Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Ysbrydoli Cenhedlaeth

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 07/11/2012 at 15:12
0 comments » - Tagged as Culture, People, Topical, Volunteering

  • Inspiring a Nation 1
  • Inspiring a generation 2

Ysbrydoli Cenhedlaeth.  Dyna oedd amcan Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni.  Gan i’r gemau bellach ddod i ben ac i’r medalau gael eu hennill, mae’n amser creu etifeddiaeth barhaol.  Yng Nghymru dechreuodd y gwaith yr wythnos diwethaf wrth i drydedd Cynhadledd Llysgenhadon Ifanc gael ei chynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Cymru.

Daeth wyth deg o bobl o ledled Cymru ynghyd i ddysgu sut y gallant wneud gwahaniaeth yn eu hawdurdodau lleol a llwyddo yn uchelgais Chwaraeon Cymru sef cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes.  Mae gan y bobl ifanc hyn a ddewiswyd i fod yn Llysgenhadon Aur y cyfrifoldeb o fod yn esiampl gadarnhaol er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.  Maent yn ymuno a thros fil o lysgenhadon efydd ac arian ledled Cymru sy’n frwdfrydig dros greu etifeddiaeth barhaol yng Nghymru.

Yn bresennol yn y gynhadledd roedd Alex Danson a enillodd fedal efydd a Mel Clarke a enillodd fedal arian paralympaidd.   Roedd Rhys Jones paraolympiad a fu’n Llysgennad Ifanc ei hun hefyd yn bresennol.  Eu gwaith yn ystod y dydd oed mentora Llysgenhadon Ifanc, a’u dysgu am y sgiliau y byddant eu hangen a pha sgiliau y gallant ddatblygu.  Bu cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r athletwyr a chlywed am eu profiadau yn ystod yr haf.

Gadwodd pawb y gynhadledd yn teimlo’n llwyr ysbrydoledig ac yn barod am y flwyddyn brysur sydd i ddod.

Os hoffech gael gwybod y diweddaraf am yr hyn mae Llysgenhadon Ifanc yn ei wneud yng Nghymru yna dilynwch @YACymru ar twitter https://twitter.com/YACymru

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.