Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyflwyno Erthyglau - Cwestiynau Cyffredin

CANLLAW ARDDULL

Noder: Cyn darllen hwn, noda y bwriedir i’r canllaw fod yn declyn cyfeirio ac ni ddylai rhwystro ti rhag cyfrannu. Mae yma os dymuna wella dy ysgrifennu, ond cofia y bydd ein tîm o olygyddion yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith hwn i ti.

Bydd y canllaw hwn yn dy helpu i ysgrifennu a llwytho erthyglau i unrhyw rai o wefannau CLIC. Mae’n ymdrin â phethau fel cyfrif geiriau, atalnodi, copïo a gludo, athrod, cyfieithu, llwytho delweddau a fideos, hawlfraint a chynllun. Rydym wedi cadw’r canllaw yn syml, ond os dymuna wybodaeth fanylach ynglŷn â llwytho erthyglau a CLIC yn gyffredinol, gall ddarllen y rhain yn Cwestiynau Cyffredin, Amodau a Thelerau a Polisi Defnydd Derbyniol.

Os oes unrhyw beth ti’n credu y dylid ei ychwanegu at y canllaw hwn, neu os oes unrhyw ran ohono nad wyt ti’n ei ddeall, cofia e-bostio’r Golygydd Cenedlaethol: ryan@promo-cymru.org, neu galwa’r swyddfa ar 029 2046 2222.

  1. Beth yw canllaw arddull?
  2. Beth alla’ i ei lwytho i’r wefan?
  3. Sut rydw i’n llwytho i’r wefan?
  4. Safoni
  5. Newyddion
  6. Addas i fod yn newyddion
  7. Ymchwil
  8. Newyddion Nodwedd
  9. Teitl newyddion
  10. Ysgrifennu’r erthygl
  11. Dy bersonoliaeth
  12. Notepad
  13. Rhegi
  14. Cyffuriau, alcohol, tybaco, trais, porn, hapchwarae ac ati
  15. Deunydd tramgwyddus
  16. Barn grefyddol
  17. Nifer y geiriau
  18. Sillafu ac atalnodi
  19. Cynllun
  20. Copïo a gludo
  21. Ebychnodau
  22. Rhoi geiriau mewn prif lythrennau
  23. Ystrydebau
  24. Ailadrodd
  25. Athrod
  26. Teitlau ffilmiau, llyfrau, swyddi ac ati
  27. Pwyntiau bwled
  28. Adolygiadau
  29. Dolennau
  30. Cyfieithu
  31. Sylwadau
  32. Meintiau delweddau
  33. Newid meintiau delweddau
  34. Hawlfraint
  35. Sylwadau Creadigol
  36. Cydnabod ffotograffwyr ac artistiaid
  37. Llwytho fideo
  38. Gwybodaeth ddefnyddiol

1.Beth yw canllaw arddull?

Mae gan bapurau newydd, cylchgronau a gwefannau eu strwythur ysgrifennu eu hunain, y cyfeirir ato fel y canllaw arddull. Mae’n bwysig fod y modd y mae pethau yn cael eu hysgrifennu yn gyson â’r hyn sy’n gwneud i’r cyhoeddiad neu’r wefan edrych yn broffesiynol.

2.Beth alla’ i ei lwytho i’r wefan?

Unrhyw beth o gwbl. Mae’r gwefannau hyn yn llwyfan i ti fynegi dy hun yn emosiynol ac yn greadigol. Os oes rhywbeth yn dy flino yn dy ardal, dyweda wrth bawb amdano. Os wyt ti wedi ysgrifennu cerdd am falwod, rhanna honno hefyd.

3.Sut rydw i’n llwytho i’r wefan?

  1. Ar y safle cenedlaethol, ceir tab Cyflwyno Newyddion ar y dudalen gartref.
  2. Neu pan wyt ti wedi mewngofnodi, clicia ar y blwch pinc gyda dy enw defnyddiwr ar frig y dudalen gartref, yna yn Fy CLIC clicia ar Cyflwyno Newyddion
  3. Neu ar y dudalen Newyddion, mae blwch o’r enw Cymera Ran lle ceir dolen Cyflwyno Newyddion

Bydd y rhain i gyd yn mynd â thi i’r dudalen Cyflwyno Newyddion sydd â blychau testun a thicio hawdd eu defnyddio.

4.Safoni

Nid oes unrhyw beth sy’n cael ei lwytho i’r gwefannau yn mynd yn fyw nes bydd wedi ei wirio a’i olygu gan y golygydd rhanbarthol neu’r is-olygyddion. Lle bo hynny’n bosibl byddwn bob amser yn rhoi erthyglau yn fyw, ond weithiau byddwn yn cysylltu â thi os oes rhywbeth yn anaddas neu yn aneglur.

