Gwybodaeth » Arian » Arian Tra'n Gweithio » Treth
Yn yr Adran Hon
Treth
Mae treth yn ffi orfodol y mae’n rhaid i ti ei thalu i’r llywodraeth i helpu i gyllido’r wlad.
Mae yna lawer o wahanol fathau o drethi
Treth Incwm
Pan fyddi di’n dechrau gweithio, mae’n bosib y bydd treth i’w thalu ar dy incwm. Treth Incwm yw’r enw ar hyn.
Bydd pob gweithiwr a phobl hunangyflogedig sy’n ennill dros swm penodol y flwyddyn yn ei thalu.
Dy dreth incwm yw ffynhonnell incwm mwyaf y Llywodraeth. Maent yn ei ddefnyddio i dalu am bethau fel y GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol), budd-daliadau, addysg, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac amddiffyn.
Nid oes lleiafswm oed ar gyfer treth incwm.
Nid oes yn rhaid talu treth incwm ar rai mathau o incwm, fel budd-dal plant neu fudd-dal tai. Maent wedi'u heithrio.
Treth Incwm: Lwfans Personol
Os cefais dy eni ar ôl y 5ed o Ebrill 1948 ac yn ennill llai na £100,000, ni fydd y £10,000 cyntaf o dy incwm yn cael ei drethu. Gelwir hyn yn dy 'lwfans personol' di.
Os ydwyt yn hunangyflogedig neu os oes gennyt incwm ond ddim yn gweithio, bydd dy lwfans personol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth i Gyllid y Wlad asesu dy rhwymedigaeth treth bob blwyddyn (rwyt ti'n anfon datganiad elw atynt, ac maen nhw'n anfon y bil atat ti).
Os ydwyt yn weithiwr cyflogedig, byddi di’n cael dy drethu dan system Talu Wrth Ennill (TWE) trwy dy gyflog i.e byddi di'n talu treth bob wythnos neu bob mis allan o dy gyflog a bydd dy lwfans personol yn cael ei ymestyn dros flwyddyn.
Mae hyn yn golygu bob wythnos neu bob mis bydd dal i fod gennyt rhywfaint o incwm dreth ar ôl i'r dreth gael ei didynnu.
Treth Incwm: Cyfraddau
Dy lwfans personol yw £10,000 cyntaf (blynyddol) yr hyn a elwir yn dy 'incwm trethadwy' er na ellir ei drethu! Mae hyn yn golygu bod yr union swm yr wyt yn cael ei drethu yn is na dy 'incwm trethadwy'.
Er enghraifft, os yw dy incwm trethadwy yn £35,000 byddet ond yn cael dy drethu a£25,000 ohono. Gelwir y swm hwn yn 'incwm trethadwy sy'n uwch na dy lwfans personol'.
Bydd y faint o incwm treth y byddi di'n talu yn dibynnu ar dy incwm trethadwy sy'n uwch na dy lwfans personol. Ar hyn o bryd, os yw'n is na £31,866, byddi di'n talu'r 20% 'gyfradd sylfaenol' o dreth. Felly, os yw dy incwm trethadwy yn £35,000, byddi di'n talu 20% ar £25,000 (£35,000 heb y £10,000).
Ar hyn o bryd, os yw dy incwm trethadwy yn uwch na dy lwfans personol rhwng £31,866 a £150,000, byddi di'n talu'r 'gyfradd uwch' o dreth, 40%.
Ar hyn o bryd, me unrhyw un sydd ag incwm trethadwy uwch eu lwfans personol sy'n fwy na £50,000 yn talu'r 'gyfradd ychwanegol' o dreth, 45%.
Hefyd, mae pawb yn talu treth o 20% ar eu llog cynilion yn awtomatig.
Mae'r cyfraddau yn cael eu cyhoeddi yn y Gyllideb bob blwyddyn. Gallu di edrych ar y cyfraddau diweddaraf yma.
Treth Incwm: A Ddylwn i fod yn talu?
