Welcome to Young Wrexham! Please sign up or login

Ymgynghoriad Penderfyniadau

Posted by lisa young wrexham from Wrexham - Published on 18/09/2014 at 11:10
0 comments » - Tagged as Climate, Education, Environment, People, Sport & Leisure, Topical, Work & Training

Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gymryd rhan mewn arolwg ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/cyllideb (neu mae copïau papur ar gael mewn llefydd fel llyfrgelloedd).  Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth, fideos a lluniau ar-lein am yr ymgynghoriad hwn.
Mae cryn dipyn o gynigion yn yr arolwg, ac efallai na fyddwch yn deall pob un neu efallai na fydd gennych rhywbeth i ddweud am bob un ohonynt.  Byddem yn dal yn falch o glywed eich barn - hyd yn oed am rai o syniadau’r Cyngor yn unig.
Os nad ydych eisiau cymryd rhan yn yr arolwg, efallai y byddwch yn dymuno edrych ar y cynigion ynddo, ac anfon e-bost atom neu ysgrifennu atom i adael i ni wybod beth yw barn eich cyngor ysgol (neu'r ysgol gyfan!). .  Gallwch gysylltu â ni yn telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk neu Dywedwch Eich Barn, Anecs 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1NF.
Y dyddiad cau i roi eich barn i ni yw dydd Gwener 24 Hydref (mae hyn er mwyn i ni gael digon o amser i edrych ar yr holl ymatebion a dderbyniwn a defnyddio'r adborth hwn i wneud penderfyniadau yn fuan yn 2015.
Edrychwn ymlaen at glywed eich barn. 

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.