5.Newyddion

Mae newyddion ar gael ym mhobman ac mae’n haws nag erioed i’w ddilyn yn oes y ffonau smart, negeseuon testun, diweddariadau Twitter a Facebook. Os hoffet ysgrifennu erthygl newyddion, meddylia am dy gynulleidfa darged o rai 11 i 25 oed yn dy ardal leol ac ar draws Cymru.

6.Addas i fod yn newyddion

Pam fyddai rhywun eisiau darllen dy erthygl? A yw’n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth? A yw’n trafod pwnc ac yn datgelu pethau nad yw mwyafrif y bobl yn ei wybod? A fyddet ti’n ei darllen dy hun? Mae’r rhain i gyd yn bethau sy’n werth eu gwybod cyn dechrau.

7.Ymchwil

Oni bai mai ti yw’r person mwyaf profiadol yn y byd ar y pwnc rwyt ti’n ysgrifennu amdano, bydd angen i ti gael rhywfaint o wybodaeth gefndir. Gofala fod dy ffeithiau a dy ffigurau yn gywir, a chofia y gall pobl roi sylw o dan dy erthygl ac amlygu unrhyw wallau.

8.Newyddion Nodwedd

Mae hon yn erthygl hirach nad yw efallai yn gyfoes ond bydd o ddiddordeb i bobl, hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiddordeb yn y pwnc fel arfer. Rydym wedi cael erthyglau nodwedd wedi eu hysgrifennu am ddigartrefedd, nodiadau Post-it, yr amgylchedd a taqwacore.

9.Teitl newyddion

Gelwir hyn yn bennawd hefyd. Dyma lle mae angen i dy ddychymyg ddod o hyd i rywbeth sy’n fyr ac yn tynnu dy sylw. Ceisia ei gadw i bedwar gair neu lai, ond cofia os na fedri di feddwl am un y gallwn ni wneud hyn i ti.

10.Ysgrifennu’r erthygl

Rydym yn argymell yn gryf dy fod yn ysgrifennu dy erthygl yn Notepad (nid Word – gweler pwynt 11) neu debyg a’i chadw wrth i ti fynd ymlaen. Bydd hyn yn golygu na fyddi di’n colli beth rwyt ti wedi ei ysgrifennu os bydd y cyfrifiadur yn cau i lawr. Yna gall ei chopïo a’i gludo i’r blwch Stori Newyddion.

11.Notepad

Gall Word wneud i’r testun fynd yn od iawn wrth ei ludo i’r blwch Stori Newyddion. Mae hyn yn ymwneud ag HTML. Mae Notepad yn glanhau testun HTML. Gall ddod o hyd i Notepad yn y ffolder Accessories o dan All Programs wrth glicio Start yn Windows.

12.Dy bersonoliaeth

Cofia fod angen i ti roi blas o dy bersonoliaeth dy hun yn dy erthyglau. Rydym yn annog pobl i wneud hynny. Dyweda wrthym os yw’r pwnc yr wyt ti’n ysgrifennu amdano wedi effeithio arnat ti ac ym mha ffordd. Bydda’n eofn a mynega dy farn, ond heb fod yn ddigywilydd nac yn sarhaus.

13.Rhegi

Ni ellir caniatáu rhegi ar y gwefannau oherwydd ystod oed ein darllenwyr (11-25). Os wyt ti’n credu fod yn rhaid i ti regi, cadwa hyn yn ysgafn a gofala ei fod yng nghyd-destun dy erthygl, er na allwn sicrhau y bydd yn cael ei gynnwys.

14.Deunydd tramgwyddus

Ni fydd unrhyw erthyglau neu sylwadau (gweler pwynt 31) sy’n cynnwys deunydd bygythiol, sy’n bwlio, deunydd homoffobig neu hiliol neu debyg yn cael ei roi yn fyw.

15.Cyffuriau, alcohol, tybaco, trais, porn, hapchwarae ac ati

Bydd erthyglau neu ddelweddau sy’n mawrhau unrhyw rai o’r uchod yn cael eu golygu’n drwm ac mae’n debyg na fyddant yn mynd yn fyw am yr un rhesymau â rhegi. Os wyt ti’n ysgrifennu stori gytbwys llawn gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw rai o’r uchod, byddwn yn falch o dy gefnogi.

16.Barn grefyddol

Beth bynnag ydy dy gredoau, parcha rai pobl eraill.

17.Nifer y geiriau

Er nad oes unrhyw nifer penodedig o eiriau wedi eu gosod ar gyfer erthyglau, os mai dim ond ychydig o frawddegau yr wyt wedi eu hysgrifennu bydd hyn yn rhy fyr. Fel canllaw bras anela at 300+ o eiriau ar gyfer erthygl safonol ac 800+ o eiriau ar gyfer erthygl nodwedd (ond dalia ddiddordeb dy ddarllenydd).