I gyfrifo a ddylet fod yn talu Treth Incwm, yn syml cyfrifa dy holl incwm trethadwy a thynnu i ffwrdd dy lwfansau di dreth, gan gynnwys dy lwfans personol (uchod).
Os oes gennyt unrhyw beth ar ôl, dylet ti fod yn talu treth! Os ddylet ti fod yn talu treth, ond dwyt ti ddim, rhaid i ti gysylltu â'r llinell gymorth Treth Incwm.
Os and oes unrhyw beth gennyt ar ôl, dylet ti ddim fod yn talu treth ac efallai y bydd angen ad daliad arnat ti! Mae'r manylion pwysig fan hyn.
I gael gwybod os ydwyt yn talu'r swm cywir o dreth incwm, defnyddia'r gwiriwr treth ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Nodyn: Mae rhai budd-daliadau yn cael eu cyfrif fel incwm trethadwy, felly sicrha dy fod yn ei gynnwys yn dy symiau! Mae'r rhain yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gofalwr a lwfans yn seiliedig ar gyfraniadau Cyflogaeth a Chymorth. Mae'r rhestr lawn yma.
Eto, ni fyddi di o reidrwydd yn talu treth ar yr incwm hwn - *byddi di ond yn talu os yw cyfanswm dy incwm trethadwy mwy na chyfanswm dy lwfansau.
Gostyngiad yn y Dreth
Os ydwyt yn drethdalwr ac yn gwario arian ar rai pethau penodol, fel treuliau cyflogaeth penodol neu talu i mewn i gynllun pensiwn, gellir didynnu’r swm yr ydwyt yn gwario o gyfanswm dy incwm trethadwy, mae hyn yn golygu byddi di’n talu llai o dreth.
Mae yna wahanol fathau o ostyngiadau yn y dreth i weithwyr a phobl hunangyflogedig, felly gwiria gyda'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i weld beth sy'n gymwys.
Os ydwyt yn meddwl nad wyt yn talu’r swm treth gywir, neu os oes gennyt ti gwestiwn am dreth incwm, cysyllta â dy swyddfa Cyllid y Wlad leol neu siarada ag adran cyllid dy gwmni.
Treth Cyngor
Mae'r dreth gyngor yn dreth a godir gan dy lywodraeth lleol i ran-ariannu'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
Mae'r faint y byddi di'n ei dalu yn dibynnu ar werth yr eiddo yr ydwyt yn rhentu neu'n berchen. Mae'r gwerth hwn yn dibynnu ar faint dy dŷ a'i lleoliad.
Byddet yn cael dy rhoi mewn gwahanol fandiau (lefelau) yn seiliedig ar y werth yma. Mae gwahanol gynghorau yn codi symiau gwahanol ar gyfer pob band.
Mae bil Treth Cyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf 2 oedolyn (dros 18 oed) sy'n byw mewn cartref, felly byddi di'n cael 25% oddi ar dy bil os ydwyt yn oedolyn sy'n byw ar dy ben dy hun.
Mae yna lawer o ostyngiadau ac eithriadau eraill. Er enghraifft, nid yw pobl ifanc o dan 25 oed sy'n derbyn arian gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau neu Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc yn cyfrif fel oedolyn ar gyfer Treth y Cyngor.
Hefyd, nid oes rhaid i gartrefi lle mae pawb yn fyfyriwr llawn-amser i dalu Treth Cyngor o gwbl. Os oes gan y cartref rhywun sydd ddim yn fyfyriwr llawn-amser, bydd yn derbyn bil Treth Cyngor am bris gostyngol.
Gallet weld y rhestr lawn o eithriadau Treth y Cyngor yma.
Os ydwyt ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau, gallu di wneud cais i dy gyngor i gael gostyngiad yn dy bil Treth Gyngor. Gallet wneud cais yma.
Fel arfer, byddet yn talu biliau treth gyngor bob 10 mis, ond gallu di ddewis i ledaenu dy daliadau dros 12 mis, os bydd hynny yn ei gwneud yn haws i dalu dy bil. Mae'n rhaid i ti gysylltu â'th cyngor lleol i drefnu hyn - gallet ddod o hyd i dy gyngor fan hyn.