Ymgynghoriad Penderfyniadau
Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gymryd rhan mewn arolwg ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/cyllideb (neu mae copïau papur ar gael mewn llefydd fel llyfrgelloedd). Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth, fideos a lluniau ar-lein am yr ymgynghoriad hwn.
Mae cryn dipyn o gynigion yn yr arolwg, ac efallai na fyddwch yn deall pob un neu efallai na fydd gennych rhywbeth i ddweud am bob un ohonynt. Byddem yn dal yn falch o glywed eich barn - hyd yn oed am rai o syniadau’r Cyngor yn unig.
Os nad ydych eisiau cymryd rhan yn yr arolwg, efallai y byddwch yn dymuno edrych ar y cynigion ynddo, ac anfon e-bost atom neu ysgrifennu atom i adael i ni wybod beth yw barn eich cyngor ysgol (neu'r ysgol gyfan!). . Gallwch gysylltu â ni yn telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk neu Dywedwch Eich Barn, Anecs 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1NF.
Y dyddiad cau i roi eich barn i ni yw dydd Gwener 24 Hydref (mae hyn er mwyn i ni gael digon o amser i edrych ar yr holl ymatebion a dderbyniwn a defnyddio'r adborth hwn i wneud penderfyniadau yn fuan yn 2015.
Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.