18.Sillafu ac atalnodi

Paid â phoeni os nad ti yw’r gorau am sillafu neu atalnodi. Mae gennym olygyddion a fydd yn cywiro camgymeriadau. Paid â defnyddio iaith testun (LOLZ / PMSL/ THNX) neu wynebau yn gwenu (ond gall ddefnyddio’r ddau yn y blychau sylwadau o dan erthyglau).

19.Cynllun

Mae brawddegau byr a pharagraffau yn haws i’r llygad ac yn edrych yn well ar y dudalen. Unwaith eto, paid â phoeni gormod am hyn oherwydd gallwn olygu dy erthygl.

20.Copïo a gludo

Paid â chopïo a gludo mwy nag ychydig eiriau o destun o wefannau eraill. Gelwir hyn yn lladrad a gall ein cael ni i drafferthion. Yr eithriad yw wrth ddefnyddio dyfyniad gan rywun, ond rho enw’r wefan a ddefnyddiwyd (mewn cromfachau) ar ôl y dyfyniad.

21.Ebychnodau

Efallai y byddi di’n cael dy demtio i ychwanegu ebychnod ar ddiwedd pob brawddeg er mwyn cyfleu dy emosiynau. Does dim angen i ti wneud hyn. Bydd pobl yn teimlo dy ddicter, hiwmor neu anghrediniaeth cystal bob tamaid hebddynt.

22.Rhoi geiriau mewn prif lythrennau

Mae’r un peth yn wir ag ar gyfer ebychnodau. Mae rhoi geiriau mewn prif lythrennau yn ymdrech i gyfleu dy ddicter neu dy rwystredigaeth. Mae’n edrych yn drwsgl ar y dudalen ac yn cyfateb i weiddi ar dy ddarllenwyr.

23.Ystrydebau

Ni allwch fforddio colli hyn....gwledd i’r teulu i gyd....i gael amser da, ewch i ... Mae’r rhain i gyd yn ystrydebau y byddai’n well eu hosgoi. Mae geiriau fel gwych, ardderchog ac anhygoel yn iawn, ond ceisia ddefnyddio disgrifiadau i gyfleu dy bwynt.

24.Ailadrodd

Mae’n hawdd dal ati i ailadrodd geiriau ac ymadroddion yn arbennig wrth ysgrifennu erthygl hirach. Awgrym da yw darllen dy erthygl yn uchel i aelod o’r teulu neu ffrind, a phrynu thesawrws (neu fenthyg un o’r llyfrgell) i helpu gyda dod o hyd i eiriau eraill.

25.Athrod

Mae www.dictionary.com yn rhestru hwn fel ‘datganiad neu adroddiad maleisus, ffug a difrïol. Mewn geiriau eraill: cyhuddo rhywun o wneud rhywbeth heb unrhyw dystiolaeth neu reswm da. Gallai hyn ein cael ni (a thi) i drafferth.

26.Teitlau ffilmiau, llyfrau, swyddi ac ati

Dylai’r rhain fod â llythyren gyntaf bob gair mewn prif lythrennau h.y. Harry Potter And The Order Of The Phoenix. Nid oes angen i deitlau fod mewn ‘dyfynodau’.

27.Pwyntiau bwled

  • Mae gan y rhain brif lythyren ar y dechrau ond dim atalnod llawn ar y diwedd

28.Adolygiadau

Os wyt ti’n adolygu rhywbeth (ffilm / CD / gig / llyfr) cofia gynnwys dolennau i wefannau a phethau fel oed addas ac amser gwylio ar gyfer y ffilmiau. Gallet hefyd gynnwys fideo o’r hysbyslun (neu fideo cerddoriaeth o’r band) – gweler pwynt 33.

29.Dolennau

Os oes gen ti ddolennau y dymuna eu gweld yn dy erthygl, gallet eu rhestru ar ddiwedd y stori a byddwn yn rhoi hypergyswllt iddynt gyda’r testun perthnasol.

30.Cyfieithu

Os wyt ti’n gallu ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg byddai’n wych gweld dy erthygl yn ddwyieithog. Os nad wyt ti, bydd erthyglau a ddewisir ar gyfer CLIC cenedlaethol o safleoedd rhanbarthol yn cael eu cyfieithu yn awtomatig. Fel arall, mae hyn yn waith i’r golygyddion rhanbarthol.

31.Sylwadau

O dan erthyglau byw ceir blwch lle gall pobl adael sylwadau. Mae croeso i ti ymateb i sylwadau ond bydda’n glên a chofia fod sylwadau yn cael eu safoni cyn mynd yn fyw.

