cyflogwr wedi cofrestru eu gweithwyr cymwys yn awtomatig i mewn i gynllun pensiwn gweithle oni bai bod y gweithiwr yn dewis eithrio. O ganlyniad, bydd gall llawer mwy o bobl cadw eu cynilion i helpu i dalu am eu hanghenion ymddeol.

P'un a ydwyt yn gweithio amser llawn neu ran amser, bydd yn rhaid i'th gyflogwr dy gofrestru mewn i gynllun pensiwn gweithle os:

  • nad ydwyt mewn cynllun pensiwn gweithle addas yn barod
  • ydwyt o leiaf 22 mlwydd oed, ond o dan oedran pensiwn y Wladwriaeth
  • ydwyt yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (blwyddyn dreth 2014-15), ac yn
  • gweithio yn y DU

Cyn belled ag y byddi di'n bodloni'r meini prawf hyn, byddi di hefyd yn cael dy gynnwys os ydwyt ar gontract tymor byr, neu mae asiantaeth yn talu dy gyflog, neu os ydwyt i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb gofalwyr.

Gallet ddewis peidio ymuno a chynllun pensiwn gweithle dy gyflogwr ar ôl i ti cael dy gofrestru. Ond os fyddi di'n gwneud hynny, byddi di'n colli allan ar gyfraniad dy gyflogwr i dy bensiwn, yn ogystal â chyfraniad y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth. Bydd unrhyw daliadau yr ydwyt wedi gwneud yn aros yn dy gronfa bensiwn ar gyfer ymddeoliad yn hytrach na chael ei dalu'n ôl atat.

Cyfanswm y cyfraniad lleiaf ar hyn o bryd ydy 2% o'th enillion (0.8% oddi wrthyt ti, 1% gan dy gyflogwr, a 0.2% fel gostyngiad treth). O fis Hydref 2017, bydd yn cynyddu fel a ganlyn:

  • Hydref 2017 i Fedi 2018: 5% o'th enillion (2.4% oddi wrthyt ti, 2% gan dy gyflogwr, a 0.6% fel gostyngiad yn y dreth)
  • O fis Hydref 2018 ymlaen: 8% o'th enillion (4% oddi wrthyt ti, 3% oddi wrth dy gyflogwr, a 1% fel gostyngiad yn y dreth)

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol adran ardderchog ar bensiynau yn cynnwys:

Gallu di gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallu di gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffonia (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50