Ysbrydoli Cenhedlaeth
Ysbrydoli Cenhedlaeth. Dyna oedd amcan Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni. Gan i’r gemau bellach ddod i ben ac i’r medalau gael eu hennill, mae’n amser creu etifeddiaeth barhaol. Yng Nghymru dechreuodd y gwaith yr wythnos diwethaf wrth i drydedd Cynhadledd Llysgenhadon Ifanc gael ei chynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Cymru.
Daeth wyth deg o bobl o ledled Cymru ynghyd i ddysgu sut y gallant wneud gwahaniaeth yn eu hawdurdodau lleol a llwyddo yn uchelgais Chwaraeon Cymru sef cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes. Mae gan y bobl ifanc hyn a ddewiswyd i fod yn Llysgenhadon Aur y cyfrifoldeb o fod yn esiampl gadarnhaol er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Maent yn ymuno a thros fil o lysgenhadon efydd ac arian ledled Cymru sy’n frwdfrydig dros greu etifeddiaeth barhaol yng Nghymru.
Yn bresennol yn y gynhadledd roedd Alex Danson a enillodd fedal efydd a Mel Clarke a enillodd fedal arian paralympaidd. Roedd Rhys Jones paraolympiad a fu’n Llysgennad Ifanc ei hun hefyd yn bresennol. Eu gwaith yn ystod y dydd oed mentora Llysgenhadon Ifanc, a’u dysgu am y sgiliau y byddant eu hangen a pha sgiliau y gallant ddatblygu. Bu cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r athletwyr a chlywed am eu profiadau yn ystod yr haf.
Gadwodd pawb y gynhadledd yn teimlo’n llwyr ysbrydoledig ac yn barod am y flwyddyn brysur sydd i ddod.
Os hoffech gael gwybod y diweddaraf am yr hyn mae Llysgenhadon Ifanc yn ei wneud yng Nghymru yna dilynwch @YACymru ar twitter https://twitter.com/YACymru