32.Meintiau delweddau

Mae angen i ddelweddau a lwythwch fod mewn fformat JPG ac o faint derbyniol: yn ddelfrydol oddeutu 600 x 600 picsel. Os ydynt yn rhy fach, bydd delweddau yn edrych yn niwlog; os ydynt yn rhy fawr ni fydd y wefan yn gallu eu trin. Ond paid â phoeni os na fedri di ddod o hyd i ddelweddau oherwydd gallwn ni wneud hyn i ti.

33.Newid meintiau delweddau

Os oes gen ti ac os wyt ti yn gyfarwydd â Photoshop dylet allu newid maint delweddau. Os nad oes, mae www.pixlr.com/ yn olygydd ffotograffau ar-lein am ddim a syml lle gall leihau dy ffotograffau.

34.Hawlfraint

Os nad wyt ti’n llwytho delweddau dy hun bydd angen caniatâd y sawl sy’n berchen arnynt. Os nad wyt ti wedi gwneud hyn, ychwanega ddolen i’r safle y daw’r llun ohono o dan dy erthygl a byddwn yn gofyn am ganiatâd i ti. Gellir cael mwy am hawlfraint yma.

35.Sylwadau Creadigol (SC) [Creative Commons]

Mae SC yn ffordd gynyddol boblogaidd o rannu gwaith creadigol. Bydd yr artistiaid yn caniatáu i ti ddefnyddio eu delweddau cyhyd â’u bod yn cael eu henwi ac y dilynir set syml o reolau. Rydym yn argymell www.compfight.com Flickr ar gyfer chwilio am ddelweddau SC.

36.Cydnabod ffotograffwyr ac artistiaid

Os wyt ti’n defnyddio delwedd rhywun arall (gyda’u caniatâd) bydd angen i ti ychwanegu dolen i’w tudalen oriel neu wefan o dan dy erthygl. Yna byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu henwi drwy’r ddolen honno.

37.Llwytho fideo

Ceir blwch ar y dudalen Cyflwyno Newyddion ar gyfer URL* a gymerir o uwchben y fideo o dy ddewis ar YouTube neu Vimeo. Gofala: a) fod gen ti ganiatâd i’w ddefnyddio, b) nad yw’r fideo yn cynnwys unrhyw beth sarhaus a c) nad yw wedi ei analluogi** i fewnosod.
(*Mae cyfeiriad y dudalen gwe yn y bar ar frig y dudalen)
(**Golyga hyn na chaniateir i’r fideo gael ei chopïo o YouTube / Vimeo)

38.Gwybodaeth ddefnyddiol

Dolennau

  1. www.walesonline.co.uk – gwefan Cyfryngau Cymru
  2. www.uk.reuters.com – newyddion a materion rhyngwladol
  3. www.bbc.co.uk/newyddion – newyddion a chwaraeon o Gymru
  4. www.sky.com/news – newyddion rhyngwladol o safbwynt y DU
  5. www.funkydragon.org – Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
  6. www.empireonline.com – i dy ysbrydoli wrth ysgrifennu erthygl ffilmiau
  7. www.filmagencywales.com – newyddion am ffilmiau Cymru
  8. www.welshmusicfoundation.com – mae’n cynnwys cyfarwyddiadur ar gyfer cylchgronau cerddoriaeth Cymru
  9. www.nme.com – i dy ysbrydoli wrth ysgrifennu erthygl am gerddoriaeth
  10. www.dictionary.cambridge.org – geiriadur ar-lein am ddim
  11. www.thesaurus.com – thesawrws ar-lein am ddim
  12. www.cysgliad.com - gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg am ddim

Llyfrau

  1. Concise Oxford English Dictionary
  2. Concise Oxford Thesaurus
  3. Online News: Journalism And The Internet – Stuart Allan (Open University Press, 2006)
  4. Eats Shoots & Leaves: The Zero Tolerance Approach To Punctuation – Lynne Truss (Profile Books, 2003)
  5. The Universal Journalist – David Randall (Pluto Press, 1996)
  6. Writing For Journalists – Wynford Hicks (Routledge, 1999)
  7. I Before E (Except After C): Old-School Ways to Remember Stuff – Judy Parkinson (Michael O’Mara Books, 2007)

Os wyt ti’n ansicr am unrhyw rai o’r uchod (neu CLIC yn gyffredinol) e-bostia ryan@promo-cymru.org neu galwa’r swyddfa ar 029 2046 2222 lle bydd un o’r tîm yn falch o dy helpu.

Ryan Heeger
Golygydd Cenedlaethol CLIC
Mai 2010

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50