Addewid CBSW i Bobl Ifanc
Addewid Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Wrecsam (2006 - 2016)
Bydd Wrecsam yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc yn cael pob cyfle i gyrraedd eu llawn allu, mewn amgylchedd dwyieithog, sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi pob traddodiad a diwylliant.
Er mwyn i blant a phobl ifanc allu cyflawni eu llawn allu, rydym yn bwriadu gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu’r gwasanaethau, diogelwch, cynhaliaeth a chefnogaeth y mae plant a phobl ifanc eu hangen i ddod yn unigolion hyderus a galluog.
Rydym yn addo y bydd ein gwasanaeth yn galluogi i holl blant a phobl ifanc wneud y canlynol:
- Dysgu a Chyflawni
- Bod yn Ddiogel rhag Niwed
- Bod yn Iach a Bywiog
- Mwynhau, Cyfranogi a chael eu Gwerthfawrogi
Isod, rydym yn disgrifio’r hyn a geisiwn ei gyflawni dros y 10 mlynedd nesaf a pha wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i blant a phobl ifanc pan fyddwn yn cyflawni’r nodau hyn. Byddwn yn datblygu ffyrdd o weld a ydym yn gwneud gwahaniaeth. Bob blwyddyn byddwn yn pennu targedau i ni ein hunain ac y disgrifio pa gamau a gymrwn i gyflawni’r nodau.
Rydym yn derbyn nad yw plant a phobl ifanc i gyd yr un fath a bod rhai angen cymorth ychwanegol er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn allu. Bydd eraill angen cymorth ychwanegol er mwyn iddynt allu cyfranogi’n llawn, manteisio ar bob cyfle a delio â chymhlethdodau’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi.
Dysgu a Chyflawni
Byddwn yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu a chyflawni.
Gyda’n gilydd byddwn...
- Yn chwalu rhwystrau i ddysgu a chyflawni
- Yn cefnogi holl blant a phobl ifanc i gael profiad o lwyddiant a hunan-barch
- Annog teuluoedd a chymunedau i fod yn rhan o addysg a chyflawniad plant a phobl ifanc
Y gwahaniaeth a wnaiff i blant a phobl ifanc yw...
1. Llai o blant a phobl ifanc i fod o’r ysgol pan ddylent fod yno
2. Llai o blant a phobl ifanc yn cael eu gwahardd o’r ysgol
3. Plant a phobl ifanc teimlo eu bod yn cael cyfleoedd i ddysgu, hyd yn oed os na allant fod yn yr ysgol
4. Plant a phobl ifanc yn teimlo bod cyfleoedd diddorol a pherthnasol iddynt ddysgu tu allan i oriau ysgol
5. Plant a phobl ifanc yn teimlo bod eu hamgylchedd dysgu (e.e. adeiladau), yn cefnogi eu cyfleoedd dysgu
6. Mwy o blant a phobl ifanc yn cael gwell cymwysterau yn eu dewis o bynciau
7. Mwy o blant a phobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil
8. Plant a phobl ifanc yn teimlo bod eu llwyddiannau’n cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu
9. Mwy o rieni a gofalwyr yn mynd ati i gefnogi pob cyfnod o addysg eu plant, o’r cyfnod cyn ysgol i addysg bellach
Bod yn Ddiogel rhag Niwed
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gynorthwyo cadw holl blant a phobl ifanc yn ddiogel a’u gwarchod rhag niwed
Gyda’n gilydd byddwn...
- Yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth, esgeulustod, anffafriaeth a chamfanteisio
- Yn annog teuluoedd a chymunedau i fod yn rhan o gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel
- Yn galluogi i blant a phobl ifanc ddatblygu strategaethau i gadw eu hunain yn ddiogel
Y gwahaniaeth a wnaiff i blant a phobl ifanc yw...
