Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Arian Tra'n Gweithio » Tl Salwch



Tal Salwch

Byddi di’n derbyn tâl salwch statudol (TSS) oddi wrth dy gyflogwr am hyd at 28 wythnos os byddi di i ffwrdd o’r gwaith yn sâl ac yn 16 oed neu’n hŷn.

  • Mae’n rhaid i ti allu profi na allet ti weithio oherwydd dy fod di’n rhy sâl neu’n anabl. Trafoda'r hyn y mae angen i ti ei wneud gyda dy gyflogwr
  • Nid oes yn rhaid i’r 28 wythnos yr ydwyt ti i ffwrdd yn sâl fod yn olynol. Er enghraifft, os ydwyt i ffwrdd yn sâl gyda bylchau o wyth wythnos neu lai, bydd dy ddiwrnodau i ffwrdd yn sâl yn cael eu hadio at ei gilydd i gyfrif tuag at yr 28 wythnos. Os ydwyt ti i ffwrdd yn sâl mwy nag unwaith gyda mwy nag wyth wythnos rhyngddyn nhw, ni fydd y cyfnodau roeddet ti i ffwrdd yn sâl yn cael eu hadio at ei gilydd, a dechreuir cyfrif yr 28 wythnos eto bob tro
  • I fod yn gymwys i gael TSS, mae’n rhaid i ti ennill cymaint bob wythnos â therfyn enillion isaf yswiriant gwladol (Gweler adran Yswiriant Gwladol)
  • Os ydwyt yn hunangyflogedig, nid oes gennyt ti hawl i TSS
  • Ni allet ti gael TSS os ydwyt yn cael lwfans mamolaeth neu dâl mamolaeth statudol
  • Ni fyddi di’n cael TSS am y tri diwrnod cyntaf yr ydwyt fethu â gweithio
  • Mae TSS wedi’i osod ar gyfradd sefydlog. Gweler TSS wedi'i osod ar gyfradd sefydlog. Edrychwch ar wefan Llywodraeth y DU ar gyfer yr hyn y byddet yn ei gael
  • Os ydwyt i ffwrdd o dy waith am fwy na 28 wythnos, mae’n bosib y gallet ti hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Os nad ydwyt yn gallu cael Tâl Salwch Statudol

    Os nad ydwyt yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol, rhaid i'th cyflogwr roi ffurflen SSP1 o fewn 7 diwrnod ar ôl dy salwch. Gallet ddefnyddio hwn i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn lle hynny.

    Mae gwahanol reolau tâl salwch ar gyfer gweithwyr amaethyddol.

    Os nad ydwyt yn siŵr os oes gennyt ti hawl i TSS ai peidio, siarada â dy gyflogwr neu â'r cynghorwyr yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

    Gallet gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun - Gwener 8am - 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

    Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50