Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Cyllidebu » Tymor Hir a Thymor Byr



Tymor Hir a Thymor Byr

Pan fyddi di'n cyllidebu dy arian, efallai y byddi di am feddwl yn y tymor byr yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, neu yn y tymor hir, efallai yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae hyn yn dy helpu i gynllunio dy sefyllfa ariannol a pharatoi ar gyfer dy ddyfodol, yn ogystal â dy gostau bob dydd.

Cyllidebu Tymor Hir: Gall cyllidebu tymor hir dy helpu i gynilo ar gyfer eitem arbennig, fel consol cyfrifiadur, gwyliau neu ffôn symudol. Mae hefyd yn ffordd dda i baratoi ar gyfer buddsoddiadau mawr fel morgais neu gar. Mae'n gwneud yn siŵr y gallu di wneud cynlluniau ariannol ar gyfer y dyfodol.

Sut: I gyllidebu yn iawn yn y tymor hir, mae angen i ti edrych ar faint yr wyt am gynilo bob wythnos neu bob mis ac am ba hyd, hyd nes y gallu di fforddio'r hyn yr wyt ti eisiau. Bydda'n realistig pan fyddi di'n yn cyllidebu - rwyt ti ond yn twyllo dy hun fel arall!

Cyllidebu Tymor Byr: Mae cyllidebu tymor byr yr un mor bwysig â chyllidebu yn y tymor hir. Gall cyllidebu tymor byr dy helpu i dalu am gostau bob dydd, fel bwyd, costau cludiant neu filiau, yn ogystal â helpu i brynu pethau bach fel anrhegion pen-blwydd neu CDs.

Mae cyllidebu yn y tymor hir a thymor byr yn golygu edrych ar dy incwm a dy wariant a bod yn realistig am yr hyn y gallu di fforddio. Cofia, os oes costau sydd ddim yn digwydd bob mis, fel torri gwallt neu Nadolig, ceisia lledaenu cost y rhain dros y flwyddyn gyfan felly bydd swm bach yn ymddangos ar eu cyfer bob mis yn lle.

Nodau Cynilion

Mae rhai pobl yn ei chael yn anodd cael y cymhelliant i gynilo, ond mae'n aml yn llawer haws os ydwyt yn gosod nod. Drwy wneud hyn, yn hytrach na meddwl am yr arian yr wyt yn gosod o'r neilltu bob mis, gallu di ganolbwyntio ar beth allu di wneud unwaith byddi di wedi cyrraedd dy nod.

Dy gam cyntaf yw cael rhywfaint o gynilion brys - arian i ddisgyn yn ôl arno os oes gennyt argyfwng, fel y boeler gwresogi yn torri lawr neu os nad allu di weithio am gyfnod. Ceisia gael gwerth tri mis o dreuliau mewn cyfrif mynediad hawdd neu dim rhybudd. Paid â phoeni os nad ydwyt yn gallu cynilo hyn ar unwaith, ond cadwa fel targed i anelu amdano.

Unwaith y byddi di wedi gosod dy gronfa argyfwng o'r neilltu, efallai y bydd nodau cynilion posibl i'w hystyried yn cynnwys:

  • Mynd ar wyliau heb orfod poeni am y biliau pan fyddi di'n cyrraedd nôl
  • Mynd i'r brifysgol heb orfod cymryd allan benthyciad myfyriwr mawr
  • Cael rhywfaint o arian ychwanegol wedi neilltuo tra byddi di ar absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth, neu
  • Prynu car heb gymryd benthyciad

Os wyt ti eisiau mwy o help yn cyllidebu, ceisia siarad â dy rhieni, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50