10. Llai o fwlio’n cael ei hysbysu (trwy ysgolion)
11. Plant a phobl ifanc yn teimlo eu hunain yn ddiogel
12. Plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel ar gludiant cyhoeddus
13. Plant a phobl ifanc yn teimlo y gallant siarad â rhywun (un o’u cyfoedion neu oedolyn) ynghylch unrhyw broblemau sydd ganddynt
14. Holl gyfeirebau am gefnogaeth yn cael eu trin yn briodol o fewn amserau penodol
15. Bod ailgyfeirebau amddiffyn plant o fewn amrediad awdurdodau Cymru ar gyfartaledd
16. Bod gan holl blant a phobl ifanc sy’n cael eu cynnal (gan gynnwys y rhai sy’n derbyn gofal neu ar y gofrestr amddiffyn plant) gynllun clir sy’n cael ei weithredu, ei arolygu a’i adolygu
17. Plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau
18. Llai o blant a phobl ifanc yn dioddef trosedd
19. Llai o blant a phobl ifanc mewn achosion troseddol
Bod yn Iach a Bywiog
Byddwn yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc yn cael cyfle i fod yn iach a bywiog
Gyda’n gilydd byddwn...
- Yn cefnogi holl blant a phobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol ac iach
- Yn annog a galluogi plant a phobl ifanc i fod yn egnïol
- Yn cyfrannu at godi plant a phobl ifanc allan o dlodi teuluol
Y gwahaniaeth a wnaiff i blant a phobl ifanc yw...
20. Plant a phobl ifanc yn teimlo fod ganddynt hunan-barch
21. Plant a phobl ifanc yn gallu mynd i glinig iechyd rhywiol / siop wybodaeth
22. Llai o blant a phobl ifanc yn ysmygu, yn camddefnyddio cyffuriau ac yn yfed alcohol
23. Mwy o blant a phobl ifanc yn bwyta prydau ysgol mwy maethol
24. Plant a phobl ifanc yn teimlo’n dda ynghylch y mannau lle gallant chwarae ac yn defnyddio’r llefydd hynny
25. Mwy o blant a phobl ifanc yn cerdded a beicio i’r ysgol
26. Lleihau gordewdra plant a phobl ifanc
27. Mwy o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon
28. Rhieni a gofalwyr yn cael mwy o gyfleoedd i gael neu wella sgiliau sylfaenol
29. Gofal plant priodol a fforddiadwy ar gael
30. Mwy o hawliau lles ar gael
31. Mwy o rieni’n manteisio ar gredyd treth gwaith a budd-dal tai
32. Mwy o bobl yn derbyn cyngor a chyfleoedd mynd yn ôl i weithio trwy Ganolfannau Plant / Canolfannau Teulu Cyfun
Mwynhau, Cyfranogi a Chael Eich Gwerthfawrogi
Byddwn yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i fwynhau eu hunain, cyfranogi’n weithredol a mynegi eu barn a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Gyda’n gilydd byddwn...
- Yn cydnabod fod llais gan holl blant a phobl ifanc, a galluogi iddynt ei ddefnyddio’n effeithiol
- Yn cefnogi plant a phobl ifanc i roi a derbyn parch
- Yn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu a thyfu trwy gyfranogi mewn gweithgareddau ysgogol
Y gwahaniaeth a wnaiff i blant a phobl ifanc yw...
33. Holl blant yn teimlo y gallant fynegi eu barn a dylanwadu ar y materion hynny sy’n effeithio ar eu bywydau
34. Holl blant a phobl ifanc yn teimlo y gallant siarad â rhywun ynghylch eu problemau
35. Plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed
36. Plant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn teimlo’n hapus
37. Plant a phobl ifanc yn teimlo bod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu
38. Llai o enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol
39. Mwy o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant
40. Cyfleoedd hamdden, mewn chwaraeon a diwylliannol o safon o fewn cyrraedd plant a phobl ifanc yn lleol
Sut fyddwn yn cyflawni ADDEWID WRECSAM
Byddwn yn datblygu ffyrdd o gadarnhau pa wahaniaeth a wnaethom i fywydau plant a phobl ifanc.
Bob blwyddyn byddwn yn pennu targedau fel y gallwn arolygu’r gwahaniaeth a wnawn i fywydau plant a phobl ifanc.
ob blwyddyn byddwn yn nodi pa gamau rydym yn mynd i’w cymryd i weithio tuag at wireddu’r nodau yn yr addewid hon i blant a phobl ifanc.