Gwybodaeth » Arian » Arian Poced » Arian gan Rieni a Gofalwyr
Yn yr Adran Hon
Arian oddi wrth Rieni a Gofalwyr
Bydd rhai rhieni a gofalwyr yn dewis rhoi arian poced i’w plant er mwyn iddyn nhw brynu eu pethau eu hunain.
Mae swm yr arian poced y byddi di’n ei gael yn dibynnu ar faint y mae dy rieni neu dy ofalwyr yn penderfynu y dylet ti ei gael. Fe allai hefyd ddibynnu ar faint y maen nhw’n credu yr ydwyt yn haeddu ei gael. Er enghraifft, mae’n bosibl y gallet ti gael llai am beidio â gwneud tasgau neu am ymddwyn yn ddrwg, ac fe allet ti ennill mwy trwy fod yn dda iawn.
Fe fydd rhai pobl ifanc yn cael arian poced am wneud pethau dros eu rhieni neu eu gofalwyr, fel glanhau eu hystafelloedd, golchi’r llestri, clirio’r ardd neu wneud tasgau fel casglu pethau o’r siop.
Fe allet ti hefyd gael arian poced oddi wrth berthnasau fel modryb neu ewythr neu dy nain neu dy daid.
Mae yna rai pobl ifanc sy'n cael dim arian poced oddi wrth eu rhieni neu eu gofalwyr, ac mae hyn hefyd yn arferol. Nid hawl yw derbyn arian poced, ond braint.