Gwybodaeth » Arian » Arian Poced » Gwario Arian Poced
Yn yr Adran Hon
Gwario Dy Arian Poced
Ti sy’n berchen ar dy arian poced, felly mae hi i fyny i ti ar beth yr ydwyt yn ei wario. Bydd rhai pobl yn gwneud i’w harian poced bara dros yr wythnos neu’r mis, gan brynu pethau bach fel melysion a chylchgronau bob dydd. Mae’n well gan bobl eraill ddefnyddio’u harian poced i brynu rhywbeth mwy mewn un tro, fel CD neu ddillad.
Sut bynnag y byddi di’n penderfynu gwario dy arian, efallai y byddet am feddwl i’r dyfodol yn gyntaf. Bydd disgwyl i lawer o bobl ifanc ddefnyddio’u harian poced i brynu anrhegion Nadolig neu Ben-blwydd i’w ffrindiau a’u teulu, felly fe fyddi di am wneud yn siŵr bod gennyt ti ddigon o arian pan ddaw’r amser i wneud hynny.
Efallai bydd dy rieni neu dy ofalwr yn disgwyl i ti dalu am bethau eraill â dy arian dy hun hefyd, fel biliau dy ffôn symudol, talebau i gael mwy o gredyd galwadau, tocynnau i’r sinema neu i gyngerdd, felly mae angen i ti gyllidebu dy arian i wneud yn siŵr dy fod di'n gallu eu fforddio.
Os nad ydwyt yn siŵr beth y mae disgwyl i ti dalu amdano, eistedda i lawr â dy rieni neu dy ofalwr a thrafod y pethau y maen nhw am i ti dalu amdanyn nhw, a gwneud rhestr o’r rhain fel nad ydwyt yn eu hanghofio.
Bydd dy rieni neu dy ofalwr yn rhoi arian poced i ti oherwydd eu bod nhw’n ymddiried ynot ti i ofalu am dy arian dy hun, ac maen nhw’n meddwl y gallet ti fod yn gyfrifol am dy gyllid dy hun, felly gwna'n siŵr dy fod yn dangos iddyn nhw y gallan nhw ymddiried ynot ti trwy ei wario yn ddoeth!