Addysg a Gwaith
Rydym am i Fwrdeistref Sirol Wrecsam fod ag economi sy'n hydwyth i amseroedd caled. Rhywle sy'n rhoi cyfle teg i bawb wireddu eu potensial. Rydym am ofalu am y tir a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n gywir. Adeiladu'r pethau cywir yn y mannau cywir. Byddwn yn parhau i wirioni ar dechnoleg. Gwnawn ei ddefnyddio i wneud Wrecsam yn rhywle lle gall pobl gael y wybodaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen, a pryd byddant eu hangen. A beth am y newid yn yr hinsawdd? Mae'n mynd i newid ein bywydau heb os nac oni bai. Rydym am i Wrecsam fod yn rhywle lle mae busnesau a chymunedau yn gwybod sut i addasu. Peth eithaf da yw hyn i anelu ato hefyd.
Yn yr adran hon byddwch yn gallu dod o hyd i ddolenni i wasanaethau lleol a fydd yn gallu eich cynorthwyo drwy addysg, i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith a darparu gwybodaeth i unigolion a theuluoedd i ennill cymwysterau a gwaith neu'r ddau.